twrnamaint pêl-droed gwledydd Arabaidd Gwlff Persia From Wikipedia, the free encyclopedia
Twrnamaint pêl-droed yw Cwpan Pêl-droed Cenhedloedd y Gwlff neu Cwpan y Gwlff Arabaidd, neu Cwpan y Gwlff (Arabeg: كأس الخليج العربي ; Saesneg: The Gulf Cup) a gynhelir bob dwy flynedd (fel rheol) rhwng cenhedloedd Arabaidd Gwlff Persia ynghyd ag Irac ac Yemen. Cowait yw'r mwyaf llwyddiannus, a Bahrain gynhaliodd y gystadleuaeth am y tro cyntaf. Fel mae enw'r twrnamaint yn awgrymu dim ond gwledydd Arabaidd sy'n cystadlu am y cwpan a dydy Iran (sydd ddim yn wlad Arabaidd) ond sydd ag arfordir hir iawn ar hyd ochr ogleddol y Culfor, ddim yn rhan o'r digwyddiad.
Organising body | Arab Gulf Cup Football Federation |
---|---|
Founded | 1970 |
Number of teams | 8 |
Current champions | Bahrein (teitl 1af) |
Most successful team(s) | Coweit (10 teitl) |
Website | |
24ain Cwpan Arabaidd y Gwlff |
Crëwyd y bencampwriaeth hon ym 1968 yn ystod y Gemau Olympaidd yn Ninas Mecsico gan Bahrain, Kuwait, Saudi Arabia a Qatar. Cynhelir y twrnamaint yn ystod misoedd y gaeaf oherwydd gwres llethol aral Gwlff Persia a Phenrhyn Arabia. Cynhaliwyd y twrnamaint cyntaf hwn yn Bahrain. Cyhoeddwyd y byddai'r Cwpan oedd i'w chynnal yn 2022 yn cael ei gohirio nes 2023 oherwydd "tagfa digwyddiadau".[1]
Trefnwyd y gystadleuaeth 1af ym 1970 yn Bahrain, ac enillodd Kuwait.
Gan fod hon yn gystadleuaeth gyfeillgar, mae ei amseriad yn gallu bod yn afreolaidd.
Oherwydd y gwres, cynhlir y twrnamaint fel arfer yn y gaeaf.
Yn y 18fed rhifyn, trechodd y gwesteiwr Emiradau Arabaidd Unedig Oman 1-0 yn y rownd derfynol.
Yn ystod y 19eg rhifyn, enillodd y wlad letyol, Oman, y tlws am y tro cyntaf yn ei hanes yn erbyn Saudi Arabia (0-0, 6-5 t.a.b)
Cynhaliwyd 22ain rhifyn Cwpan y Gwlff ym mis Tachwedd 2014 yn Saudi Arabia.
Pencamwpwr | Gwlad | Blwyddyn |
---|---|---|
10 tro | Coweit Cowait | 1970, 1972, 1974, 1976, 1982, 1986, 1990, 1996, 1998, 2010 |
3 tro | Irac Irac | 1979, 1984, 1988 |
3 tro | Sawdi Arabia Arabia Sawdi | 1994, 2002, 2003 |
3 tro | Qatar Qatar | 1992, 2004, 2014 |
2 tro | Emiradau Arabaidd Unedig EAU | 2007, 2013 |
2 tro | Oman Oman | 2009, 2017 |
1 tro | Bahrain Bahrain | 2019 |
Nodyn: Cafodd Irac ei wahardd o'r gystadleuaeth o 1991 i 2003 oherwydd rhyfel.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.