tref yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Y Fflint (hefyd Saesneg: Flint). Saif ar lannau Dyfrdwy. Mae gorsaf drenau'r dref ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Rhed yr A548 a'r A5119 drwy'r dref. Y Fflint yw canolfan weinyddol y sir.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 12,953, 13,736 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,891.78 ha |
Yn ffinio gyda | Ellesmere Port |
Cyfesurynnau | 53.244°N 3.132°W |
Cod SYG | W04000186 |
Cod OS | SJ245725 |
Cod post | CH6 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au y DU | Rob Roberts (Ceidwadwyr) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Tref ddiwydiannol yw'r Fflint. Ar ymyl y dref ceir castell y Fflint, a godwyd rhwng 1277 a 1280 gan Edward I o Loegr. Nid oes llawer i'w weld yno heddiw o'r dref garsiwn ar gyfer ymsefydlwyr o Loegr a godwyd wrth ymyl y castell.
Heddiw mae'r Fflint yn ganolfan siopa eithaf prysur yn yr ardal.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[1][2]
Nid yw tarddiad enw'r Fflint yn sicr ond mae'n debyg y daw o'r Lladin castellum super fluentum, sef "castell ar afon", er bod rhai yn meddwl ei fod yn dod o siâp y sir, sy'n debyg i gyllell fflint hynafol.[3] Mae gan y Fflint y siartr dref hynaf yng Nghymru, sy'n dyddio'n ôl i 1284.
Cychwynnodd Edward I waith ar Gastell y Fflint ym 1277 yn ystod ei ymgyrch i oresgyn Cymru. Roedd lluoedd Madog ap Llywelyn wedi ymosod ar y castell a'r dref yn ystod gwrthryfel 1294-95 ac felly fe'i llosgodd amddiffynwyr y dref er mwyn ei warafun i'r Cymry.
Rhoddwyd Rhisiart II i'w elyn Henry Bolingbroke yn y castell ym 1399. O ganlyniad i hyn, Castell y Fflint yw lleoliad drama Shakespeare, Richard II. Y cyntaf o "gylch haearn" o gestyll brenhinol Edward I yng Nghymru oedd y castell hefyd a defnyddiwyd ei gynllun fel sail i gestyll mwy fel Harlech a Rhuddlan. Methodd Owain Glyn Dŵr yn ei ymosodiad arno ar ddechrau ei wrthryfel ym 1400.
Yn hytrach na mur o gwmpas y dref, roedd ffos balis amddiffynnol o bridd a phren. Gellid gweld hon yn nhrefn y strydoedd nes ganol y 1960au, a gellir gweld y ffin ganoloesol hyd heddiw. Mae hyn i'w weld hefyd ar y map o Sir y Fflint gan John Speed.
Mae tai bric coch o'r 19g, yn aml mewn rhesi, yn nodweddiadol o bensaernïaeth y Fflint. Codwyd eglwys y dref, Eglwys Fair, yn y 19g. Mae'n ganolfan siopio eithaf prysur.
Ym 1969, daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i'r Fflint, felly mae ganddi gylch o feini'r Orsedd yn y cae gyferbyn ag Ysgol Gwynedd. Ym mis Gorffennaf 2006, meini'r Fflint oedd canolbwynt seremoni datgan Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a'r Cyffiniau y flwyddyn wedyn.[4]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Y Fflint (pob oed) (12,953) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Fflint) (1,509) | 12.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Fflint) (8597) | 66.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Fflint) (1,828) | 34.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.