From Wikipedia, the free encyclopedia
Mamal hollysol a phrendrig fel arfer o'r urdd Primates a nodwedddir gan ddwylo a thraed pumbys gafaelog, golwg deulygad, trwyn cwta ac ymennydd mawr yw primat (lluosog y Lladin prīmās ‘primas, cyntaf’). Esblygodd y primatiaid 85–55 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP) yn gyntaf o famaliaid bach daeardrig, ac a ymaddasodd i fyw yn y coedwigoedd trofannol. Mae llawer o nodweddion primatiaid yn nodweddiadol iawn o'r ymaddasiadau hyn i fywyd yn yr amgylchedd heriol hwn, gan gynnwys ymennydd mawr, craffter gweledol, golwg lliw, gwregys yr ysgwydd a dwylo deheuig, defnyddiol. Mae'r grŵp yn cynnwys lemyriaid, lorisiaid, galagoaid, tarsieriaid, mwncïod ac epaod (gan gynnwys bodau dynol). Ceir yr amrywiaeth fwyaf o brimatiaid yn rhanbarthau trofannol ac isdrofannol Affrica, Asia a'r Amerig. Mae'r mwyafrif ohonynt yn byw mewn coed ac mae ganddynt nifer o ymaddasiadau er mwyn dringo. Mae llawer ohonynt yn hollysol ac yn bwydo ar ffrwythau, dail ac anifeiliaid bach.
Primatiaid | |
---|---|
Mandril (Mandrillus sphinx) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates Linnaeus, 1758 |
Is-urddau | |
|
Mae primatiaid yn amrywio o ran maint o'r lemwr lleiaf, y llyglemwr madam Berthe (Microcebus berthae) 9.2 cm, sy'n pwyso 30 gram (1 oz), i'r gorila dwyreiniol (Gorilla beringei), sy'n 1.8 metr o daldra ac yn pwyso dros 200 cilogram.
Ceir rhwng 376-522 o rywogaethau o brimatiaid byw, yn dibynnu ar ba ddosbarthiad a ddefnyddir. Mae rhywogaethau newydd yn parhau i gael eu darganfod: disgrifiwyd dros 25 o rywogaethau yn y 2000au, 36 yn y 2010au, a thri yn y 2020au.
Dosberthir primatiaid yn ddau is-urdd: y strepsirrhines a'r haplorhines. Mae strepsirrinau yn cynnwys y lemyriaid, y galagos, a'r lorisiaid, tra bod haplorhinau'n cynnwys yr epaod a'r mwncïod. Gellir dosbarthu'r mwncïod (y simiaid) ymhellach i fwncïod y Byd Newydd (Platyrrhina) a mwnciod yr Hen Fyd (Catarrhina), ac epaod (gan gynnwys bodau dynol). Deugain miliwn o flynyddoedd yn ôl, ymfudodd y mwncïod (simiaid) o Affrica i Dde America yn ôl pob tebyg trwy ddrifftio ar ganghenau coed, a arweiniodd at bum teulu gwreiddiol o fwncïod y Byd Newydd. Gwahanodd gweddill y simiaid i epaod (Hominoidea) a mwncïod yr Hen Fyd (Cercopithecoidea) tua 25 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Ymhlith y rhywogaethau cyffredin sy'n simiaidd mae'r babŵns yr Hen Fyd, y macaco, y giboniaid, yr epaod mawr; a'r mwncïod cycyllog, mwncïod udwyr a gwiwerfwncïod (y Byd Newydd).
Mae gan y primatiaid ymennydd mawr (o'i gymharu â maint y corff) yng nghyd-destyn mamaliaid eraill, yn ogystal â dibyniaeth gynyddol ar graffter gweledol ar draul yr ymdeimlad o arogl, sef y system synhwyraidd amlycaf yn y rhan fwyaf o famaliaid. Mae'r nodweddion hyn yn fwy datblygedig mewn mwncïod ac epaod, ac yn llai amlwg mewn lorisiaid a lemyriaid. Mae gan rai primatiaid olwg trilliw.
