Cynhaliwyd Cân i Gymru 2010 ar 28 Chwefror 2010 o Venue Cymru, Llandudno.[1] Darlledwyd y sioe ar S4C gyda sylwebaeth radio yn fyw. Yn Mai 2009 cyhoeddodd y BBC y bydd y Deyrnas Unedig yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2010 ac felly ni all Cymru gael ei chynrychioli yn Oslo. Gwahoddir enillydd y gystadleuaeth i gynrychioli Cymru yn Pan Celtic Festival.

Ffeithiau sydyn Rownd derfynol, Lleoliad ...
Cân i Gymru 2010
Thumb
Rownd derfynol 28 Cwefror 2010
Lleoliad Venue Cymru, Llandudno
Cân i Gymru
◄ 20092011 ►
Cau

Fformat

Gwahoddodd S4C ac Avanti ysgrifenwyr a chyfansoddwyr caneuon i anfon eu caneuon rhwng y 15 Hydref 2009 i 11 Rhagfyr 2009. Roedd yn rhaid i'r caneuon gael eu cyflwyno ar CD neu gasét neu ffeil MP3 gyda ffurflen gystadlu. Roedd y rheolau eraill yn cynnwys:

  • bod yn rhaid i'r gân fod yn Gymraeg
  • bod yn rhaid i'r cystadleuwyr fod yn 16 oed o leiaf ar 11 Rhagfyr 2009
  • bod yn rhaid i'r gân â'i thelynegion fod yn wreiddiol
  • na all y gân fod ar gael cyn 11 Rhagfyr 2009

Bydd y rheithgor yn gwerthuso pob cân ac yn creu rhestr fer o wyth cân i'w perfformio ar y sioe'n fyw. Bydd yr ysgrifenwyr/cyfansoddwyr buddogol yn ennill £10,000 a gwahoddiad i'r Pan Celtic Festival yn Iwerddon. Ennilla'r gân yn yr ail safle £2,000.[2]

Cystadleuwyr

Rhagor o wybodaeth Trefn, Artist ...
Y Rownd Derfynol
TrefnArtistCânCyfansoddwyr Safle Gwobr
1Beth WilliamsGwên ar fy WynebMegan Rhys Williams
2Tomos WynBws i'r LleuadAlun Tan Lan 1af £10,000
3EstynedigDeffraGai Toms 3ydd £1,500
4Matthew Wall a Deio JonesTi a ddaeth o Dramor
5Yr OdsAros yn yr Un LleOsian Howells
6Lowri EvansPob SiawnsLowri Evans a Lee Mason
7Jaci Williams ac Aron Elias JonesGorwelJaci Williams a Aron Elias Jones 2il £2,000
8Martin BeattieGlyn DŵrSimon Gardner, Andrew Moore, a Tudur Morgan
Cau

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.