Ciwba
gwlad sofran yn Ynysoedd y Caribî From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwlad sofran yn Ynysoedd y Caribî yw Gweriniaeth Ciwba (Sbaeneg: República de Cuba). Fe'i lleolir hi i'r de o'r Unol Daleithiau, i'r gorllewin o Haiti a'r Ynysoedd Turks a Caicos, i'r gogledd o Jamaica ac Ynysoedd Caiman ac i'r dwyrain o Fecsico. Ciwba yw'r ynys fwyaf ym Môr y Caribî. Y brifddinas yw La Habana (Havana).
![]() | |
![]() | |
Arwyddair | Fe Orchfygwn Angau neu Famwlad |
---|---|
Math | ynys-genedl, gwladwriaeth sofran, gwladwriaeth unedol, gwladwriaeth comiwnyddol, gwlad |
Prifddinas | La Habana |
Poblogaeth | 10,985,974 |
Sefydlwyd | |
Anthem | El Himno de Bayamo |
Pennaeth llywodraeth | Manuel Marrero Cruz |
Cylchfa amser | UTC−05:00, America/Havana |
Gefeilldref/i | Santa Fe |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | America Ladin, America Sbaenig, Y Caribî |
Arwynebedd | 109,884 km² |
Gerllaw | Môr y Caribî, Gwlff Mecsico |
Yn ffinio gyda | Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 22°N 79.5°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Council of Ministers |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol Pwer y Bobl |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Ciwba |
Pennaeth y wladwriaeth | Miguel Díaz-Canel |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Ciwba |
Pennaeth y Llywodraeth | Manuel Marrero Cruz |
![]() | |
![]() | |
Arian | peso (Ciwba) |
Canran y diwaith | 3 ±1 canran, 1.2 canran |
Cyfartaledd plant | 1.615 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.764 |


Arwynebedd swyddogol Gweriniaeth Ciwba yw 109,884 km sg (42,426 mi sg) - heb y dyfroedd tiriogaethol. Prif y wlad, sy'n rhoi iddi ei henw, yw'r ynys fwyaf yng Nghiwba ac yn y Caribî, ac mae ganddi arwynebedd o 104,556 km sg. Mae'r Weriniaeth hefyd yn cynnwys Isla de la Juventud a sawl ynysfor (archipelago). Ciwba yw'r wlad ail fwyaf poblog yn y Caribî ar ôl Haiti, gyda 10,985,974 (2023)[1] o drigolion.[2]
Roedd pobl Ciboney Taíno'n byw yn y diriogaeth a elwir bellach yn Ciwba o'r 4edd mileniwm CC hyd at wladychu'r ynys gan Sbaen yn y 15g.[3] O'r 15fed ganrif, roedd yn wladfa, yn rhan o Sbaen hyd at Ryfel Sbaen-America 1898, pan feddiannwyd Ciwba gan yr Unol Daleithiau.
Fel gweriniaeth fregus, ym 1940 ceisiodd Ciwba gryfhau ei system ddemocrataidd, ond arweiniodd radicaleiddio gwleidyddol cynyddol ac ymryson cymdeithasol at coup d'état ac unbennaeth ddilynol o dan Fulgencio Batista ym 1952.[4] Arweiniodd llygredd agored a gormes o dan reolaeth Batista at ei ddisodli yn Ionawr 1959 gan 'Fudiad 26 Gorffennaf', a sefydlwyd rheolaeth gomiwnyddol wedi hynny o dan arweinyddiaeth Fidel Castro.[5][6][7] Ers 1965, mae'r wladwriaeth wedi'i llywodraethu gan Blaid Gomiwnyddol Cuba . Roedd y wlad yn destun cynnen yn ystod y Rhyfel Oer rhwng yr Undeb Sofietaidd a'r Unol Daleithiau, a bu bron i ryfel niwclear ddechrau yn ystod Argyfwng Taflegrau Ciwba ym 1962. Mae Ciwba yn un o ychydig o wladwriaethau sosialaidd Marcsaidd-Leninaidd sy'n bodoli, lle mae rôl y Blaid Gomiwnyddol wedi'i hymgorffori yn y Cyfansoddiad. O dan Castro, roedd Ciwba'n ymwneud ag ystod eang o weithgareddau milwrol a dyngarol ledled Affrica ac Asia.[8]
Yn ddiwylliannol, mae Ciwba'n cael ei hystyried yn rhan o America Ladin.[9] Mae'n wlad aml-ethnig y mae ei phobl, gyda'i diwylliant a'i harferion yn deillio o sawl tarddiad, gan gynnwys pobloedd Taíno Ciboney, cyfnod hir o ddylanwad Sbaenaidd, caethwasaeth Affricanaidd a pherthynas agos â'r Undeb Sofietaidd yn y Rhyfel Oer.
