actores From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyflwynwraig teledu yw Sarra Elgan (ganed 1979) yn ferch i gyn-chwaraewr rygbi Castell Nedd, Cymru, a'r Llewod, Elgan Rees. Cafodd Sarra ei henwebu, ar ôl pleidlias gan y darllenwyr, yn ferch prydfertha'r Western Mail yn 2006.
Cafodd ei geni yng Nghastell-nedd ond bellach mae'n byw ym Mro Morgannwg gyda'i gŵr, cyn chwaraewr rygbi tîm cenedlaethol Iwerddon, Y Llewod a chyn-gapten Scarlets Llanelli, a hyfforddwr presennol blaenwyr Tim Rygbi Cenedlaethol Iwerddon sef Simon Easterby. Ganed eu merch, Soffia yn 2007 a'u mab Ffredi yn 2009.
Cafodd Sara radd dosbarth cyntaf mewn Theatr, Cerddoriaeth a'r Cyfryngau yn 1999.
Dechreuodd gyrfa teledu Sarra ar strydoedd Cwm Deri yn y raglen sebon Pobol y Cwm, cyn iddi droi ei sylw at gyflwyno.
Mae Sarra'n gyflwynydd profiadol ac wedi troi ei llaw at amrywiaeth o genre, o gerddoriaeth i adloniant i chwaraeon.
Cyflwynydd ar BT Sport yw rôl diweddaraf Sarra, ond mae modd hefyd ei gweld ar Scrum V a Jonathan ar S4C.
Dros y blynyddoedd mae Sarra wedi cyflwyno llu o gyfresi o Aviva Premiership i EPSN, LV Cup a'r The British and Irish Cup, y Celtic League Rugby, Cwpan y Byd 2007, Speedway i Sky, Wakestock, Top Of The Pops Saturday (BBC1), Pop Factory (ITV1 Wales), Pop Factory Music Awards, The Saturday Show (BBC1), The Saturday Show Extra (CBBC), Xchange (CBBC), Play the Game (CITV), Bump and Grind (Trouble), Dial-a-Date (ITV) a A Song for Wales, The Wrap i BBC Wales, Passion for Fashion i HTV, Planed Plant, Bandit, Paparazzi, Rygbi 100%, Ffitrwydd 100%, cer i greu, Cân i Gymru, Y Briodas Fawr, 04 Wal a Popty i S4C.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.