Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Ymerawdwr Glân Rhufeinig From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Siarl V (24 Chwefror 1500 – 21 Medi 1558), hefyd Siarl o Luxemburg, oedd yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig rhwng 1519 a 1556. Roedd hefyd yn frenin Sbaen fel Siarl I rhwng 1516 a 1556.[1]
Remove ads

Roedd yn fab i Felipe I, a fu'n frenin Castilla am gyfnod byr, a'i wraig Juana o Castilla (Juana Wallgof). Ei daid a'i nain ar ochr ei fam oedd Ferdinand II, brenin Aragon ac Isabella I, brenhines Castilla, tra ar ochr ei dad, roedd yn ŵyr i Maximilian I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig.
Priododd Isabella, chwaer Ioan III, brenin Portiwgal, yn 1526. Roedd eu plant yn cynnwys:
- Felipe II, brenin Sbaen (1527–1598)
- Maria o Awstria (1528–1603), a briododd Maximilian II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Ef a roddodd bum llong i Ferdinand Magellan, y cyntaf i hwylio o gwmpas y byd yn 1522, wedi i frenin Portiwgal ei wrthod. Ymestynnodd ymerodraeth Sbaen yn y Byd Newydd yn fawr yn ystod ei deyrnasiad, gyda Hernán Cortés a Francisco Pizarro yn gorchfygu ymerodraethau'r Asteciaid a'r Inca. Bu'n ymladd llawer gydag Ymerodraeth yr Otomaniaid dan y Swltan Swleiman I.
Remove ads
Cyfeiriadau
Darllen pellach
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads