Cân i Gymru

From Wikipedia, the free encyclopedia

Cân i Gymru

Rhaglen deledu a chystadleuaeth cân yw Cân i Gymru a chaiff ei darlledu gan S4C o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi. Mae'r cyfansoddwr buddugol yn ennill swm o arian a chael y cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.

Ffeithiau sydyn Gwlad/gwladwriaeth, Iaith/ieithoedd ...
Cân i Gymru
Thumb
Gwlad/gwladwriaeth  Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 120 munud (yn cynnwys hysbysebion)
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC Cymru (1969)
S4C (1983–)
Rhediad cyntaf yn 1969; 56 mlynedd yn ôl (1969)
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol
Cau

Hanes

Cyflwynwyd Cân i Gymru o dan yr enw 'Cân Disg a Dawn' am y tro cyntaf ym 1969. Ar y pryd roedd Meredydd Evans, pennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru yn gobeithio byddai'r gân fuddugol yn gallu cystadlu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision, er y penderfynodd y BBC yn Llundain yn y diwedd mai dim ond un cân o wledydd Prydain fyddai'n cystadlu.[1]

Darlledwyd wyth rhaglen yn y gyfres i ddewis Cân i Gymru gyda saith cân ymhob un, yn cael eu perfformio gan gantorion adnabyddus y cyfnod. Roedd y cyhoedd yn pleidleisio drwy ddanfon llythyrau i mewn ac roedd y gân gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau yn mynd ymlaen i'r rownd derfynol.[2] Darlledwyd y rhaglen olaf ar 5 Mehefin 1969 drwy wledydd Prydain dan y teitl Song for Wales ac fe'i gyflwynwyd gan Ronnie Williams yn Gymraeg a Saesneg. Roedd panel wedyn yn dewis y gân fuddugol ar y noson. Roedd y rhaglen hefyd yn rhan o ddarpariaeth y BBC ar gyfer arwisgiad Tywysog Siarl a fyddai'n digwydd ar 1 Gorffennaf 1969.[3]

Yn dilyn sefydlu yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon ddechrau'r 70au dechreuodd Pwyllgor Cymru yr Ŵyl y gystadleuaeth 'Cân i Gymru' unwaith eto er mwyn dewis cân i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth Celtavision. Doedd yna ddim cystadleuaeth Cân i Gymru yn 1973. I ddechrau doedd gan y cyfryngau yng Nghymru ddim llawer o ddiddordeb yn y gystadleuaeth. Doedd Cân i Gymru ddim yn cael ei darlledu yn fyw ar y teledu, a phanel oedd yn pleidleisio i ddewis enillwyr. Er enghraifft cynhaliwyd cystadleuaeth 1980 ym Mar Cefn yr Angel yn Aberystwyth ac fe'i darlledwyd ar Radio Cymru.

Erbyn 1982 roedd y gystadleuaeth nôl ar y teledu ond panel oedd yn dal i ddewis yr enillydd.

Erbyn hyn caiff y gân fuddugol ei dewis drwy bleidlais lle mae aelodau'r cyhoedd yn ffonio am eu hoff gân. Yn 2019 roedd y wobr yn £5,000 gyda £2,000 am yr ail safle a £1,000 am y trydydd safle. Bydd yr enillydd yn cael y cyfle i fynd ymlaen i gystadlu yn Celtavision, a gynhelir yn Iwerddon fel rhan o'r Ŵyl Ban Geltaidd.

Yn wahanol i'r mwyafrif o gystadlaethau canu yn Ewrop, pwysleisir cyfansoddwr y gân yn hytrach na'r perfformiwr.