Mae Ciwba yn aelod sefydlol o'r Cenhedloedd Unedig, y G77, y Mudiad Heb Aliniad, Sefydliadau Gwledydd Affrica, Caribïaidd a Môr Tawel, ALBA a Sefydliad Gwledydd America. Yn y 2020au roedd ganddi un o unig economïau dan gynllun y byd, ac mae'r diwydiant twristiaeth ac allforion llafur medrus, siwgr, baco a choffi yn dominyddu ei heconomi. Yn hanesyddol mae Ciwba wedi perfformio'n well na gwledydd eraill y rhanbarth ar sawl dangosydd economaidd-gymdeithasol, megis llythrennedd,[10][11] marwolaethau babanod isel a disgwyliad oes uchel.[12][13]
Mae gan Giwba drefn awdurdodaidd un blaid lle na chaniateir gwrthwynebiad gwleidyddol.[14][15][16] Ceir etholiadau yng Nghiwba ond nid ydyn nhw'n ddemocrataidd.[17][18] Dywedir bod sensoriaeth gwybodaeth (gan gynnwys cyfyngiadau i'r rhyngrwyd) yn helaeth,[19][20] ac mae newyddiaduraeth annibynnol i raddau'n n cael ei hatal yng Nghiwba.[21] Mae Gohebwyr Heb Ffiniau wedi enwi Ciwba fel un o'r gwledydd gwaethaf yn y byd dros ryddid y wasg.[22][23]
Mae'r rhan fwyaf o economi Ciwba yn dibynnu ar daliadau.
Geirdarddiad
Cred haneswyr bod yr enw Ciwba yn dod o'r iaith Taíno, fodd bynnag "nid yw ei union darddiad yn anhysbys".[24] Mae'n fwy na phosib ei fod yn golygu 'lle'r tir ffrwythlon, toreithiog' (sef cubao),[25] neu 'le gwych' (coabana).
Hanes
Ceir pedwar cyfnod yn hanes Ciwba. Y cyntaf yw'r cyn-drefedigaethol tra oedd yr ynys yn perthyn i bobl Amerindiaid sef y Taíno a'r Ciboney. Yr ail gyfnod yw'r Giwba drefedigaethol, a ddechreuwyd ym 1492, efo dyfodiad Christopher Columbus arosodd yn goloni Sbaen, tan y rhyfel efo UDA y Rhyfel Sbaenaidd–Americanaidd ym 1898. Y trydydd cyfnod yw Gweriniaeth Ciwba, daeth annibyniaeth o ryw fath yn 1902, ond roedd milwyr UDA yn bresennol o leiaf unwaith bob degawd. Y pedwerydd cyfnod yw ers Chwyldro Ciwba ym 1959 a arweinwyd gan Fidel Castro pan ddaeth Ciwba yn weriniaeth sosialaidd.
Ciwba gyn-drefedigaethol
- 5300 BC poblogi'r Antilles gan llwythau, tan dyfodiad y Taíno a'r Ciboney.
Ciwba drefedigaethol
1400au
- 1492 28 Hydref - Christopher Columbus yn glanio ar ddwyrain Ciwba.
- 1494 Columbus yn hwylio heibio'r ynys.
