actores a aned yn 1905 From Wikipedia, the free encyclopedia
Actores o Gymraes oedd Rachel Thomas (10 Chwefror 1905 – 8 Chwefror 1995) sy'n adnabyddus am chwarae rhan y Fam nodweddiadol Gymreig ac am y cymeriad Bella Davies yn yr opera sebon Pobol y Cwm.[1]
Rachel Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 10 Chwefror 1905 Alltwen |
Bu farw | 8 Chwefror 1995 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor ffilm |
Gwobr/au | OBE |
Ganwyd Rachel Thomas ym mhentre yr Alltwen ger Pontardawe, yn ferch i Emily Thomas, morwyn. Fe'i magwyd gan chwaer ei mam Mary a'i gŵr David Roberts. Er mae Thomas oedd cyfenw ei fam, fel Rachel Roberts roedd hi'n cael ei hadnabod cyn priodi.
Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Yr Alltwen ac yn Ysgol y Sir Ystalyfera.
Roedd Rachel yn gobeithio mynd i goleg hyfforddi i ddod yn athrawes gymwysedig ond doedd amgylchiadau teuluol ddim yn caniatáu. Bu'n gweithio fel athrawes heb gymhwyster yn Ysgol Ferched Abercledin, Gilfach Goch ac Ysgol Rhos, Pontardawe.
Ym 1933 darlledwyd gwasanaeth capel ar y radio o gapel yr Annibynwyr, Minny Street, Caerdydd. Gofynnwyd i Rachel, fel un o aelodau'r capel i ddarllen darn o'r Beibl yn y gwasanaeth. Gwnaeth ei allu i leisio a chymeriadu wrth ddarllen y darn argraff ar Sam Jones, cynhyrchydd rhaglenni Cymraeg Radio'r BBC. Ym 1934 cafodd cynnig rhan yn y ddrama gomedi Cymraeg gyntaf i'w darlledu ar y radio gan y BBC, Y Practis, gan Leyshon Williams. Wedi hynny bu'n perfformio yn rheolaidd am weddill ei hoes.
Fe roedd hi'n actores a ddaeth yn adnabyddus am chwarae rhan y Fam Gymreig (a'r Famgu yn eu blynyddoedd hwyrach) a fe ymddangosodd ar gynhyrchiadau ffilm a theledu yn Gymraeg a Saesneg.
Ymddangosodd yn ffilmiau cynnar fel The Proud Valley (1940) gyda Paul Robeson, Blue Scar (1949) a Tiger Bay (1959). Yn 1943, fe ymddangosodd fel Maria Petrovitch yn y ffilm ryfel Ealing Undercover, hanes y mudiad gwrthsafiad guerilla yn Iwgoslafia yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn 1954 roedd hi'n rhan o gast gwreiddiol drama radio Under Milk Wood gan Dylan Thomas a ddarlledwyd ar BBC Radio. Roedd hi'n chwarae rhan Rosie Probert, Mary Ann Sailors a Mrs. Willy Nilly; a chwareodd ran Mary Ann Sailors yn y fersiwn ffilm o 1972.[2][3]
Ym 1931 priododd Hywel John Thomas, prifathro cyntaf Ysgol Eglwys Wen, Caerdydd. Bu iddynt un ferch, Delyth Mariel. Bu farw deuddydd cyn ei phen-blwydd yn 90 oed ar ôl cwympo yn ei chartref yng Nghaerdydd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.