Crynodeb o'r rhaglenni

Rhagor o wybodaeth Blwyddyn, Nifer y caneuon ...
Blwyddyn Nifer y caneuonCân fuddugol[4]Perfformiwr/wyr Cyfansoddwyr[5][6] Lleoliad Cyflwynwyr Cwmni Cynhyrchu Darlledwr Dyddiad darlledu
1969 Y Cwilt CymreigMargaret Williams Llifon Hughes-Jones, Megan Lloyd Ellis Caerdydd Ronnie Williams BBC Cymru BBC 1
1970 6 Dydd o HafY Canolwyr Hawys James Caerdydd Ronnie Williams BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 23 Mai
1971 6Nwy yn y NenEleri Llwyd Dewi 'Pws' Morris Caerdydd Huw Jones BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 31 Gorffennaf
1972 Pan Ddaw'r DyddHeather Jones Geraint Jarman Caerdydd BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 1 Mawrth
Dim cystadleuaeth yn 1973
1974 6 I Gael Cymru'n Gymru RyddIris Williams Rod Thomas, Rod Gruffydd Caerdydd Dewi 'Pws' Morris BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 1 Mawrth
1975 CaledfwlchBrân (grŵp) Gwyndaf Roberts Caerdydd Hywel Gwynfryn BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 1 Mawrth
1976 Y Llanc Glas LygadRhian Rowe Douglas Roberts Caerdydd BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 1 Mawrth
1977 Dafydd ap GwilymCawl Sefin Peter Hughes Griffiths, Meinir Lloyd Caerdydd Gwyn Erfyl HTV HTV 1 Mawrth
1978 Angel Ble Wyt TiDelwyn Siôn a Brân John Gwyn, Ronw Protheroe Caerdydd BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 1 Mawrth
1979 Ni Welaf yr HafPererin (grwp) Arfon Wyn Caerdydd Arfon Haines Davies HTV HTV 1 Mawrth
1980 5 Golau Tan GwmwlPlethyn Geraint Lovgreen, Myrddin ap Dafydd Aberystwyth Emyr Wyn a Mynediad am Ddim

(Darllediad Radio yn unig)

