rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Ehedydd (Alauda arvensis) yn aelod o deulu'r Alaudidae, yr ehedyddion. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop a rhan helaeth o Asia yn ogystal â mynyddoedd Gogledd Affrica.[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Passeriformes.[2][3]
Ehedydd | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Alaudidae |
Genws: | Alauda |
Rhywogaeth: | A. arvensis |
Enw deuenwol | |
Alauda arvensis Linnaeus, 1758 | |
Dyma enw'r aderyn hwn mewn rhai o'r ieithoedd Celtaidd eraill:
Nid yw'r Ehedydd yn aderyn mudol yn y gorllewin fel rheol, heblaw bod yr adar sy'n nythu yn y rhannau mwyaf gogleddol yn symud tua'r de yn y gaeaf, ond yn y dwyrain mae'n mudo ymhellach i'r de yn y gaeaf.
Mae'r Ehedydd yn fwyaf adnabyddus oherwydd ei gân, ac yn aml mae'n codi yn uchel i'r awyr dan ganu, er ei fod hefyd yn canu oddi ar ben polyn neu unrhyw safle addas arall yn ogystal. Pan nad yw'n canu nid yw mor hawdd ei adnabod. Mae'n aderyn brown gyda bol mwy gwelw, 16–18 cm o hyd a gyda plu hirach ar y pen. Gall yr aderyn godi'r plu yma. Wrth iddo hedfan gellir gweld gwyn ar ochr y gynffon ac ar ran gefn yr adenydd.
Mae'n nythu ar dir agored, rhostir neu gaeau. Adeiledir y nyth ar lawr ac mae'n dodwy 3-6 wy. Hadau yw ei brif fwyd, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed.
Mae'r Ehedydd yn aderyn cyffredin trwy Gymru, hyd yn oed yn uchel yn y mynyddoedd, ond mae ei nifer wedi gostwng yn yr 50 mlynedd diwethaf oherwydd newidiadau mewn amaethyddiaeth.
Yn ôl Trioedd Ynys Prydain roedd Brwydr Arfderydd yn un o 'Dri Ofergad Ynys Prydain'. Mae'r triawd yn dweud mai "o achaws nyth yr ychedydd" (o achos nyth yr ehedydd) yr ymladdwyd y frwydr. Mae rhai ysgolheigion yn cynnig fod hyn yn gyfeiriad at ymrafael yn llys Caerlaverock (tref yn Swydd Dumfries yn yr Alban heddiw), sef "Caer yr Ehedydd" ar lannau Moryd Solway.
Dywedir i gân yr Ehedydd ysbrydoli Dafydd y Garreg Wen i gyfansoddi'r alaw "Codiad yr Ehedydd". Ceir hefyd yr hen bennill "Marwnad yr Ehedydd":
Mi a glywais fod yr hedydd
Wedi marw ar y mynydd;
Pe gwyddwn i mai gwir y geirie,
Awn â gyr o wŷr ac arfe
I gyrchu corff yr hedydd adre.
Awgrymwyd y gallai'r ehedydd yma fod yn gyfeiriad at Owain Glyn Dŵr.[4]
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Ehedydd | Alauda arvensis | |
Ehedydd Angola | Mirafra angolensis | |
Ehedydd Somalia | Mirafra somalica | |
Ehedydd Ynys Raza | Alauda razae | |
Ehedydd calandra | Melanocorypha calandra | |
Ehedydd cefnllwyd | Eremopterix verticalis | |
Ehedydd deufannog | Melanocorypha bimaculata | |
Ehedydd du | Melanocorypha yeltoniensis | |
Ehedydd dwyreiniol | Alauda gulgula | |
Ehedydd gwargoch | Mirafra africana | |
Llwyn-ehedydd adeingoch Asia | Mirafra assamica |
Teuluoedd |
---|
Adar Asgelldroed • Adar Dail • Adar Deildy • Adar Dreingwt • Adar Drudwy • Adar Ffrigad • Adar Gwrychog • Adar Haul • Adar Morgrug • Adar Olew • Adar Paradwys • Adar Pobty • Adar Tagellog • Adar Telyn • Adar Tomen • Adar Trofannol • Adar y Cwils • Albatrosiaid • Apostolion • Asitïod • Barbedau • Brain • Brain Moel • Breision • Brenhinoedd • Brychion • Bwlbwliaid • Cagwod • Carfilod • Casowarïaid • Ceiliogod y Waun • Ceinddrywod • Chwibanwyr • Ciconiaid • Ciconiaid Pig Esgid • Cigfachwyr • Cigyddion • Ciwïod • Cnocellod • Coblynnod • Coblynnod Coed • Cocatwod • Cogau • Cog-Gigyddion • Colïod • Colomennod • Copogion • Copogion Coed • Cornbigau • Corsoflieir • Cotingaod • Crehyrod • Crehyrod yr Haul • Cropwyr • Crwydriaid y Malî • Cwrasowiaid • Cwroliaid • Cwtiaid • Cwyrbigau • |
Seriemaid • Cynffonau Sidan • Delorion Cnau • Dreinbigau • Dringhedyddion • Dringwyr Coed • Dringwyr y Philipinau • Drongoaid • Drywod • Drywod Seland Newydd • Ehedyddion • Emiwiaid • Eryrod • Estrysiaid • Eurynnod • Fangáid • Ffesantod • Fflamingos • Fireod • Fwlturiaid y Byd Newydd • Garannod • Giachod Amryliw • Gïachod yr Hadau • |
Golfanod • Gwanwyr • Gwatwarwyr • Gweilch Pysgod • Gweinbigau • Gwenoliaid • Gwenynysorion • Gwyachod • Gwybed-Ddaliwyr • Gwybedogion • Gwybedysyddion • Gwylanod • Gylfindroeon • Hebogiaid • Helyddion Coed • Hercwyr • Hirgoesau • Hirgoesau Crymanbig • Hoatsiniaid • Huganod • Hwyaid • Ibisiaid • Ieir y Diffeithwch • Jacamarod • Jasanaod • Llwydiaid • Llydanbigau • Llygadwynion • Llygaid-Dagell • Llysdorwyr • Lorïaid • Manacinod • Meinbigau • Mel-Gogau • |
Mêl-Gropwyr Hawaii • Melysorion • Mesîtau • Motmotiaid • Mulfrain • Parotiaid • Pedrynnod • Pedrynnod • Pedrynnod Plymio • Pelicanod • Pengwiniaid • Pennau Morthwyl • Pibyddion • Pigwyr Blodau • Pincod • Piod Môr • Pitaod • Potwaid • Preblynnod • Prysgadar • Pysgotwyr • Rheaod • Rhedwyr • Rhedwyr • Rhedwyr y Crancod • Rhegennod • Rhesogion y Palmwydd • Rholyddion • Rholyddion Daear • Robinod Awstralia • |
Seriemaid • Sgimwyr • Sgiwennod • Sgrechwyr • Sïednod • Siglennod • Tapacwlos • Teloriaid • Telorion y Byd Newydd • Teyrn-Wybedogion • Tinamwaid • Titwod • Titwod Cynffonhir • Titwod Pendil • Todiaid • Tresglod • Trochwyr • Trochyddion • Troellwyr • Troellwyr Llydanbig • Trogoniaid • Trympedwyr • Twcaniaid • Twinc Banana • Twracoaid • Tylluan-Droellwyr • Tylluanod • Tylluanod Gwynion • |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.