From Wikipedia, the free encyclopedia
Mewn fertebratau, mae'r trwyn yn chwydd o gnawd ac asgwrn ar yr wyneb, ac sy'n cynnwys y ffroenau, sy'n derbyn ac yn diarddel aer ar gyfer resbiradaeth a'r fan lle mae'r corff yn arogli. Y tu ôl i'r trwyn mae'r mwcosa arogleuol a'r sinysau. Y tu ôl i'r ceudod trwynol, mae aer yn mynd trwy'r ffaryncs (sy'n cael ei rannu â'r system dreulio), ac yna i weddill y system resbiradol. Mewn pobl, mae'r trwyn wedi'i leoli'n ganolog ar yr wyneb ac mae'n gweithredu fel llwybr anadlol ychwanegol yn enwedig yn ystod mewn baban sy'n sugno.[1][2][3]
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | organ anifail, endid anatomegol arbennig, organ synhwyro |
Yn cynnwys | trwyn allanol, ceudod y trwyn, asgwrn y trwyn, cartilag, bôn y trwyn, mwcws y trwyn, ffroen, blew'r trwyn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r trwyn sy'n ymwthio allan o'r wyneb yn gwbwl ar wahân i'r geg yn nodwedd a geir mewn mamaliaid therian yn unig (is-ddosbarth o famaliaid). Mae wedi'i ddamcaniaethu bod y trwyn mamalaidd unigryw hwn wedi esblygu o ran flaenorol gên uchaf yr hynafiaid tebyg i ymlusgiaid (synapsidau)[4][5]
Gan weithredu fel yr haen gyntaf rhwng yr amgylchedd allanol ac ysgyfaint mewnol bregus yr anifail, mae'r trwyn yn trin yr aer sy'n cael ei anadlu i'r corff: mae'n gweithredu fel rheoleiddiwr thermol ac mae'n hidlo'r aer yn ogystal â synhwyro arogl.[6]
Mae mân flew y tu mewn i'r ffroenau'n hidlo'r aer sy'n dod i mewn, fel llinell amddiffyn gyntaf yn erbyn gronynnau llwch, mwg, a gronynau estron eraill a allai atal anadlu (resbiradaeth), ac fel math o hidlydd yn erbyn salwch a all ddod drwy'r aer. Yn ogystal â gweithredu fel hidlydd, mae mwcws a gynhyrchir yn y trwyn yn cynorthwyo'r corff i gynnal tymheredd, yn ogystal â chyfrannu lleithder i rannau o'r system resbiradol. Mae strwythurau capilari'r trwyn yn cynhesu ac yn lleithio'r aer sy'n cael ei dynnu i'r corff; yna, mae'r rôl hon wrth gadw lleithder yn galluogi amodau i alfeoli gyfnewid O 2 am CO 2 (hy, resbiradaeth) o fewn yr ysgyfaint. Yn ystod allanadliad, mae'r capilarïau wedyn yn helpu i adennill rhywfaint o leithder, yn bennaf fel swyddogaeth rheoleiddio thermol.[7]
Mae trwyn gwlyb cŵn yn ddefnyddiol ar gyfer canfod cyfeiriad. Y derbynyddion oer sensitif yn y croen sy'n canfod y man lle mae'r trwyn yn cael ei oeri fwyaf a dyma'r cyfeiriad y daw arogl arbennig i'r anifail.
Mewn amffibiaid a physgod ysgyfeiniog (lungfish) mae'r ffroenau'n agor yn sachau bach sydd, yn eu tro, yn agor i flaen taflod y geg trwy'r choanae. Mae'r codennau hyn yn cynnwys ychydig bach o epitheliwm arogleuol, sydd, yn achos caeciliaid, hefyd yn leinio nifer o'r tentaclau cyfagos. Er gwaethaf y tebygrwydd cyffredinol o ran strwythur i rai amffibiaid, ni ddefnyddir ffroenau pysgod ysgyfeiniog mewn resbiradaeth, gan fod yr anifeiliaid hyn yn anadlu trwy eu cegau. Mae gan amffibiaid organ <i>vomeronasal</i> hefyd, wedi'i leinio gan epitheliwm arogleuol, ond, yn wahanol i rai amniotau, mae hwn yn gyffredinol yn sach syml nad oes ganddo fawr o gysylltiad, ac eithrio mewn salamandrau, â gweddill y system trwynol.[8]
Mewn ymlusgiaid, mae'r siambr trwynol yn gyffredinol yn fwy, gyda'r choanae wedi'i leoli'n llawer pellach yn nhaflod y geg. Mewn crocodeiliaid, mae'r siambr yn eithriadol o hir, gan helpu'r anifail i anadlu tra'n rhannol dan ddŵr. Rhennir siambr trwynol ymlusgiad yn dair rhan: cyntedd blaen, y brif siambr arogleuol, a'r nasoffaryncs ôl. Mae'r siambr arogleuol wedi'i leinio gan epitheliwm arogleuol ar ei wyneb uchaf ac mae ganddi nifer o gogyrnau (turbinates) i gynyddu'r ardal synhwyo. Mae'r organ vomeronasal wedi'i datblygu'n dda mewn madfallod a nadroedd, lle nad yw bellach yn cysylltu â'r ceudod trwynol, gan agor yn uniongyrchol i do'r geg (y daflod). Mae'n llai mewn crwbanod, lle mae'n cadw ei gysylltiad trwynol gwreiddiol, ac mae'n absennol mewn crocodeiliaid oedol.[9]