BBC Cymru BBC Radio Cymru 1 Mawrth
1981 6 Dechrau'r DyfodolBeca Gareth Glyn, Eleri Cwyfan Yr Wyddgrug Gwyn Erfyl HTV HTV
1982 5Nid Llwynog Oedd yr HaulCaryl Parry Jones a Bando Geraint Lovgreen, Myrddin ap Dafydd Caerdydd Menna Gwyn ac Emyr Wyn BBC Cymru S4C 1 Mawrth
1983 6 Popeth Ond Y GwirLinda Healy a Cleif Harpwood Siân Wheway, Robin Gwyn Caerdydd Emyr Wyn BBC Cymru S4C 1 Mawrth
1984 5 Y CwmGeraint Griffiths Huw Chiswell Caerdydd Emyr Wyn BBC Cymru S4C 1 Mawrth
1985 6Ceiliog y GwyntBwchadanas Euros Rhys Evans Caerdydd Emyr Wyn BBC Cymru S4C 1 Mawrth
1986 6 Be Ddylwn i DdweudEirlys Parri Mari Emlyn Caerdydd Margaret Williams BBC Cymru S4C 1 Mawrth
1987 8Gloria Tyrd AdreEryr Wen Euros Elis Jones, Llion Jones Llandudno Caryl Parry Jones Teledu'r Tir Glas S4C 15 Mawrth
1988 8Can WiniManon Llwyd Manon Llwyd, Eurig Wyn Llandudno Geraint Griffiths Teledu'r Tir Glas S4C 13 Mawrth
1989 8 Twll TrionglHefin Huws Hefin Huws, Les Morrison Llandudno Nia Roberts Teledu'r Tir Glas S4C 19 Mawrth
1990 8Gwlad y Rasta GwynSobin a'r Smaeliaid Rhys Wyn Parry, Bryn Fôn Alaw Bennett Jones ac Owain Gwilym Teledu'r Tir Glas S4C 15 Mawrth
1991 8Yr Un Hen LleNeil Williams a'r Band Richard Marks Caernarfon Nia Roberts Teledu'r Tir Glas S4C 2 Mawrth
1992 7Dal i GreduEifion Williams Gwennant Pyrs, Meleri Roberts, Alwen Derbyshire Caernarfon Nia Roberts Teledu'r Tir Glas S4C 18 Ebrill
1993 8Y Cam NesaPaul Gregory Paul Gregory Caernarfon Nia Roberts Teledu'r Tir Glas S4C 10 Ebrill
1994 8 Rhyw DdyddGeraint Griffiths Paul Gregory, Lorraine King, Tim Hamill, Dave Parsons Caerdydd Nia Roberts a Stifyn Parri HTV S4C 1 Mawrth
1995 8 Yr Ynys WerddGwenda Owen Richard Jones, Arwel John Pontrhydfendigaid Nia Roberts Apollo S4C 1 Mawrth
1996 8Cerrig yr AfonIwcs a Doyle Iwan Roberts, John Doyle Pontrhydfendigaid Nia Roberts Apollo S4C 1 Mawrth
1997 8 Un Funud FachBryn Fôn Barry Jones Ponthydfendigaid Nia Roberts Apollo S4C 1 Mawrth
1998 8 Rho Dy LawArwel Wyn Roberts Rhodri Tomos Caerdydd Nia Roberts Apollo S4C 28 Chwefror
1999 8 Torri'n RhyddSteffan Rhys Williams Matthew McAvoy, Steffan Rhys Williams Corwen Dafydd Du a Nia Roberts Apollo S4C 1 Mawrth
2000 8 Cae o ŶdMartin Beattie Arfon Wyn Llangollen Dafydd Du a Nia Roberts Apollo S4C 1 Mawrth
2001 Dagrau DdoeGeinor Haf Emlyn Dole Llangollen Dafydd Du a Nia Roberts Apollo S4C 1 Mawrth
2002 Harbwr DiogelElin Fflur Arfon Wyn, Richard Synnott Port Talbot Lisa Gwilym ac Angharad Llwyd Apollo S4C 1 Mawrth
2003 16 Oes Lle i MiNon Parry & Steffan Rhys Williams Emma Walford, Mererid Hopwood Port Talbot Lisa Gwilym ac Angharad Llwyd Apollo S4C 1 Mawrth
2004 16 Dagrau TawelRhian Mair Lewis Meinir Richards. Tudur Dylan Casnewydd Sarra Elgan a Dafydd Du Apollo S4C 1 Mawrth
2005 Mi GlywaisRhydian Bowen Philips Dafydd Jones, Guto Vaughan Casnewydd Sarra Elgan ac Alun Williams Apollo S4C 1 Mawrth
2006 9Llii'r NosRyland Teifi Ryland Teifi Port Talbot Sarra Elgan a Hefin Thomas Avanti S4C 1 Mawrth
2007 9Blwyddyn MasEinir Dafydd Einir Dafydd, Ceri Wyn Jones Port Talbot Sarra Elgan a Hefin Thomas Avanti S4C 2 Mawrth
2008 9 AtgofionAled Myrddin Aled Myrddin Port Talbot Sarra Elgan a Rhydian Bowen Phillips Avanti S4C 29 Mawrth
2009 8 GofidiauElfed Morgan Morris Lowri Watcyn Roberts, Elfed Morgan Morris Llandudno Sarra Elgan a Rhodri Owen Avanti S4C 1 Mawrth
2010 8Bws i'r LleuadTomos Wyn Alun Evans Llandudno Sarra Elgan a Rhodri Owen Avanti S4C 28 Chwefror
2011 8Rhywun yn RhywleTesni Jones Steve Balsamo, Ynyr Gruffydd Pontrhydfendigaid Elin Fflur a Dafydd Du Avanti S4C 6 Mawrth
2012 8Braf yw Cael BywGai Toms Gai Toms, Philip Jones Pontrhydfendigaid Elin Fflur a Dafydd Du Avanti S4C 1 Mawrth
2013 6Mynd I Gorwen Hefo AlysJessop a'r Sgweiri Rhys Gwynfor, Osian Huw Williams Caerdydd Elin Fflur a Dafydd Du Avanti S4C 1 Mawrth
2014 6 Galw Amdanat Ti Mirain Evans Barry Evans, Mirain Evans[7] Gwalchmai Elin Fflur a Gethin Evans Avanti S4C 28 Chwefror
2015 8 Y Lleuad a'r Sêr Elin Angharad Elin Angharad, Arfon Wyn[8] Gwalchmai Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 7 Mawrth
2016 8 Dim Ond Un Cordia Ffion Elin, Rhys Jones[9] Caerdydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 5 Mawrth
2017 10 Rhydd Cadi Gwyn Edwards Cadi Gwyn Edwards[10] Caerdydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 11 Mawrth
2018 8 Cofio Hedd Wyn Ceidwad y Gân Erfyl Owen[11] Bangor Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 1 Mawrth
2019 8 Fel Hyn 'da Ni Fod Elidyr Glyn Elidyr Glyn[12] Aberystwyth Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 6 Mawrth
2020 8 Cyn i’r Llenni Gau Gruffydd Wyn Gruffydd Wyn[13] Aberystwyth Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 29 Chwefror
2021 8 Bach o Hwne Morgan Elwy Williams Morgan Elwy Williams[14] Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 5 Mawrth
2022 8 Mae yna Le Ryland Teifi Rhydian Meilir[15] Aberystwyth Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 4 Mawrth
2023 8 Patagonia Dylan Morris Alistair James[16] Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 3 Mawrth
2024 8 Ti Sara Davies Sara Davies[17] Arena Abertawe Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 1 Mawrth
2025 8 Troseddwr yr Awr Dros Dro Dros Dro[18] Dragon Studios, Pen-y-bont ar Ogwr Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 28 Chwefror
Cau

