Ciwbawyr

From Wikipedia, the free encyclopedia

Cenedl amlhiliol yw'r Ciwbawyr neu'r Ciwbaniaid sy'n byw ar ynys Ciwba, cenedl-wladwriaeth ym Môr y Caribî, neu'n hanu o'r wlad honno.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Ciwbawyr
Enghraifft o:Poblogaeth 
MathCaribbean people, preswylydd, Americans, Latin Americans, cenedl, islanders 
RhanbarthCiwba 
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau

Mae 65.1% o Giwbawyr yn wyn, 24.8% yn fylato neu'n mestizo, a 10.1% yn Giwbawyr Affricanaidd.[1] Mae'r mwyafrif o Giwbawyr yn Babyddion.

Mae'r Ciwbawyr yn siarad Sbaeneg. Mae pêl fas a phaffio amatur yn chwaraeon poblogaidd. Mae cerddoriaeth Giwbaidd wedi bod yn ddylanwadol yn genres cerddorol y Caribî, gan gynnwys Rumba, salsa, merengue, a Reggaeton.

Ers Chwyldro Ciwba (1953–9), mae nifer o Giwbawyr alltud wedi ymsefydlu mewn mannau eraill o'r byd, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.