From Wikipedia, the free encyclopedia
Genws o Homininau yw Paranthropus (o'r groeg παρα, para "ymyl"; άνθρωπος, ánthropos "dynol"), genws sydd wedi ei ddifodi bellach. Gelwir y genws hwn hefyd yn Australopithecines Cadarn, ac yn ôl pob tebyg mae aelodau'r genws yn ddisgynyddion yr hominidau gracile australopithecine (Australopithecus) gyda'r esgblygiad o'r naill i'r llall yn digwydd tua 2.7 miliwn o flynyddoedd yn ôl (neu CP).[1]
Paranthropus "Yr Australopithecines Cadarn" Amrediad amseryddol: Plïosen-Pleistosen, 2.7–1.2 Miliwn o fl. CP | |
---|---|
Penglog Paranthropus boisei | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primatau |
Teulu: | Hominidae |
Is-deulu: | Homininae |
Llwyth: | Hominini |
Is-lwyth: | Australopithecina |
Genws: | Paranthropus Broom, 1938 |
Rhywogaethau | |
†Paranthropus aethiopicus |
Nodweddir aelodau'r genws hwn (fel yr awgryma'r enw) gan ên a rhannau deinyddol y benglog sy'n fwy na'r arfer. Mae'r rhannau hyn yn cynnwys y grib saethol (sagittal cranial crest), tebyg i'r gorila, ac yn awgrymu fod ganddo gyhyrau llydan i gnoi ei fwyd llysieuol. Ond dyn wahanol i'r gorila, mae'r grib saethol traws (transverse cranial crests) ar goll.
Darganuwyd rhan o graniwm a gên isaf Paranthropus robustus yn 1938 gan fachgen ysgol o'r enw Gert Terblanche, yn Kromdraai B (70 km i'r de-orllewin o Pretoria) yn Ne Affrica. Fe'i disgrifiwyd fel genws a rhywogaeth newydd sbon gan Robert Broom o Amgueddfa'r Transvaal. Cloddiwyd y safle ers 1993 gan Francis Thackeray hefyd o Amgueddfa'r Transvaal. Nodir fod Kromdraai B yn dyddio'n ôl i o leiaf 1.95 miliwn o flynyddoedd CP.
Darganfu Mary Leakey orfant (mandibl) a rhan o benglog Paranthropus boisei ar 17 Gorffennaf, 1959, ar safle o'r enw 'Gwely FLK 1' yng Ngheunant Olduvai yn Tansanïa (sbesimen OH 5). Ar y diwrnod hwnnw roedd Mary'n gweithio ar ei phen ei hun, gan fod Louis Leakey yn sâl yn y gwersyll. Rhuthrodd Leakey yn ôl i'r gwersyll pan glywodd y newyddion! Penderfynwyd peidio a chloddio ymhellach tan i ffotograffydd gyrraedd i dynnu lluniau.
Yn ei nodiadau cofnododd Louis yr enw Titanohomo mirabilis, am y tro cyntaf, gyda'r enw a ddewisiodd yn cyfleu agweddau dynol yr esgyrn a welodd. Cyfeiriodd Louis a Mary ato fel "y Bachgen Annwyl" ("Dear Boy").
Ataliwyd cloddio pellach ar 7 Awst pan gafwyd hyd i offer-llaw Oldowan (cyfnod yr offer-llaw hynaf a ganfuwyd), ac esgyrn anifeiliaid.
Cyhoeddwyd gwybodaeth am y ffosil yn Nature, dyddiedig 15 Awst 1959, ond o ganlyniad i streic y argraffwyr ni ryddhawyd yr wybodaeth tan Medi. Ynddo gosododd Louis y ffosil yn nheulu'r Australopithecinae gan greu genws newydd ar ei gyfer, sef Zinjanthropus, rhywogaethau boisei. Mae "Zinj" yn air Arabeg hynafol sy'n golygu 'arfordir Dwyrain Affrica' ac mae "boisei" yn cyfeirio at Charles Watson Boise, noddwr anthropolegol y Leakeys. Seiliodd Louis ei ddosbarthiad ar ugain o wahaniaethau rhwng Paranthropus a'r Australopithecus.
Mae'r anthropolegydd Richard Dawkins yn amau a yw'r ffosiliau hyn, a ffosiliau eraill a ddarganfuwyd mewn mannau eraill, yn haeddu cael eu dosbarthu i rywogaethau ar wahân, unigol. Mae'n amau'r creaduriaid canlynol: Australopithecus (neu Paranthropus) robustus, Australopithecus (neu Paranthropus neu Zinjanthropus) boisei, a Australopithecus (neu Paranthropus) aethiopicus.[2][3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.