Mae nifer o gyfansoddwyr wedi bod yn fuddugol mwy nag unwaith, gan gynnwys Arfon Wyn. Ymhlith y caneuon poblogaidd a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth y mae Gwin Beaujolais (cân).

Y goreuon, yn ôl gwylwyr S4C, 2016

Ym Mawrth 2016 cynhaliodd S4C bleidlais o'r holl enillwyr ers 1982, a'r 7 uchaf oedd:

  • 7fed: Cerrig Oer yr Afon - Iwcs a Doyle
  • 6ed: Dagrau Tawel - Rhian Mair Lewis
  • 5ed: Galw Amdanat Ti - Mirain a Barry Evans
  • 4ydd: Harbwr Diogel - Arfon Wyn
  • 3ydd: Y Cwm - Geraint Griffiths yn canu; Chiswell y cyfansoddwr
  • 2il: Gofidiau - Elfed Morgan Morris
  • 1af: Torri'n Rhydd - Steffan Rhys Williams
Thumb
Y grŵp gwerin 'Cilmeri' yn perfformio yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 1975. Daethant yn ail i'r grwp Brân a gannodd 'Caledfwlch'. Yn y llun: Elwyn Rowlands, Robin Owain a Huw Roberts.

Dychan

Mae'r gystadleuaeth wedi bod yn destun dychan ar hyd y blynyddoedd. Ar gyfer Cân i Gymru 2019 cafwyd sgetch ddychan gan DJ Bry ar sianel ar-lein Hansh S4C, "Tips Bry ar Shwt i Ennill Cân i Gymru".[19]

Twitter

Mae sylwadau o gefnogaeth, anghytuno a dychan ar y sioe ar Twitter yn boblogaidd iawn adeg darllediad y rhaglen yn fyw ar S4C. Mae'r hashnod #CiG2019 (neu'r flwyddyn gyfredol) yn 'trendio' ar Twitter ar draws Brydain adeg cyfnod y darllediad byw.[20]

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.