From Wikipedia, the free encyclopedia
Actores, cyfarwyddydd theatr a chynhyrchydd teledu yw Bethan Jones (ganwyd 1956), sy'n enedigol o Rosllannerchrugog. Un o sylfaenwyr cwmni theatr Dalier Sylw, fu'n weithgar iawn yng Nghymru yn y 1990au. Cyfarwyddodd Bethan nifer o ddramâu beiddgar a dylanwadol, gan gynnwys llwyfaniad cyntaf o ddramâu Meic Povey (Wyneb Yn Wyneb, Tair a Fel Anifail) a dramâu newydd gan Geraint Lewis, Gareth Miles a Siôn Eirian. Wedi i Dalier Sylw ddod i ben, bu'n Gynhyrchydd ar y gyfres Pobol y Cwm, ac yn Uwch Gynhyrchydd ar sawl cyfres deledu uchelgeisiol i'r BBC fel addasiadau o'r nofelau War And Peace a Les Misérables. Cafodd ei henwebu am ddwy Wobr Emmy am ei gwaith.[1] Derbyniodd Wobr y Fonesig Siân Phillips gan BAFTA Cymru yn 2019.[2]
Bethan Jones | |
---|---|
Ganwyd | Bethan Elwyn Jones 1956 Rhosllannerchrugog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | Ysgol Morgan Llwyd |
Galwedigaeth | cyfarwyddydd theatr a chynhyrchydd teledu |
Cysylltir gyda | Dalier Sylw a Pobol Y Cwm |
Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Morgan Llwyd ble bu'r dramodydd Gareth Miles yn athro arni.[3] Dechreuodd ei gyrfa fel actores, a bu'n rhan o gyfresi cynnar S4C fel Coleg a Dinas. Bu'n cyfarwyddo gyda chwmniau theatr fel Moving Being. Ymunodd â BBC Cymru fel cynhyrchydd drama yn 2002 yn bennaf ar y gyfres Pobol Y Cwm, cyn cael ei phenodi yn Uwch Gynhyrchydd Drama gan BBC Cymru yn 2005.[2] Sefydlodd sawl cwmni cynhyrchu ffilm a theledu.[4] Sefydlodd gwmni ffilm Red Seam ar y cyd â'r actor Michael Sheen a bu'r ddau yn cynhyrchu'r gyfres deledu The Way.[5] Bu'n gweithio i gwmnïau annibynnol fel Cuba Pictures, Playground Entertainment a Little Door Productions.[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.