From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfres drama o BBC Cymru yw The Life and Times of David Lloyd George. Fe'i darlledwyd gyntaf ym 1981 ar rwydwaith BBC1. Chwaraewyd y prif ran gan Philip Madoc.
The Life and Times of David Lloyd George | |
---|---|
Genre | Drama hanesyddol |
Serennu | Philip Madoc Lisabeth Miles William Thomas Rachel Thomas |
Cyfansoddwr/wyr | Kenyon Emrys-Roberts Ennio Morricone |
Gwlad/gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 1 |
Nifer penodau | 9 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd | John Hefin |
Golygydd | Keith Raby Paul Turner |
Amser rhedeg | 60 munud i bob rhan |
Cwmnïau cynhyrchu |
BBC |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | BBC |
Darllediad gwreiddiol | 4 Mawrth 1981 – 29 Ebrill 1981 |
Dolenni allanol | |
Proffil IMDb |
Roedd yn cynnwys cerddoriaeth gan Ennio Morricone: roedd y prif thema, "Chi Mai", yn llwyddiant mawr yn siartiau'r DU, gan gyrraedd rhif 2. Roedd y teitlau agoriadol yn dangos David Lloyd George fel hen ddyn yn cerdded trwy gefn gwlad ger Cricieth gan gofio ei hun fel bachgen yn cael ei fedyddio mewn nant mynydd gan ei Wncl Lloyd.
Mae'r gyfres mewn 9 rhan sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau pwysig ym mywyd Lloyd George o'i eni ym Manceinion ym mis Ionawr 1863 hyd at ei farwolaeth ym 1945 yn Llanystumdwy. Mae digwyddiadau mawr ei fywyd personol, yn enwedig rhedeg dau deulu, i'w gweld yn y cynhyrchiad. Fodd bynnag, mae llawer o fanylion ei yrfa wleidyddol hir (dros 54 mlynedd) wedi'u symleiddio. Yr ymgynghorydd hanesyddol ar gyfer y gyfres oedd yr hanesydd A. J. P. Taylor.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.