Galisia

From Wikipedia, the free encyclopedia

Un o gymunedau ymreolaethol Sbaen yw Galisia (Galisieg: Galicia; Galiza[1], Sbaeneg Galicia). Saif yng ngogledd-orllewin yr orynys Iberaidd. Mae nifer o ynysoedd megis y Cíes, Ons, Cortegada, Arousa, Sálvora a Vionta yn rhan o Galisia. Ystyrir Galisia yn genedl hanesyddol, fel Catalwnia ac Ewskadi (sef Gwlad y Basg).

Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
Galisia
Thumb
Thumb
MathCymunedau ymreolaethol Sbaen 
LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Galicia.wav 
PrifddinasSantiago de Compostela 
Poblogaeth2,705,833 
Sefydlwyd
  • 28 Ebrill 1981 
AnthemOs Pinos 
Pennaeth llywodraethAlfonso Rueda 
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 
Gefeilldref/iWakayama 
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Galiseg, Sbaeneg 
Daearyddiaeth
Gwlad Sbaen
Arwynebedd29,574 km² 
GerllawCefnfor yr Iwerydd, Môr Cantabria 
Yn ffinio gydaAsturias, Castilla y León, Norte Region 
Cyfesurynnau42.8°N 7.9°W 
ES-GA 
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolXunta de Galicia 
Corff deddfwriaetholParliament of Galicia 
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
President of the Xunta of Galicia 
Pennaeth y LlywodraethAlfonso Rueda 
Thumb
Cau

Mae gan Galisia ei hiaith ei hun, Galisieg, sy'n iaith Rufeinaidd, sy'n debygach i Bortiwgaleg na Sbaeneg. Yn ôl astudiaeth ddiweddar defnyddir yr iaith gan tua 80% o'r boblogaeth. Ymhlith ei harwyr chwedlonol mae Pedro Pardo de Cela (c. 1425 - 17 Rhagfyr 1483). Ystyrir Ramón Piñeiro (31 Mai 1915 - 27 Awst 1990) yn Athronydd, awdur a chenedlaetholwr o bwys. Fe'i ganwyd yn Armea de Abaixo, Lama, Láncara, Galisia ac roedd yn flaenllaw yn ei ymdrech i hyrwyddo diwylliant Galicia wedi Rhyfel Cartref Sbaen.

Roedd Rosalía de Castro (1837 – 1885) yn brif lenor Galisia a heddiw yn arwres ffeministaidd. Cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth Cantares gallegos (Caneuon Galisieg) ar 17 Mai, 1863. Mae 17 Mai bellach yn cael ei dathlu fel Día das Letras Galegas - Diwrnod llenyddiaeth Galisieg, yn ddiwrnod o wyliau yn Galisia. Un o brif ffigyrau eraill Galisia yw Castelao (1886 – 1950) a oedd yn arweinydd y mudiad cenedlaethol, ysgrifennwr, arlunydd, cartwnydd, dramodydd a doctor.

Cysylltiad Celtaidd

Mae Galisia yn cael ei hystyried fel gwlad Geltaidd am ei gysylltiadau Celtaidd hanesyddol.

Enw un o brif glybiau pêl-droed y wlad yw Celta de Vigo (Celtiaid Vigo) ac mae cerddoriaeth draddodiadol Galisia yn cynnwys offerynnau Celtaidd fel y bibgod.

Mae Os Pinos - anthem genedlaethol y wlad yn cyfeirio at Galisia fel ‘Cenedl Breogán’. Roedd Breogán (Breoghan, Bregon neu Breachdan)[2] yn arwr yn hanes Celtaidd. Mae’r llyfr Gwyddelig Lebor Gabála Érenn [3](Llyfr llafar Iwerddon) o’r canoloesol yn cyfeirio at Breogán a’i disgynyddion yn teithio i Galisia a sefydlu dinas Brigantia (A Coruña heddiw). Mae cerflun modern enfawr o Beogán yn sefyll yn A Coruña yn edrych tua'r môr ac Iwerddon.

Prif drefi Galisia

Yn economaidd, mae Galisia yn dibynnu i raddau helaeth ar amaethyddiaeth a physgota. Mae twristiaeth hefyd yn elfen bwysig, ac mae miloedd o bererinion yn cyrchu i Santiago de Compostela bob blwyddyn ar hyd y Camino de Santiago.

Oriel

Dinasoedd a threfi mawrion

Y prif ddinasoedd yw: Vigo, A Coruña, Ourense, Lugo, Santiago de Compostela (y brifddinas), Pontevedra a Ferrol.

Yr ardaloedd mwyaf poblog yw:

  • Vigo-Pontevedra – 660,000
  • A Coruña-Ferrol – 640,000
Ffeithiau sydyn Rhestr dinasoedd a threfi yn Galisia yn ôl poblogaeth, Tref/Dinas ...
Rhestr dinasoedd a threfi yn Galisia yn ôl poblogaeth
Tref/Dinas Rhanbarth Poblogaeth (2013) Tref/Dinas Rhanbarth Poblogaeth (2013)
1VigoPontevedra294,997 11CarballoA Coruña31,303
2A CoruñaA Coruña244,810 12ArteixoA Coruña30,482
3OurenseOurense106,905 13RedondelaPontevedra30,006
4LugoLugo98,007 14CulleredoA Coruña29,207
5Santiago de CompostelaA Coruña95,207 15AmesA Coruña28,852
6PontevedraPontevedra82,946 16RibeiraA Coruña27,699
7FerrolA Coruña70,389 17CangasPontevedra26,121
8NarónA Coruña39,450 18MarínPontevedra25,864
9Vilagarcía de ArousaPontevedra37,621 19CambreA Coruña23,649
10OleirosA Coruña34,470 20PonteareasPontevedra23,561
Cau


Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.