pentref yn Sir y Fflint From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Nannerch ( ynganiad ). Saif fymryn oddi ar y briffordd A541, tua hanner y ffordd rhwng Yr Wyddgrug a Dinbych. Y boblogaeth yn 2001 oedd 531. Nid oes siop yma, ond ceir tafarn sydd yn dyddio yn ôl i'r 18ed ganrif, sef The Cross Foxes. mae yma ysgol gyda thua 60 o blant.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 449 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.216°N 3.25°W |
Cod SYG | W04000200 |
Cod OS | SJ166695 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au y DU | Rob Roberts (Ceidwadwyr) |
Yn y bryniau gerllaw mae olion bryngeiri Pen-y-Cloddiau a Moel Arthur. Ceir nifer o ffynhonau gan gynnwys Ffynnon Sara, sef tarddiad yr afon Chwiler, yn ôl traddodiad.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[1][2]
Mae cofnodion yn dangos y defnyddiwyd yr enw ar y lle mor bell yn ôl â 1254, sef yn wreiddiol yr enw ar yr afon. Mae'n gyfuniad o ddau enw: 'nant' ac 'erch' (Saesneg: dappled) fel a geir yn yr enw Abererch, ger Pwllheli.
Mae'r eglwys (sef St. Michael and All Angels) yn gymharol newydd ac yn dyddio o 1853 ac wedi ei godi o galchfaen lleol. Y pensaer oedd Thomas W Wyatt o Lundain. Saif Neuadd Penbedw gerllaw, neuadd braf a godwyd yn 1775 gyda cylch cerrig Celtaidd o'i flaen.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Nannerch (pob oed) (496) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Nannerch) (73) | 15% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Nannerch) (222) | 44.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Nannerch) (61) | 30.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.