1500au
- 1508 Sebastián de Ocampo yn hwylio rownd yr ynys i gyd. Felly yn dangos ei bod hi'n ynys.
- 1510 Concwest o Giwba o ynys Hispaniola. (Haiti a'r Weriniaeth Dominican).
- 1511 Diego Velázquez de Cuéllar yn sefydlu dref Baracoa.
- 1512 Llosgi Hatuey arweinydd Indiaid (o Haiti yn wreiddiol).
- 1514 Sefydlu Havana.
- 1523 Ymerawdwr Siarl V yn cynnig 4,000 darn aur i hybu cynhyrchu cotwm.
- 1527 Caethion Du cyntaf yn cyrraedd.
- 1532 Gwrthryfel y Caethion Du cyntaf.
- 1537 Ffrancwyr yn cipio Havana.
- 1538 Ail wrthryfel y Caethion Du.
- 1555 Ffrancwyr yn cipio a dinistrio Havana.
- 1586 Y môrleidr Francis Drake yn glanio ger Cabo San Antonio
- 1597 Cwblhau Castillo del Morro ger harbwr Havana.
1600au
Twf araf mewn masnach, mae Hispaniolo yn dominyddu'r masnach Caribi. Twf dylanwad Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd yn y Caribi. Aur yn cael ei allforio i Sbaen o Dde America i gyd i fynd drwy Hafana - mewn Fflotila enfawr rhag y morleidr.
- 1603 Cyfreithiau llym yn erbyn masnach tobaco â phobl tramor (Ffrainc a Lloegr).
- 1607 Havana yn brifddinas Ciwba.
- 1628 Iseldirwyr dan Piet Heyn yn dwyn tresor aur y "Morlu Sbaeneg" yn harbwr Havana
- 1649 Pla yn lladd traean y boblogaeth.
- 1662 Morlu Saesneg dan Christopher Myngs yn cipio Santiago de Ciwba a mynnu hawliau masnachol efo Jamaica
- 1670 Sbaen yn ildio Jamaica i Loegr yn barhaol.
1700au
Prydain yn ymyrru ar yr ynys ac yn dod a Florida i'r ymerodraeth Prydeinig. Dylanwad y chwyldro Americanaidd ar yr ynys.
- 1728 Sefydlu Prifysgol Havana.
- 1741 Admiral Prydeinig Edward Vernon yn cipio Bae Guantánamo, a'i enwi yn 'Bai Cumberland. Wedi salwch enfawr yno a bwyrdau aflwyddiannu maent yn tynnu'n ôl i Jamaica.
- 1748
- 12 Hydref - Brwydr Havana. Rhwng llynges Prydain a Sbaen yn harbwr Havana.
- Cwblhau Cadeirlan Havana.
- 1762 30 Gorffennaf - Prydain yn cymryd Havana fel rhan o'r Rhyfel Saith Mlynedd.
- 1763 Prydain yn ffeirio Ciwba am Florida.
- 1793 Gwrthryfel y Caethion Du Saint-Domingue a ddaeth yn Gwrthryfel Haiti yn gyrru 30,000 ffoaduriaid gwyn i Giwba.
1800au
UDA yn ysgogi annibyniaeth a gwrthryfel yn yr ynys, Sbaen yn ildio Ciwba i'r UDA.
- 1812 Juan Ruíz de Apodaca yn llwyodraethu Ciwba 1812-16.
- 1843 Leopoldo O'Donnell, Dug Tetuan yn llwyodraethu Ciwba 1843-48.
- 1844 Gwrthryfel y Caethion Du Blwyddyn y llach yn dod i ben wedi gorthrymu caled ar y boblogaeth ddu
- 1853 28 Ionawr - Ganwyd José Julián Martí Pérez yn Havana.
- 1868-78 Rhyfel annibyniaeth cyntaf Ciwba - yn para degawd cyfan
- 1879 Awst - Ail rhyfel annibyniaeth sy'n dod i ben erbyn 1880.
- 1886 Diwedd caethwasiaeth yng Nghiwba
- 1895 23 Chwefror - Gwrthryfel gwyn Ciwba dan José Martí a Máximo Gómez y Báez.
- 1896 Gwrthryfel yn llwyddo ond Sbaen yn elwa o Winston Churchill - yn ymladd ar ei hochr hi.
- 1898
- 6 Mehefin - cipio Bai Guantánamo gan milwyr Americanaidd a Chiwbaidd fel rhan o'r Rhyfel Sbaen-America.
- 10 Rhagfyr - Cytundeb Paris yn dod a'r Rhyfel Sbaen-America i ben gyda 'annibyniaeth' i Giwba.
- 1899
- 1 Ionawr - Sbaen yn idlio pwer i'r 'North American Military Governor', Cadfridog John Ruller Brooke.
- 23 Rhagfyr - Leonard Wood yn Llywodraethwr dros dro'r UDA i Giwba
Gweriniaeth Ciwba
1900au
- 1901 2 Mawrth - Platt Amendment yn sicrhau rôl parhaol UDA yn Nghiwba.
- 1902 20 Mai - Llwydd cyntaf Ciwba Tomás Estrada Palma.
- 1906 29 Medi - Gwrthryfel a disodli Tomás Estrada Palma - milwyr UDA yn dychwelyd dan William Howard Taft.
- 1909 28 Ionawr - Ciwba yn etholi José Miguel Gómez yn Llwydd
- 1912 Gwrthryfel y Boblogaeth Du yn methu, milwyr UDA yn dychwelyd
- 1913 20 Mai - Ciwba yn etholi Mario García Menocal
- 1917 milwyr UDA yn dychwelyd
- 1921 20 Mai - Ciwba yn etholiAlfredo Zayas , milwyr UDA yn dychwelyd eto
- 1925 20 Mai - Ciwba yn etholi Gerard Machado
- 1926 13 Awst - genedigaeth Fidel Alejandro Castro Ruz yn Holguín.
- 1928 14 Mehefin - Geni Ernesto Guevara de la Serna (Che Guevara) yn Rosario, Ariannin.
- 1931 10-14 Awst - Carlos Mendieta a Mario García Menocal yn glanio efo milwyr i geisio disodli'r unben Gerardo Machado. Maent yn colli.
- 1933 4 Medi - Coupe Militaraidd dan Fulgencio Batista dan dylanwad UDA.
- 1934 16, 17 Mehefin - Gwyl Havana yn droi yn frwydr efo lladd yn y strydoedd.
- 1941
- 1943 Agor Llysgenadaeth Sofiet yn Havana.
Chwyldro a'r Giwba Sosialaidd
1950au
- 1952 Mawrth - Cadfridog Batista, yn cymryd grym unwaith eto.
- 1953
- 26 Gorffennaf - 160 milwr dan Fidel Castro yn ymladd yn erbyn baracs Moncada yn Santiago de Cuba. Fidel yn y carchar.
- 16 Hydref - Fidel Castro yn areithio "hanes bydd fy nghyfiawnhad"
- 1954
- Medi - Che Guevara yn cyrraedd o Ddinas Mecsico.
- Tachwedd - Batista yn cael ei 'ethol' mewn etholliad un dyn.
- 1955 Mai - Rhyddhau Fidel dan amnest gan Batista.
- 1956
- 25 Tachwedd - Fidel Castro, Raúl Castro, Che Guevara a Camilo Cienfuegos, a 80 milwr yn dychwelyd o Mecsico i Giwba ar y cwch Granma.
- 2 Rhagfyr - Granma yn glanio Oriente Province.
- 1957
- 13 Mawrth - Myfyrwyr yn ymosod ar Balas y Llywydd Havana.
- 28 Mai - Castro yn cymryd El Uvero.
- 5 Medi - Gwrthryfel gan y llynges yn Cienfuegos ond Batista yn dal ei rym.
- 1958
- Chwefror - Raúl Castro yn dechrau rhyfel gwrila yn y Sierra de Cristal.
- 13 Mawrth - UDA yn atal cyflenwi milwyr Batista.
