Magwyd Myrddin yn Llanrwst. Addysgwyd ef yn Ysgol Dyffryn Conwy a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae'n fab i'r awdur llyfrau plant Dafydd Parri ac i'r werthwraig llyfrau Arianwen Parri.
Sefydlodd Gwasg Carreg Gwalch yn 1980. Cyhoeddodd nifer o ddramâu, cyfres o lyfrau ar lên gwerin, llyfrau i blant yn Gymraeg a Saesneg, a'r cylchgrawn Llafar Gwlad. Cyfansoddodd eiriau ar gyfer caneuon, ac enillodd gadeiriau yn Eisteddfodau Cenedlaethol Cwm Rhymni 1990, a Thyddewi 2002.[1] Mae'n bellach wedi ymgartrefu yn Llwyndyrys ger Pwllheli, Pen llyn Gwynedd.[2] Ef oedd y Bardd Plant cyntaf yn 2000.
Cyhoeddwyd ar 7 Gorffennaf 2018 mai ef fydd Archdderwydd Cymru rhwng 2019 a 2022 gan ddilyn Geraint Lloyd Owen.[3] Yn 2020 bu'n rhaid gohirio'r Eisteddfod oherwydd pandemig COVID-19 a cytunodd yr Orsedd i ymestyn ei gyfnod am flwyddyn ychwanegol.[4]
Mae Myrddin yn briod i Llio Meirion, ac yn dad i Carwyn ap Myrddin, Llywarch ap Myrddin, Lleucu Myrddin, Owain ap Myrddin ac i Cynwal ap Myrddin. Mae hefyd yn daid ers i'w fab Carwyn a'i briod Mari gael mab, Deio ap Carwyn yn haf 2018.
Cerddi a Barddoniaeth
Llyfr Caneuon Tecwyn y Tractor (Rhys Parry, Myrddin ap Dafydd, Trefn. Guto Pryderi Puw) (Gwasg Carreg Gwalch, 1998)
Pen Draw'r Tir (Gwasg Carreg Gwalch, 1998)
Denu Plant at Farddoniaeth: Pedwar Pŵdl Pinc a'r Tei yn yr Inc (Gwasg Carreg Gwalch, 1999)
Denu Plant at Farddoniaeth: Cerddi ac Ymarferion: Cyfrol 1 - Armadilo ar ... (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)
Jam Coch Mewn Pwdin Reis (Hughes a'i Fab, 2000)
Syched am Sycharth: Cerddi a Chwedlau Taith Glyndŵr (Gwasg Carreg Gwalch, 2001)
Llyfrau Lloerig: Y Llew Go Lew (Gwasg Carreg Gwalch, 2002)