Actor o Gymro From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor awdur o Gymro yw Rhys Parry Jones (ganwyd 18 Chwefror 1960) sydd yn adnabyddus am chwarae rhan Llew yn Pobol y Cwm. Mae Rhys wedi ymddangos mewn penodau o EastEnders, Tracy Beaker, a'r sitcom High Hopes ar BBC Cymru.
Magwyd Rhys yng Nghrymych, Sir Benfro.[1] Aeth i Ysgol Gyfun Ystalyfera ac astudiodd ddrama yn Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd.[2]
Roedd yn aelod o Theatr Gorllewin Morgannwg yn gynnar yn ei yrfa.[3] Yn yr 1980au roedd yn un o actorion craidd y gyfres deledu hanes, i blant - Tocyn Diwrnod. Ysgrifennwyd a pherfformiwyd y gyfres gan y cwmni theatr a'i cynhyrchwyd gan HTV Cymru i S4C.[4]
Yn 2007, ymddangosodd yn y ffilm arswyd Gymreig Flick, oedd yn cyd-serennu Faye Dunaway, Hugh O'Conor a Michelle Ryan.
Yn 2008 fe ymddangosodd yn y ffilm Arwyr. Mae'n serennu yn Patagonia gan Marc Evans, drama wedi ei gosod yn Y Wladfa, a ddangoswyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Seattle ar 10 Mehefin 2010.
Mae'n chwarae rhan Tim Gibson yn ail gyfres y ddrama ddirgelwch 35 Diwrnod.
Mae'n briod a'r actores Lydia Lloyd Parry.[5] Mae'n gefnder i Dafydd Iwan a'i frodyr.[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.