pentref a chymuned yn Sir y Fflint From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Sealand ( ynganiad ). Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo; daw'r enw oherwydd ei fod ar dir a enillwyd oddi wrth y môr. Saif ger glan ogleddol Afon Dyfrdwy, ar y briffordd A548 i'r dwyrain o Queensferry ac i'r gogledd-orllewin o ddinas Caer.
Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Poblogaeth | 3,345 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.212°N 2.97°W |
Cod SYG | W04000207 |
Cod OS | SJ352688 |
Cod post | CH5 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jack Sargeant (Llafur) |
AS/au y DU | Mark Tami (Llafur) |
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys Sealand Garden City, a sefydlwyd yn 1910 ar gyfer gweithwyr yng Ngwaith Dur John Summers. Wedi i'r gwaith dur gau yn 1979, sefydlwyd Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Yn y gymuned yma hefyd mae Maes Awyr Sealand, sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gleiderau. Roedd poblogaeth y gynuned yn 2001 yn 2,746.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Sealand, Sir y Fflint (pob oed) (2,996) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Sealand, Sir y Fflint) (212) | 7.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Sealand, Sir y Fflint) (1011) | 33.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Sealand, Sir y Fflint) (427) | 33.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.