- 9 Ebrill - Streic Cyffredinol
- Mai - Batista sy'n anfon 10,000 i'r Sierra Maestra rhag Castro 300, Castro yn colli.
- Tachwedd - Castro yn ennill dref Guisa ac wedyn talaith Oriente.
- Rhagfyr - Guevara, William Alexander Morgan yn ymosod ar Santa Clara ac ennill
- 31 Rhagfyr - Camilo Cienfuegos yn ennill Yaguajay, a Huber Matos yn cymryd Santiago dros Castro
- 1959
- 1 Ionawr - Batista yn ffoi. Fidel Castro yn gorymdeithio drwy Santiago de Ciwba. Raúl Castro, mae Havana yn syrthio
- 2 Ionawr - Guevara a Camilo Cienfuegos yn Havana.
- 5 Ionawr - Manuel Urrutia yn Llywydd Ciwba
- 8 Ionawr - Fidel Castro yn Havana.
- 16 Chwefror - Fidel Castro yn Prifweinidog Ciwba.
- 20 Ebrill - Fidel Castro yn siarad ym Mhrifysgol Princeton, New Jersey.
- 17 Mai - Dosbarthu tir o'r ystadau mawr.
- 11 Rhagfyr - Achos politicaidd cyntaf Huber Matos
1960au
- 1960
- 17 Mawrth - Dwight Eisenhower yn gofyn i'r CIA hyfforddu milwyr Ciwba ar gyfer ymosod ar Giwba.
- 5 Gorffennaf - Gwladoli holl eiddio UDA.
- 19 Hydref - Embargo UDA rhag Ciwba yn dechrau.
- 26 Rhagfyr - Operation Peter Pan yn cymryd 14,000 o blant o Giwba i'r UDA.
- 1961
- 1 Ionawr - Y cynllun llythrenedd.
- 15 Ebrill - glaniad Bay of Pigs yn methiant i'r gwrth-gomiwnyddwyr
- Embargo llawn UDA ar Giwba.
- 1962
- 17 Awst - Central Intelligence Agency yn awgrymu bod yr Undeb Sofietaidd yn adeiladu bas taflegrau yng Nghiwba.
- 29 Awst - John F. Kennedy yn dweud: "I'm not for invading Cuba at this time... an action like that... could lead to very serious consequences for many people."
- 16 Hydref - McGeorge Bundy yn dweud wrth President Kennedy bod "Soviet medium-range ballistic missiles are in Ciwba".
- 23 Hydref - Blocâd môr ac awyr a bygythiad ymosod niwclear gan UDA, tasai taflegrau yn dod o Giwba.
- 28 Hydref - Khrushchev yn cytuno gwaredu'r taflegrau o Giwba a'r UDA yn cytuno nid i oresgyn Ciwba.
- 21 Tachwedd - diwedd y blocâd.
- 1967
- 8 Hydref - dienyddio Che Guevara yn La Higuera, Bolifia gan elynion y Chwydro.
- 1968
- Mawrth - cau bob bar yn Nghiwba.
1970au
- 1972 Ciwba yn aelod o COMECO.
- 1975 Yr Undeb Sofietaidd yn anfon milwyr Ciwba i Angola.
- 1976 2 Rhagfyr - Fidel Castro yn Arlywydd Ciwba.
- 1977 May - 50 milwyr cyntaf Ciwba yn cyrraedd Ethiopia, bydd 12,00 yno yn y diwedd.
1980au

1990au
- 1990 23 Mawrth - UDA yn caniatáu sianel teledu gwrth-gomiwnyddol TV Marti
- 1991
- Mai - Milwyr Ciwba yn gadael Angola.
- diwedd yr Undeb Sofietaidd
- 1992 Gorffennaf - etholiadau uniongyrchol dan ddylanwad Ewrop.
- 1993 6 Tachwedd - Caniatáu buddsoddi preifat.
- 1996 12 Mawrth - Yr Helms-Burton Act, yn ymestyn embargo UDA i gwmniau tu allan i'r UDA e.e. rhai yn Ewrop.