Mae gan adar drwyn tebyg i ymlusgiaid, gyda'r ffroenau wedi'u lleoli ar ran uchaf cefn y pig. Gan fod ganddynt synnwyr arogli gwael yn gyffredinol, mae'r siambr arogleuol yn fach, er ei bod yn cynnwys tri gogwrn, sydd weithiau â strwythur cymhleth tebyg i un y mamaliaid. Mewn llawer o adar, gan gynnwys colomennod a ffowls, mae'r ffroenau wedi'u gorchuddio gan darian amddiffynnol corniog. Mae organ vomeronasal adar naill ai wedi'i thanddatblygu neu'n gwbwl absennol, yn dibynnu ar y rhywogaeth.[10]
Mae'r ceudodau trwynol mamaliaid yn cael eu hasio'n un. Ymhlith y rhan fwyaf o rywogaethau mae'r ceudodau trwynol hyn yn eithriadol o fawr, a gallant fod cymaint a hanner hyd y benglog. Mewn rhai grwpiau, fodd bynnag, gan gynnwys primatiaid, ystlumod, a morfilod, mae'r trwyn wedi'i leihau'n eilradd, ac o ganlyniad mae gan yr anifeiliaid hyn synnwyr arogli cymharol wael. Mae ceudod trwynol mamaliaid wedi'i ehangu, yn rhannol, trwy ddatblygu taflod yn torri arwyneb uchaf cyfan ceudod y geg gwreiddiol, sydd o ganlyniad yn dod yn rhan o'r trwyn, gan adael y daflod fel to newydd yn y geg. Mae'r ceudod trwynol chwyddedig yn cynnwys gogyrnau (turbinates) cymhleth sy'n ffurfio siapiau tebyg i drisgell neu sgrol memrwn, sy'n helpu i gynhesu'r aer cyn iddo gyrraedd yr ysgyfaint. Mae'r ceudod hefyd yn ymestyn i esgyrn y benglog, cyfagos, gan ffurfio ceudodau aer ychwanegol a elwir yn sinysau trwynol.[11]
Mewn morfilod, mae'r trwyn wedi'i leihau i un neu ddau o dyllau chwythu, sef y ffroenau sydd wedi mudo i ran pella'r pen. Roedd yr addasiad hwn yn rhoi siâp corff symlach i forfilod a'r gallu i anadlu tra'u bod fwy neu lai o dan ddŵr. I'r gwrthwyneb, mae trwyn yr eliffant wedi ei ymhelaethu'n organ hir, gyhyrog, o'r enw'r 'trwnc'.
Mae organ vomeronasal mamaliaid yn gyffredinol yn debyg i organ ymlusgiaid. Yn y rhan fwyaf o rywogaethau, mae wedi'i leoli yn llawr y ceudod trwynol, ac mae'n agor i'r geg trwy ddwy ddwythell nasopalatine sy'n rhedeg trwy'r daflod, ond mae'n agor yn uniongyrchol i'r trwyn mewn llawer o gnofilod. Fodd bynnag, mae ar goll mewn ystlumod, ac mewn llawer o brimatiaid, gan gynnwys bodau dynol.[12]
Mae gan bysgod synnwyr arogli cymharol dda.[13] Yn wahanol i detrapodau, nid oes gan y trwyn unrhyw gysylltiad â'r geg, nac unrhyw rôl mewn resbiradaeth. Yn lle hynny, yn gyffredinol mae'n cynnwys pâr o godenni bach y tu ôl i'r ffroenau ar flaen neu ochrau'r pen. Mewn llawer o achosion, rhennir pob un o'r ffroenau yn ddwy gan blygiad o groen, gan ganiatáu i ddŵr lifo i'r trwyn trwy un ochr ac allan trwy'r llall.[14]
Mae'r codenni hyn wedi'u leinio gyda epitheliwm arogleuol, ac yn aml maent yn cynnwys cyfres o blygiadau mewnol i gynyddu'r arwynebedd, gan ffurfio "rhoséd arogleuol" cywrain. Mewn rhai cathod môr (teleostau), mae'r codenni'n troi'n geudodau ychwanegol tebyg i sinws, tra mewn coelacanthsau, maent yn ffurfio cyfres o diwbiau.[15]
Yn y fertebratau cynharaf, nid oedd ond un cwdyn ffroenol ac arogleuol, ac roedd y llwybr trwynol yn gysylltiedig â'r chwarren bitwidol. Gwelir yr un anatomi yn yr fertebratau byw mwyaf cyntefig, y llysywod pendoll a'r gwalch môr. Mewn hynafiaid gnathostom, daeth y cyfarpar arogleuol yn raddol yn barau (yn ôl pob tebyg i ganiatáu synnwyr o gyfeiriad yr arogleuon), a bu rhyddhau'r llinell ganol o'r llwybr trwynol yn caniatáu i'r geg ddatblygu ymhellach.[16]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.