Pobol y Cwm

Opera sebon Cymraeg From Wikipedia, the free encyclopedia

Pobol y Cwm
Remove ads

Un o gyfresi teledu mwyaf poblogaidd Cymru yw Pobol y Cwm. Dyma'r opera sebon mwyaf hirhoedlog a gynhyrchir gan y BBC. Crewyd y gyfres gan y dramodydd Gwenlyn Parry a'r cynhyrchydd John Hefin.[1] Ar wahân i rygbi, dyma'r rhaglen mwyaf poblogaidd ar S4C.[2]

Ffeithiau sydyn Genre, Serennu ...
Remove ads

Cefndir

Fe ddechreuodd y gyfres ar 16 Hydref 1974;[3] felly dim ond Coronation Street ac Emmerdale sydd wedi parhau yn hirach na Pobol y Cwm ar y teledu ym Mhrydain. Yn y dyddiau cynnar fe'i ddarlledwyd y diwrnod canlynol am 12:25 ar rwydwaith BBC 1.[4]

Ymysg y 6 sgriptiwr cyntaf roedd Gwynne D. Evans.[5]

Wedi i S4C gael ei sefydlu, trosglwyddodd y gyfres i'r sianel honno a bellach gyda pum pennod yr wythnos trwy gydol y flwyddyn. Cafodd hynny ei leihau i dri pennod yr wythnos wedi pandemig COVID.[6]

Mae S4C yn dangos Pobol y Cwm fel arfer o nos Lun i nos Wener am 19:30 neu 20:00, heblaw yn ystod Eisteddfodau neu lle darlledir chwaraeon. Maent yn ail-ddarlledu 'Omnibws' o holl benodau'r wythnos gydag isdeitlau yn Saesneg ar y sgrin ar nos Sul am 17:30.

Mae'r rhaglen wedi bod yn feithrinfa i nifer o actorion a aeth ymlaen i adnabyddiaeth rhyngwladol, yn cynnwys Ioan Gruffudd a Iwan Rheon. Mae nifer o enwogion o actorion gwadd wedi ymddangos yn y gyfres hefyd, yn cynnwys Rhys Meirion, Ray Gravell, Michael Aspel, Giant Haystacks ac El Bandito, Dave Brailsford, Russell Grant, Michael Sheen a Ruth Jones.[7]

Yn Hydref 2024, dathlwyd 50 mlynedd o'r gyfres gyda nifer o rhaglenni arbennig i nodi'r achlysur. Yn ogystal agorwyd y set i'r cyhoedd gyda theithiau ar gael o gwmpas y stiwdios a'r brif stryd.[8]

Remove ads

Cyfres PyC

Yn Ebrill 2013 cynhyrchwyd cyfres aml-blatfform PyC a oedd yn seiliedig a rai o gymeriadau ifanc Pobol y Cwm. Bwriad y prosiect oedd apelio at oedolion ifanc a chwilio am ffyrdd newydd o ddweud stori. Roedd y gyfres ar gael ar wefan S4C gyda phennod yn cael ei ryddhau am 9pm dros gyfnod o wythnos.[9]

Lleoliad

Wedi'i lleoli ym mhentref dychmygol Cwmderi yng Nghwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin, mae'r gyfres opera sebon hon yn canolbwyntio ar fywyd, gwaith, cariad a materion teuluol. Ar y dechrau, pentref tawel iawn oedd Cwmderi er gwaethaf perthnasau personol anodd. Tueddai'r straeon ganolbwyntio o gwmpas cartref y henoed Bryn Awelon a'r dafarn leol, Y Deri Arms.

Mae'r dafarn yn dal i fod yn ganolfan pwysig yn yr opera sebon, yn ogystal â siopau a chartrefi'r sawl sy'n byw yng Nghwmderi. Yn ddiweddar, mae'r straeon wedi newid i ganolbwyntio ar faterion mwy dadleuol fel llofruddiaeth, trais, cyffuriau, a dyfodol cymunedau gwledig. Un o themâu rheolaidd y gyfres ers 1974 yw dyfodol yr iaith Gymraeg. Rhai o'r straeon a gydiodd fwyaf yn nychymyg y gwylwyr dros y blynyddoedd diweddar oedd marwolaeth y cymeriad Reg Harries, cymeriad selog yn y gyfres ers yr ail bennod, a'r damwain gar pan gollodd Anita'r babi yr oedd hi'n ei gario.

Ffilmio

Ddiwedd y 90au, codwyd set barhaol i'r gyfres y tu ôl i faes parcio BBC Cymru yn Llandaf, Caerdydd, gan hwyluso'r ffilmio a rhoi cartref parhaol i'r rhaglen. Yn 2012 symudodd y cynhyrchiad i stiwdios newydd pwrpasol 'Porth y Rath' ym Mae Caerdydd lle ail-grewyd stryd fawr Cwmderi a setiau mewnol. Rhennir y stiwdios gyda chynhyrchiadau drama arall y BBC gan gynnwys Doctor Who a Casualty a mae'n bosib i'r rhaglen wneud defnydd achlysurol o'r setiau arall.

Saethir y rhan fwyaf o olygfeydd awyr agored Pobol y Cwm yn ardal pentref Llanbedr-y-fro, i'r gorllewin o Gaerdydd.

Aelodau cast cyfredol

Rhagor o wybodaeth Cymeriad, Actor ...
Remove ads

Cyn aelodau cast ac aelodau achlysurol

Rhagor o wybodaeth Cymeriad, Actor ...
Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads