From Wikipedia, the free encyclopedia
Ymryson rhwng yr Undeb Sofietaidd a gwledydd Cytundeb Warsaw ar naill ochr a'r Unol Daleithiau a gwledydd NATO ar y llall oedd y Rhyfel Oer. Cychwynnodd ar ôl yr Ail Ryfel Byd a pharhaodd o tua 1945 hyd i tua 1990. Daeth i ben o ganlyniad i gwymp yr Undeb Sofietaidd. Roedd yn "rhyfel oer" oherwydd na chafwyd rhyfel agored (rhyfel "poeth") rhwng y gwledydd hynny. Defnyddiodd Bernard Baruch, ymgynghorydd i Arlywydd yr Unol Daleithiau, y term "Rhyfel Oer" am y tro cyntaf yn ystod dadl yn Senedd yr Unol Daleithiau yn 1947.
Enghraifft o'r canlynol | cold war, perpetual war, proxy war, cyfnod o hanes |
---|---|
Math | low-intensity conflict |
Dyddiad | 1946 (yn y Calendr Iwliaidd) |
Dechreuwyd | 1945 |
Daeth i ben | 25 Rhagfyr 1991 |
Rhagflaenwyd gan | yr Ail Ryfel Byd |
Olynwyd gan | post–Cold War era |
Lleoliad | America Ladin, Asia, Affrica, Ewrop |
Yn cynnwys | y Rhyfel Athreuliol, Chwyldro Saur, proxy war, Operation Cyclone, Afghan conflict |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Rhyfel Corea, Rhyfel Fietnam ac ymyrraeth filwrol yr Undeb Sofietaidd yn Affganistan ymhlith canlyniadau'r Rhyfel Oer. Fodd bynnag, nid brwydro agored oedd nodwedd bennaf y Rhyfel Oer, ond cystadlu am rym a dylanwad yn y byd. Roedd y ddwy ochr yn ysbïo ar ei gilydd yn rheolaidd.
Un o bryderon mawr y cyfnod hwn roedd y cynnydd mewn arfau niwclear a'r perygl o gael Trydydd Rhyfel Byd a fyddai'n dinistrio'r blaned gyfan. Arweiniodd hynny at dwf y Mudiad Heddwch, er enghraifft CND yng ngwledydd Prydain.
Un o ganolbwyntiau tensiwn Rhyfel Oer roedd yr Almaen ranedig, yn enwedig Berlin a oedd yn ddinas ranedig ar y ffin rhwng Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen ("Dwyrain yr Almaen") a Gweriniaeth Ffederal yr Almaen ("Gorllewin yr Almaen"). Roedd Mur Berlin yn rhannu Berlin yn ddwy ran - Gorllewin Berlin a Dwyrain Berlin - yn un o'r symbolau'r Rhyfel Oer.
Un nodwedd o'r Rhyfel Oer, oedd brwdyr y tonfeddi wrth i wladwriaethu comiwnyddol a Gorllewinnol ddeall pwysigrwydd a grym darlledu dros donfeddi radio. Ar ochr y Gorllewin sefydlwyd Radio Free Europe a Radio Liberty y naill yn 1949 a'r llall yn 1953 gan ddarlledu yn ieithoedd Dwyrain Ewrop, Canolbarth Asia a'r Dwyrain Canol gyda newyddion a sylwadau na fyddai wedi dod o'r llywodraethau lleol.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.