- 1998 21 Ionawr - Pab John Paul II yn ymweld â Chiwba.
- 1999 5 Tachwedd - bachgen 6 oed Elián González yn dod i'r lan ar y Straits of Florida ac yn dod yn ganolbwynt y rhyfel propaganda.
2000au
- 2000 14 Rhagfyr - Vladimir Putin yn ymweld â Chiwba a llofnodi cytundebau newydd.
- 2002
- Ionawr - Bas olaf Rwsia yng Nghiwba, yn Lourdes, yn cau.
- 12 Mai - Cyn Llywydd UDA Jimmy Carter yn ymweld â Chiwba.
- 2003 Ebrill - Arestio 78 ysgrifenwyr a gwleidyddion yng Nghiwba
- 2004 8 Tachwedd - Banio'r US dollar, a threth 10% ar gyfnewid dollar-peso .
- 2005 7 Gorffennaf - Corwynt Dennis yn lladd 16.
- 2006 31 Gorffennaf - Raúl Castro yn Llywydd dros dro wedi salwch Fidel.
- 2008 19 Chwefror - Fidel Castro yn cadarnhau ei ymddeoliad.
Cymru a Chiwba
Cymdeithas Cymru Ciwba
Grwp sy'n cefnogi pobl Ciwba ac ymgyrchu rhag ddylanwad UDA. Maen nhw'n rhan o ymgyrch byd eang i gefnogi Ciwba yn ymarferol. Maen nhw'n bresennol bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn weithgar iawn drwy Gymru. http://www.cymrucuba.co.uk/index%5Bdolen+farw%5D
Harri Morgan a Chiwba
Roedd y llyngesydd Syr Henry Morgan, sef Harri Morgan yn y Gymraeg (tua 1635–1688), yn forwr, a oedd yn un o ffigyrau enwocaf y Caribi. Roedd yr enwocaf a mywaf llwyddiannus o'r preifatwyr o Gymru. Yn 1667, cafodd gomisiwn gan Modyford iddo ysbeilio arfordir deheuol Ciwba ac i ddal ysbeinwyr fel gwystlon o Giwba i amddiffyn Jamaica. Cyrhaeddodd Ciwba a 10 llong a 500 dyn, cymerodd ac ysbeiliodd Morgan ddinas Puerto Principe, Camaguey. Roedd y cynllun gwreiddiol i ymosod ar Hafana ond roedd hyn yn ormod. Gyrrodd stormydd ei llongau i'r lan yn y De, a dihangodd un o'r wystlon, felly cafodd dinasyddion Puerto Principe amser i ddianc efo'i trysor. Enillodd ddim ond 50,000 pieces of eight. Aethon nhw ymlaen i ysbeilio tref cyfoethocaf y Caribi wedyn sef Porto Bello a chasglu 200,000 'pieces of eight'.
Daearyddiaeth
Demograffeg
- Prif: Demograffeg Ciwba a Crefydd yng Nghiwba
Yn ôl cyfrifiad diweddaraf, roedd y boblogaeth yn 10,985,974 (2023)[1],

Roedd mewnfudo ac allfudo enfawr yng Nghiwba. Cyn y 18g roedd y boblogaeth hanner du a hanner gwyn, ond yn y bedwerydd ganrif ar bymtheg daeth mewnforio poblogaeth i weithio yn y diwyddiant siwgr a thobaco, caethion a rhyddion a'r rhan fwyaf yn bobl ddu o'r caribi ac affrica. Ond erbyn diwedd y ganrif a rhywfaint o annibyniaeth (dan hegemoni UDA a Phrydain) daeth mwy o ymsefydlwyr o Sbaen a'r Unol Daleithiau, yn nodweddiadol o'r Ynysoedd Dedwydd, Catalwnia, Andalucía, Galisia ac o hen drefedigaethau Sbaen i Giwba. Rhwng 1900 a 1930 daeth bron miliwn o Sbaen.
