Hanes
From Wikipedia, the free encyclopedia
Astudiaeth o ddigwyddiadau'r gorffennol yw hanes a chasglu gwybodaeth am y digwyddiadau hynny a rhoi trefn arnynt, eu casglu a'u cyflwyno. Mae hefyd yn ddehongliad o weithgarwch daearegol, organig a chosmig, ond fel arfer mae'n ymwneud â hanes dyn ar y ddaear. Gelwir yr ysgolheigion sy'n ysgrifennu am hanes yn haneswyr; ceisiant archwilio, analeiddio a gosod mewn trefn cyfres o ddigwyddiadau gan geisio (yn wrthrychol) weld patrwm achos ac effaith.[1][2]
Mae haneswyr yn defnyddio gwahanol fathau o ffynonellau, gan gynnwys cofnodion ysgrifenedig, cyfweliadau llafar, arteffactau ac archaeoleg. Disgrifir digwyddiadau cyn hanes ysgrifenedig yn gynhanes.

Yn aml, mae haneswyr yn trafod natur hanes a pha mor ddefnyddiol ydyw: disgyblaeth academig diddim didda yn ôl rhai tra bod eraill yn credu ei fod yn rhoi perspectif gwahanol ac iach ar y presennol.[1][3][4][5]
Cyfeiriadau
Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.