34ain Arlywydd yr Unol Daleithiau, o 1953 i 1961, oedd Dwight David "Ike" Eisenhower (14 Hydref 1890 – 28 Mawrth 1969).
Dwight D. Eisenhower | |
---|---|
Ganwyd | David Dwight Eisenhower 14 Hydref 1890 Denison |
Bu farw | 28 Mawrth 1969 Washington, Walter Reed Army Medical Center |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor, swyddog milwrol, gwladweinydd, person milwrol, swyddog y fyddin |
Blodeuodd | 1945 |
Swydd | Arlywydd yr Unol Daleithiau, Chief of Staff of the United States Army, Supreme Allied Commander Europe, Arlywydd-etholedig yr Unol Daleithiau |
Taldra | 180 centimetr, 179 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Tad | David Jacob Eisenhower |
Mam | Ida Stover Eisenhower |
Priod | Mamie Eisenhower |
Plant | Doud Eisenhower, John Eisenhower |
Gwobr/au | Atoms for Peace Award, Cymrawd y 'Liberation', Uwch Groes Urdd y Goron Dderw, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Uwch Groes Urdd Wissam El Alaouite, Llengfilwr y Lleng Teilyndod, Urdd Buddugoliaeth, Africa Star, Medal Gwasanaethau Difreintiedig, Mexican Border Service Medal, World War I Victory Medal, American Defense Service Medal, Medal Ymgyrch Ewropeaidd-Affricanaidd-Dwyrain Canol, Medal 'Buddugoliaeth' yr Ail Ryfel Byd, Medal Byddin y Galwedigaeth, Medal y Gwasanaeth Amddiffyn Cenedlaethol, Order of Aeronautical Merit, Gwobr y Groes Uwch Genedlaethol o Groes y De, Grand cross of the Order of the White Lion, Urdd yr Eliffant, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta, Urdd Brenhingyff Chakri, Grand Cordon of the order of Nichan Iftikhar, Order of Suvorov, 1st class, Croix de guerre, Order of Ismail, Gwobr Horatio Alger, 'Hall of Fame' Golff y Byd, Hoover Medal, Urdd Croes Grunwald, dosbarth 1af, Czechoslovak War Cross 1939–1945, Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Knight Grand Cross of the Military Order of Savoy, Urdd Manuel Amador Guerrero, Uwch Cordon Urdd Leopold, doethuriaeth anrhydeddus Prifysgol Hofstra, Grand Cross of the Order of the Liberator General San Martin, Marchog Fawr Groes yn Urdd Llew yr Iseldiroedd, Nishan-e-Pakistan, Urdd Vasco Núñez de Balboa, Urdd Sikatuna, Urdd y Cymylau Ffafriol, Silver Cross of the Virtuti Militari, Medal Victoria, Urdd y Gwaredwr, Time Person of the Year, honorary citizen of Brussels, Gwobr Theodore Roosevelt, honorary doctor of Caen University |
Tîm/au | Army Black Knights football |
llofnod | |
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, Eisenhower oedd Pencadlywydd Byddin Alldeithiol y Cynghreiriaid yn Ewrop, a oruchwyliodd glaniadau Normandi a'r symudiad tuag at yr Almaen o Ffrynt y Gorllewin. Wedi'r rhyfel, gwasanaethodd Eisenhower fel Pennaeth Staff dan yr Arlywydd Harry S. Truman a Llywydd Prifysgol Columbia. Ym 1951 daeth yn Bencadlywydd cyntaf NATO.[1]
Enillodd Eisenhower etholiad arlywyddol 1952 fel Gweriniaethwr. Fel Arlywydd dilynodd bolisïau cyfyngiant ac ataliaeth niwclear i atal ymlediad comiwnyddiaeth yn ystod y Rhyfel Oer. Daeth â therfyn i Ryfel Corea a gorchmynnodd newid llywodraeth yn Iran a Gwatemala. Ceisiodd atal effaith y dominos, er enghraifft trwy ymrwymo'r Unol Daleithiau i amddiffyn Gweriniaeth Tsieina (Taiwan) yn erbyn Gweriniaeth Pobl Tsieina.
Yn ystod ei arlywyddiaeth bu rhywfaint o dwf economaidd yn yr Unol Daleithiau.[2] Sefydlodd y System Priffyrdd Rhyngdaleithiol[3] a dadwahanodd y lluoedd arfog.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.