Remove ads
ardal Caerdydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw Ystum Taf (Saesneg: Llandaff North). Saif i'r gogledd-ddwyrain o Llandaf, caiff y ddau eu gwahanu gan Afon Taf. Lleolir ysgol iau Hawthorn, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf yma.
Math | cymdogaeth, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 8,068 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.502°N 3.226°W |
Cod SYG | W04000851 |
AS/au y DU | Anna McMorrin (Llafur) |
Lleolir ward Ystum Taf o fewn etholaeth seneddol Gogledd Caerdydd. Mae'r arffinio gyda wardiau Radyr a Morganstown i'r gogledd-orllewin; Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais i'r gogledd; Y Mynydd Bychan i'r gogledd ddwyrain; Gabalfa i'r dwyrain; Rhiwbeina a Llandaf i'r de-orllewin.
Mae Gorsaf reilffordd Llandaf yn gwasanaethu'r ardal, gyda gwasnaethau yn rhedeg i'r gogledd i Dreherbert, Merthyr Tudfil neu Aberdâr gan deithio trwy Radur a Phontypridd. Mae gwasanaethau yn teithio i Caerdydd Canolog i'r de, gan deithio trwy Heol y Frenhines.
Mae gwasanaethau bws rheolaidd rhif 24 (Llandaf-Pontcanna-Caerdydd Canolog), a 25 (Yr Eglwys Newydd-Birchgrove-Gabalfa-Cathays-Caerdydd Canolog) yn cael eu rhedeg gan gwmni Bws Caerdydd.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Ystum Taf (pob oed) (8,344) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Ystum Taf) (895) | 11.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Ystum Taf) (6684) | 80.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Ystum Taf) (1,283) | 36.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.