Rholyddion
teulu o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Teulu o adar ydyw'r Rholyddion (Lladin: Coraciidae; Saesneg: Rollers), sy'n frodorol o Affrica, Ewrop ac Asia (yr Hen Fyd).
Rholyddion | |
---|---|
![]() | |
Rholydd bronlelog | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Coraciiformes |
Teulu: | Coraciidae Rafinesque, 1815 |
Genws: | Coracias |
Rhywogaeth: | C. caudatus |
Genera | |
|
Mae'r grŵp yn cael ei enwi'n "Rholyddio" oherwydd y modd acrobatig maen nhw'n perfformio yn ystod paru neu ar deithiau hedfan tiriogaethol. Mae'r Rholeri'n debyg i frain o ran maint ond yn debycach i Leision y dorlan (Alcedo atthis) o ran eu plu lliwgar. Mae dau o fysedd traed blaen y Rholydd wedi'u cysylltu, ond nid yr un allanol.
Pryfaid yw eu prif fwyd, gyda'r rhywogaeth Eurystomus yn cymryd eu hysglyfaeth ar yr adain, ac aelodau'r genws Coracias yn plymio o gangen i ddal eu bwyd o'r ddaear.
Er bod y Rholyddion sy'n fyw heddiw'n byw mewn hinsawdd cynnes yr Hen Fyd, dengys cofnodion ffosil bod Rholyddion yn bresennol yng Ngogledd America yn ystod yr Eosen.[1] Maent yn unweddog (yn cadw'n ffydlon i'w gilydd fel pâr); mewn twll mewn coeden maen nhw'n nythu, neu weithiau mewn wal garreg. Yn y trofannau, mae'r iâr yn dodwy rhwng 2-4 wy ar y tro, ond ceir 3-6 ar y mynyddoedd. Gwyn ydy lliw'r wyau ac maent yn deor ar ôl 17-20 diwrnod. Mae'r cyw yn aros ger y nyth am tua 30 diwrnod wedi hynny.
Rhywogaethau
Rhestr Wicidata:
teulu | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Rholydd | Coracias garrulus | ![]() |
Rholydd Abysinia | Coracias abyssinicus | ![]() |
Rholydd India | Coracias benghalensis | ![]() |
Rholydd adeinbiws | Coracias temminckii | ![]() |
Rholydd asur | Eurystomus azureus | ![]() |
Rholydd bronlelog | Coracias caudatus | ![]() |
Rholydd gyddflas | Eurystomus gularis | ![]() |
Rholydd llwygynffonnog | Coracias spatulatus | ![]() |
Rholydd llydanbig Affrica | Eurystomus glaucurus | ![]() |
Rholydd llydanbig Asia | Eurystomus orientalis | |
Rholydd porffor | Coracias naevius | ![]() |
Rholydd torlas | Coracias cyanogaster | ![]() |
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.