Trefi mwyaf
Ieithoedd
Sbaeneg yw iaith swyddogol Ciwba ac mae mwyafrif llethol y Ciwbaiaid yn ei siarad. Gelwir y Sbaeneg fel y'i siaredir yng Nghiwba yn "Sbaeneg Ciwba" ac mae'n fath o Sbaeneg Caribïaidd . Mae Lucumí, sef un o dafodieithoedd yr Yorubasef iaith Gorllewin Affrica, hefyd yn cael ei defnyddio fel iaith yr egwlys gan rai o'r Santería.[27][28] Creol Haiti yw'r ail iaith fwyaf llafar yng Nghiwba, ac mae'n cael ei siarad gan fewnfudwyr Haitiaidd a'u disgynyddion.[29] Ymhlith yr ieithoedd eraill a siaredir gan fewnfudwyr mae Galisieg a Chorseg.[30]
Addysg

Sefydlwyd Prifysgol Havana ym 1728 a cheir llawer o golegau a phrifysgolion eraill hefyd. Ym 1957, ychydig cyn i Castro ddod i rym, roedd y gyfradd llythrennedd yn bedwerydd yn y rhanbarth - ar bron i 80% yn ôl y Cenhedloedd Unedig, yn uwch nag yn Sbaen.[31][32] Creodd Castro system a weithredir yn gyfan gwbl gan y wladwriaeth a gwaharddodd sefydliadau preifat.

Mae presenoldeb ysgol yn orfodol o chwech oed i ddiwedd addysg uwchradd sylfaenol (fel arfer yn 15 oed), ac mae pob myfyriwr, waeth beth fo'u hoedran neu ryw, yn gwisgo gwisg ysgol gyda'r lliw sy'n dynodi lefel gradd. Mae addysg gynradd yn para am chwe blynedd, mae addysg uwchradd wedi'i rhannu'n addysg sylfaenol a chyn-brifysgol. Cyfradd llythrennedd Cuba yw 99.8 y cant[33][34] yw'r degfed uchaf yn fyd-eang, yn bennaf oherwydd darparu addysg am ddim ar bob lefel.[35] Mewn cymhariaeth, cyfradd Llythrennedd y Deyrnas Gyfunol yw 99%.[36] Cyfradd graddio ysgolion uwchradd Cuba yw 94%.
Mae Gweinyddiaeth Addysg Uwch Ciwba'n gweithredu rhaglen addysg o bell sy'n darparu cyrsiau prynhawn a nos rheolaidd mewn ardaloedd gwledig i weithwyr amaethyddol ayb. Mae gan addysg bwyslais gwleidyddol ac ideolegol cryf, a disgwylir i fyfyrwyr sy'n symud ymlaen i addysg uwch fod ag ymrwymiad i nodau ac amcanion y genedl. Mae Ciwba wedi darparu addysg â chymhorthdal y wladwriaeth i nifer gyfyngedig o wladolion tramor yn Ysgol Feddygaeth America Ladin.[37][38]
Iechyd

Ar ôl y chwyldro, sefydlodd Cuba system iechyd cyhoeddus am ddim.[39]
Disgwyliad oes Ciwba adeg genedigaeth yw 79.2 mlynedd (76.8 ar gyfer dynion ac 81.7 ar gyfer menywod). Mae hyn yn rhoi safle Ciwba yn 59fed uchaf yn y byd a'r 5ed yn yr America, y tu ôl i Ganada, Tsile, Costa Rica a'r Unol Daleithiau.[40] Gostyngodd marwolaethau babanod o 32 marwolaeth babanod fesul 1,000 o enedigaethau byw ym 1957, i ddim ond 5.13 yn 2009.[41][42]
Yn hanesyddol, mae gan Ciwba nifer uchel o bersonél meddygol ac wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i iechyd y byd ers y 19g.[31] Heddiw, mae gan Giwba ofal iechyd cyffredinol (universal health care) ac er gwaethaf prinder parhaus o gyflenwadau meddygol (meddygyniaethau, offer ayb), nid oes prinder personél meddygol.[43] Mae gofal sylfaenol ar gael ledled yr ynys ac mae cyfraddau marwolaethau babanod a mamau yn cymharu'n ffafriol â'r rhai mewn gwledydd datblygedig eraill.[43] Mae ymchwilwyr yn cyfeirio at genedl sy'n datblygu fel Ciwba â chanlyniadau iechyd sy'n cystadlu â'r byd datblygedig fel Paradocs Iechyd Ciwba.[44] Mae hi'n 30fed ar Fynegai Gwledydd Iach Bloomberg 2019, sef yr unig wlad sy'n datblygu i raddio'n uchel.[45]
