Remove ads
rhyfel rhwng Gogledd a De Corea, 1950–1953 From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhyfel rhwng De Corea dan Syngman Rhee gyda chefnogaeth milwyr o nifer o wledydd gorllewinol a Gogledd Corea dan Kim Il-Sung gyda chefnogaeth milwyr o Weriniaeth Pobl Tsieina oedd Rhyfel Corea.
Dechreuodd y rhyfel fel ysgarmesoedd ar y ffin rhwng y De a'r Gogledd. Cynhaliwyd etholiadau yn Ne Corea ym mis Mai 1950. Ni wnaeth cefnogwyr y Gogledd yn dda, a mynnodd Gogledd Corea fod yr etholiadau'n cael eu hail-gynnal. Gwrthododd y De ac ar 25 Mehefin 1950 symudodd milwyr Gogledd Corea tua'r De i geisio aduno'r wlad. Parhaodd yr ymladd hyd y cadoediad ar 27 Gorffennaf 1953.
Cafodd byddin y Gogledd lwyddiannau buan, a gorfodwyd milwyr De Corea i encilio. Meddiannwyd dinas Seoul gan fyddin Gogledd Corea ar 28 Mehefin. Pasiwyd penderfyniad yn y Cenhedloedd Unedig yn galw ar Ogledd Corea i encilio o'r De. Ar y pryd, roedd yr Undeb Sofietaidd wedi penderfynu peidio cymryd rhan yn y Cenhedloedd Unedig, felly ni allent atal y penderfyniad i roi cymorth milwrol i Dde Corea. Milwyr yr Unol Daleithiau oedd y garfan fwyaf a gymerodd ran yn y rhyfel, ond cafwyd milwyr hefyd gan y Deyrnas Unedig,Canada, Awstralia, Seland Newydd, Ffrainc, De Affrica, Twrci, Gwlad Tai, Gwlad Roeg, yr Iseldiroedd, Ethiopia, Colombia, y Ffilipinau, Gwlad Belg, a Lwcsembwrg.
Ar y dechrau, nid oedd y nifer o filwyr yr Unol Daleithiau yn fawr, a gorchfygwyd hwy yn Osan ar 5 Gorffennaf. Erbyn mis Awst, dim ond tiriogaeth fechan yn y De-ddwyrain o gwmpas Pusan oedd ym meddiant y De. Llwyddasant i gadw gafael ar Pusan wedi brwydro caled. Cyrhaeddodd rhagor o filwyr y Cenhedloedd Unedig, a bu bomio trwm gan awyrennau'r Unol Daleithiau. Gwrthymosodwyd ar 15 Medi gyda glaniad yn Inchon, a chipiwyd Seoul yn ôl. Bu raid i filwyr y Gogledd encilio, a symudodd lluoedd y De a'r Cenhedloedd Unedig ymlaen i'r Gogledd, gyda'r bwriad o uno Corea i gyd dan lywodraeth Syngman Rhee.
Wrth iddynt ddynesu at ffin Tsieina, rhybuddiodd llywodraeth Tsieina hwy y byddai'n cymryd rhan yn y rhyfel. Ar 19 Hydref symudodd milwyr Tsieina tua'r ffin, ac ar 1 Tachwedd 1950 daethant i wrthdrawiad â lluoedd yr Unol Daleithiau. Gorfodwyd milwyr De Corea a'r Unol Daleithiau i encilio tua'r De. Ar 4 Ionawr 1951 cipiwyd Seoul gan fyddin Tsieina. Ail-feddiannwyd y ddinas gan yr Unol Daleithiau ar 14 Mawrth. Fesul tipyn, gyrrwyd y Comiwnyddion yn ôl tua'r ffin rhwng Gogledd a De Corea.
O Hydref 1951 hyd Orffennaf 1953 parhaodd yr ymladd heb lawer o newid o ran y diriogaeth ym meddiant y ddwy ochr. Parhaodd trafodaethau heddwch am ddwy flynedd, yn Kaesong ac yna yn Panmunjon. Cytunwyd ar gadoediad ar 27 Gorffennaf 1953.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.