Ac eithrio epaod (gan gynnwys bodau dynol), mae gan brimatiaid fel prosimiaid a mwncïod gynffonau. Mae gan y rhan fwyaf o brimatiaid fodiau gwrthsymudol hefyd. Mae llawer o rywogaethau yn rhywiol ddwyffurf; gall y gwahaniaethau rhngddynt gynnwys màs y cyhyrau, dosbarthiad braster, lled pelfig, maint dannedd llygad, dosbarthiad gwallt, a lliwiad. Mae primatiaid yn datblygu'n arafach na mamaliaid eraill o faint tebyg, maent yn cyrraedd aeddfedrwydd yn hwyrach yn eu hoes, ond mae ganddynt oes hirach. Yn dibynnu ar y rhywogaeth, gall oedolion fyw ar ben ei hunain, mewn parau sy'n paru, neu mewn grwpiau o hyd at gannoedd o aelodau. Mae rhai primatiaid, gan gynnwys gorilod, bodau dynol a babŵns, yn ddaeardrig yn bennaf yn hytrach nag yn brendrig, ond mae gan bob rhywogaeth ymaddasiadau er mwyn dringo coed. Ymhlith y technegau ymsymud drwy goed mae neidio o goeden i goeden a siglo rhwng canghennau coed (breichio). Mae technegau ymsymud ar y ddaear yn cynnwys cerdded ar ei bedwar, weithiau ar ei gygnau, a symudedd dwy-droed.
Mae'n debygol fod y primatiaid ymhlith yr anifeiliaid mwyaf cymdeithasol ar wyneb y Ddaear, gan eu bod yn ffurfio parau (rhai am oes), grwpiau teuluol, haremau un-gwryw, a grwpiau aml-wryw/aml-benyw. Mae'r rhan fwyaf o brimatiaid yn aros yn rhannol brendrig o leiaf: yr eithriadau yw bodau dynol, rhai epaod mawr eraill, a babŵns, pob un ohonynt wedi gadael y coed am y ddaer ac sy'n awr yn byw ym mhob cyfandir dan haul.
Gall rhyngweithio agos rhwng bodau dynol a phrimatiaid an-ddynol drosglwyddo clefydau milheintiol, yn enwedig afiechydon firws, gan gynnwys herpes, y frech goch, ebola, y gynddaredd, a hepatitis. Defnyddir miloedd o brimatiaid an-ddynol mewn llawer o labordai ledled y byd oherwydd eu tebygrwydd seicolegol a ffisiolegol i fodau dynol. Mae tua 60% o rywogaethau o brimatiaid dan fygythiad difodiant. Ymhlith y bygythiadau mwyaf cyffredin mae: datgoedwigo a hela primatiaid i'w defnyddio mewn meddyginiaethau, fel anifeiliaid anwes, neu ar gyfer bwyd. Clirio coedwigoedd trofannol ar raddfa fawr ar gyfer amaethyddiaeth yw'r bygythiad mwyaf.
|
Credir bod llinach y primatiaid yn mynd yn ôl o leiaf i'r ffin rhwng y ddau gyfnod Cretasaidd-Paleogen hy tua 63–74 miliwn o flynyddoedd CP.[1][2][3][4][5] Er hyn, dim ond i'r Palesosen Diweddar Affrica mae'r ffosiliau'n dyddio (c.57 miliwn i flynyddoedd CP) (sef y rhywogaeth Altiatlasius)[6] neu'r trawsnewidiad Paleosen-Ëosen yn y cyfandiroedd gogleddol, c. 55 mof CP (Cantius, Donrussellia, Altanius, Plesiadapis a Teilhardina).[7][8][9] Mae astudiaethau eraill, gan gynnwys astudiaethau cloc moleciwlaidd, wedi amcangyfrif bod tarddiad cangen y primatiaid wedi bod yng nghanol y cyfnod Cretasaidd, tua 85 mof CP.[10][11][12]
Mae croesrywiau (neu hybridau) primataidd yn cael eu creu mewn caethiwed fel arfer,[13] ond bu enghreifftiau yn y gwyllt hefyd.[14][15] Mae croesi'n digwydd pan fo amrediad dwy rywogaeth yn gorgyffwrdd i ffurfio parthau croesryw; mae pobl yn creu croesrywiau pan roddir anifeiliaid mewn sŵ neu oherwydd pwysau amgylcheddol megis ysglyfaethu.[14] Mae croesrywedd rhyng-generig, h.y. croesrywiau o wahanol genera, hefyd wedi'u canfod yn y gwyllt. Er eu bod yn perthyn i genera sydd wedi gwahanu ers sawl miliwn o flynyddoedd, mae rhyngfridio yn dal i ddigwydd rhwng y gelada a'r babŵn hamadryas.[16]
Ar 24 Ionawr 2018, adroddodd gwyddonwyr yn Tsieina yn y cyfnodolyn Cell am greu dau glon macac bwyta crancod, o'r enw Zhong Zhong a Hua Hua, gan ddefnyddio'r dull trosglwyddo DNA cymhleth o'r Alban a gynhyrchodd Dolly'r ddafad, am y tro cyntaf.[17][18][19][20][21]
Mae gan benglog y primatiaid greuan mawr cromennog, sy'n arbennig o amlwg mewn epaod dynaidd. Mae'r creuan yn amddiffyn yr ymennydd mawr, nodwedd wahaniaethol o'r grŵp hwn.[22] Mae'r cyfaint mewngreuanol (cyfaint y tu mewn i'r greuan) deirgwaith yn fwy mewn bodau dynol nag yn y primat annynol mwyaf, gan adlewyrchu maint mwy yr ymennydd.[23] Y cyfaint mewngreuanol cymedrig yw 1,201 centimetr ciwbig (cm3) bodau dynol, 469 cm3 mewn gorila, 400 cm3 mewn tsimpansî a 397 cm3 mewn orang-wtang.[23] Prif duedd esblygiad y primatiaid fu cynnydd ym maint yr ymennydd, yn enwedig y neocortecs (sef rhan ddorsal o'r freithell), sy'n ymwneud â chanfyddiad synhwyrau, cynhyrchu gorchmynion echddygol (motor commands), rhesymu gofodol, meddwl ymwybodol ac, mewn bodau dynol, iaith. Tra bod mamaliaid eraill yn dibynnu'n fawr ar eu synnwyr arogli, mae bywyd prendrig y primatiaid wedi arwain at system synhwyro wedi'i threchu gan weld a chyffwrdd,[24] at lleihad y llabed arogleuol ac at ymddygiad cymdeithasol cynyddol gymhleth.[25]
Mae gan brimatiaid lygaid sy'n wynebu ymlaen ar flaen y benglog, ac nid yn yr ochr; mae golwg deulygad yn caniatáu canfyddiad pellter eitha cywir.[22][26]
Yn gyffredinol mae gan brimatiaid bum bys ar bob aelod (breichiau a choesau), gyda math nodweddiadol o ewin ceratin ar ddiwedd pob bawd a bys. Mae gan ochrau gwaelod y dwylo a'r traed badiau sensitif ar flaenau eu bysedd. Mae gan y mwyafrif fodiau gwrthwynebol, nodwedd primataidd sydd wedi'i datblygu fwyaf mewn bodau dynol, er nad yw'n gyfyngedig i berson e.e. gall yr oposymiaid a'r coalas, ddod a'u bodiau at eu bysedd er mwyn gafael mewn rhyw wrthrych.[22] Mae bodiau felly'n caniatáu i rai rhywogaethau ddefnyddio offer. [22]
