Penarlâg

pentref yn Sir y Fflint From Wikipedia, the free encyclopedia

Penarlâg

Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Penarlâg (Saesneg: Hawarden). Saif yn nwyrain y sir, ar gyffordd yr A55 a'r A550 tua 6 milltir i'r gorllewin o ddinas Caer dros y ffin. Mae Llyfrgell Deiniol Sant, a sefydlwyd gan William Ewart Gladstone yno. Bu'r Rhyddfrydwr enwog fyw yn y pentref am dros 60 mlynedd. Deiniol yw nawddsant y plwyf. Ceir maes awyr bychan ger y pentref.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Penarlâg
Thumb
Mathpentref, cymuned 
Poblogaeth13,884 
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint 
Gwlad Cymru
Yn ffinio gydaEwlo 
Cyfesurynnau53.182°N 3.02°W 
Cod SYGW04000190 
Cod OSSJ315655 
Cod postCH5 
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJack Sargeant (Llafur)
AS/au y DUMark Tami (Llafur)
Thumb
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru 
Manylion
Cau
Erthygl am y pentref yw hon. Am y cwmwd canoloesol gweler Penarlâg (cwmwd).

Eglwys Ddeiniol Sant

Mae'r eglwys yn dyddio o'r 13g os nad yn gynt ac yn gysegredig i Sant Deiniol, esgob cyntaf Bangor. Ail-godiad yw'r eglwys bresennol, yn sgil tân a losgodd ran o'r eglwys wreiddiol yn ulw ym 1857. Codwyd eglwys newydd gan y pensaer Scott ac mae ganddi nifer o ffenestri lliw godidog gan yr arlunydd Cyn-Raffaëlaidd Edward Burne-Jones.

Castell Penarlâg

Cafodd Castell Penarlâg ei godi gan arglwyddi Normanaidd Caer. Fe'i cipiwyd a'i ddinistrio gan Dafydd ap Gruffudd, gweithred a fu'n un o symbylau Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru. Ni ddylid ei gymysgu â'r ffug-gastell o'r 18g a elwir hefyd yn Gastell Penarlâg, cartref Gladstone.

Enwogion

Oriel

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.