Paffio
math o chwaraeon From Wikipedia, the free encyclopedia
Gornest rhwng dau gystadleuydd yw paffio. Yn gyffredinol, mae'r cystadleuwyr yn debyg o ran pwysau ac maent yn ymladd yn erbyn ei gilydd gan ddefnyddio'u dyrnau. Goruchwylir y chwaraeon dan ddyfarnwr a gan amlaf ceir cyfres o ymladdfeydd sy'n para am dair munud. Gelwir yr ymladdfeydd hyn yn "rowndiau". Mae yna dair ffordd o ennill. Ceir buddugoliaeth os yw'r gwrthwynebwr yn cael ei daro i'r llawr a'i fod yn methu codi cyn i'r dyfarnwr gyfri i ddeg (yn Saesneg: Knockout neu KO). Daw buddugoliaeth hefyd os yw'r gwrthwynebydd wedi'i anafu'n ormodol i fedru parhau â'r ornest ("Knockout Technegol"). Os nad yw'r ornest yn stopio cyn nifer penodol o rowndiau, penderfynir ar enillydd naill ai gan benderfyniad y dyfarnwr neu gardiau sgorio'r beirniaid.

![]() | |
Enghraifft o: | math o chwaraeon, chwaraeon i wylwyr |
---|---|
Math | combat sport, chwaraeon olympaidd |
Gwlad | Lloegr |
Yn cynnwys | amateur boxing, professional boxing |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.