Mae'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) yn rhestru mwy na thraean o archesgobion fel rhai sydd mewn perygl difrifol neu'n agored i niwed. Mae tua 60% o rywogaethau primatiaid dan fygythiad difodiant, gan gynnwys: 87% o rywogaethau ym Madagascar, 73% yn Asia, 37% yn Affrica, a 36% yn Ne a Chanolbarth America. [27] Yn ogystal, mae gan 75% o rywogaethau primatiaid boblogaethau sy'n lleihau. [27] Rheoleiddir masnach, gan fod pob rhywogaeth wedi'i rhestru gan CITES yn Atodiad II, ac eithrio 50 o rywogaethau ac isrywogaethau a restrir yn Atodiad I, sy'n cael eu hamddiffyn yn llawn rhag masnach. [28] [29]
Mae mwy na 90% o rywogaethau o brimatiaid i'w cael mewn coedwigoedd trofannol.[30][31] Prif achos colli coedwigoedd yw clirio ar gyfer amaethyddiaeth, er bod torri coed masnachol, cynaeafu pren, mwyngloddio ac adeiladu argaeau hefyd yn cyfrannu at ddinistrio coedwigoedd trofannol [31] Yn Indonesia mae ardaloedd mawr o goedwigoedd yr iseldir wedi'u clirio i gynhyrchu olew palmwydd, a daeth un dadansoddiad o ddelweddau lloeren i'r casgliad y collir 1,000 o orangwtangiaid Swmatra y flwyddyn yn Ecosystem Leuser yn unig yn ystod 1998 a 1999.[32]
Mae primatiaid â chorff mawr (dros 5 kg) mewn perygl cynyddol o ddifodiant oherwydd eu bod yn fwy proffidiol i botsiars o'u cymharu a phrimatiaid llai.[31] Maent yn cyrraedd aeddfedrwydd rhywiol yn ddiweddarach ac yn cael cyfnod hirach rhwng genedigaethau. Felly mae poblogaethau'n gwella'n arafach ar ôl cael eu disbyddu gan botsian neu'r fasnach anifeiliaid anwes.[33] Mae data ar gyfer rhai dinasoedd yn Affrica yn dangos bod hanner yr holl brotein sy'n cael ei fwyta mewn ardaloedd trefol yn dod o gig lleol a gwyllt.[34] Mae primatiaid sydd mewn perygl fel ginonau a'r dril yn cael eu hela ar lefelau sy'n llawer uwch na'r lefelau cynaliadwy.[34] Mae hyn oherwydd maint eu cyrff mawr, rhwyddineb cludiant a gwerth ariannol yr anifail.[34] Wrth i ffermio dresmasu ar gynefinoedd coedwigoedd naturiol, mae primatiaid yn bwydo ar y cnydau, gan achosi colledion economaidd mawr i’r ffermwyr,[35] ac yn rhoi argraff negyddol i bobl leol o brimatiaid, ac yn arafu ymdrechion cadwraeth.[36]
Yn Asia, mae Hindŵaeth, Bwdhaeth ac Islam yn gwahardd bwyta cig primat; fodd bynnag, mae primatiaid yn dal i gael eu hela am fwyd.[31] Mae rhai crefyddau traddodiadol llai yn caniatáu bwyta cig primatiaid.[37][38] Mae'r fasnach anifeiliaid anwes a meddygaeth draddodiadol hefyd yn cynyddu'r galw am hela anghyfreithlon.[39][40][41] Gwarchodwyd y macac rhesws, organeb enghreifftiol, ar ôl i drapio ei fygwth yn y 1960au; roedd y rhaglen mor effeithiol fel bod y macac rhesws, bellach, yn cael eu hystyried yn bla![42]
Ceir 21 o brimatiaid mewn perygl difrifol, gyda 7 ohonynt wedi aros ar restr yr IUCN "y 25 Primat Mwyaf Mewn Perygl yn y Byd", a hynny ers 2000: y siffaca sidanaidd, y langur Delacour, y langur penwyn, y douc llwyd, y mwnci Tonkin trwyn pwt, y Croeswr afon (gorila) a'r orang-wtang Swmatra.[43] Yn ddiweddar cyhoeddwyd bod y colobus coch Miss Waldron wedi'u difodi'n llwyr pan nad oedd unrhyw olion o'r isrywogaeth i'w ganfod rhwng 1993 ac 1999.[44] Mae ychydig o helwyr wedi canfod a lladd unigolion ers hynny, ond mae rhagolygon yr isrywogaeth yn parhau i fod yn llwm.[45]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.