Ymhlith yr heriau mae cyflogau isel i feddygon,[46] cyfleusterau gwael, darpariaeth wael o offer, ac absenoldeb cyffuriau hanfodol yn aml.[47]
Mae gan Ciwba y gymhareb meddyg-i-boblogaeth uchaf yn y byd ac mae wedi anfon miloedd o feddygon i fwy na 40 o wledydd ledled y byd.[48] Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae Cuba "yn adnabyddus ledled y byd am ei allu i hyfforddi meddygon a nyrsys rhagorol a all wedyn fynd allan i helpu gwledydd eraill mewn angen".[49]
Yn y 2020au, roedd tua 50,000 o weithwyr gofal iechyd wedi'u hyfforddi yng Nghiwba yn cynorthwyo 66 o genhedloedd. Mae meddygon o Giwba wedi chwarae rhan flaenllaw yn brwydro yn erbyn epidemig firws Ebola yng Ngorllewin Affrica.[50] Mae meddygaeth ataliol yn bwysig iawn o fewn system feddygol Ciwba, sy'n ei gwneud hi'n hawdd i ddinasyddion gael ymweliadau iechyd rheolaidd.[39]
Yn 2015, Ciwba oedd y wlad gyntaf i ddileu trosglwyddiad HIV a syffilis mam-i-blentyn[51] carreg filltir a nodwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd fel "un o'r cyflawniadau iechyd cyhoeddus mwyaf".[52]
Bwydydd

Cyfuniad o fwydydd Sbaen a'r Caribi yw bwyd Ciwba, ar y cyfan. Mae ryseitiau Ciwba'n drwm o sbeisys a thechnegau coginio Sbaenaidd, gyda rhywfaint o ddylanwad Caribïaidd mewn sbeis a blas. Mae dogni bwyd, sydd wedi bod yn norm yng Nghiwba am y pedwar degawd diwethaf, yn cyfyngu ar argaeledd y prydau hyn.[53] Nid yw'r pryd traddodiadol o Giwba yn cael ei weini mewn cyrsiau; mae'r holl eitemau bwyd yn cael eu gweini ar yr un pryd.
Mae'r pryd nodweddiadol yn cynnwys llyriad (plantains), ffa du a reis, ropa vieja (cig eidion wedi'i falu), bara Ciwba, porc gyda nionod, a ffrwythau trofannol. Mae ffa du a reis, y cyfeirir atynt fel moros y cristianos (neu moros yn fyr), a llyriad yn rhan bwysig o ddeiet Ciwba. Ceir llawer o'r seigiau cig wedi'u coginio'n araf gyda sawsiau ysgafn. Dail garlleg, cwmin, oregano a dail bae yw'r prif sbeisys.[12][13]
Llenyddiaeth
Dechreuodd llenyddiaeth Ciwba ddod o hyd i'w lais ei hun ar ddechrau'r 19g. Dyluniwyd themâu amlycaf annibyniaeth a rhyddid gan José Martí, a arweiniodd y mudiad Modernaidd yn llenyddiaeth Ciwba. Canolbwyntiodd awduron fel Nicolás Guillén a José Z. Tallet ar lenyddiaeth fel protest gymdeithasol. Mae barddoniaeth a nofelau Dulce María Loynaz a José Lezama Lima wedi bod yn ddylanwadol ac mae'r Rhamantaidd Miguel Barnet, a ysgrifennodd Everyone Dreamed of Cuba, yn adlewyrchu Ciwba mwy lleddf a hiraethus.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.