Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Rhiwabon (Saesneg: Ruabon, a chyn hynny: Rhuabon).
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Cau
Mae enw'r pentref yn dod o Rhiw a Mabon (enw sant lleol). Roedd eglwys y plwyf yn gysegredig i Sant Collen cyn cyfnod y Normaniaid a'r goresgyniad Seisnig, cyn ei newid i St Mabon.
Ceir gorsaf reilffordd yno ar y llinell o Amwythig i Gaer ac ysgol uwchradd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Andrew Ranger (Llafur).[1][2]
Yn yr hen blwyf Rhiwabon roedd:
- Rhiwabon - yn cynnwys Rhiwabon a'r cymunedau Belan, Bodylltyn, Hafod, a Rhuddallt
- Cristionydd Cynrig (Saesneg: Christionydd Kenrick) - yn cynnwys Cefn Mawr, Rhosymedre, Acrefair, Penbedw, Penybryn
- Coed Cristionydd - yn cynnwys Newbridge, Cefn Bychan
- Dinhinlle Uchaf (a alwyd gynt yn Cristionydd Fechan neu Y Dref Fechan) - yn cynnwys Penycae, Coperas, Trefechan, Tainant, Stryt Isa
- Dinhinlle Isaf - yn cynnwys Rhosymadog, Penylan
- Morton is y Clawdd (Saesneg: Morton Below), a alwyd gynt yn Morton Anglicorum - yn cynnwys Johnstown, Clwt, Gyfelia
- Morton uwch y Clawdd (Saesneg: Morton Above), a alwyd gynt yn Morton Wallichorum - yn cynnwys Rhosllannerchrugog, Ponciau, Pant
- Yn 1844 symudwyd Coed Cristionydd & Cristionydd Cynrig i'r plwyf newydd Rhosymedre
- Yn 1844 symudwyd rhanau o Dinhinlle Uchaf & Morton uwch y Clawdd i'r plwyf newydd Rhosllannerchrugog
- Yn 1879 symudwyd rhanau o Dinhinlle Uchaf & Cristionydd Cynrig i'r plwyf newydd Penycae
Roedd Rhiwabon yn yr hen Sir Ddinbych tan 1974 ac yn Sir Clwyd rhwng 1974 a 1996, ond mae wedi bod ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ers 1996.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Rhiwabon (pob oed) (4,274) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Rhiwabon) (541) |
|
13.2% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Rhiwabon) (3006) |
|
70.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Rhiwabon) (586) |
|
31.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cau
Tŵr Eglwys Santes Fair
Gwesty'r Arfau Wynnstay
- William Ellis Bailiff (1882-1972), peldroedwr (Cymru)
- Edward Bowen, peldroediwr (Cymru)
- Bryan Martin Davies, bardd
- Henry Dennis (1825-1906), diwydiannwr
- John Downman (1750-1824), arlunydd o Sais, ganed yn Rhiwabon
- Henry Dyke Dennis (1863-19??), diwydiannwr
- Emrys Ellis, peldroedwr Cymru o Blas Bennion
- Reuben Haigh (1879-1951), diwydiannwr
- Edward Hughes, peldroedwr Cymru
- Mark Hughes, peldroedwr Cymru
- David Ian Jones, Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd (Ceidwadwyr); Ysgrifennydd Gwladol Cymru
- Robert Albert Jones, peldroedwr Cymru
- Llewelyn Kenrick (1847-1933), 'Tad' pêl-droed yng Nghmru, o Wynn Hall
- Robert William Matthews, peldroedwr Cymru o Blas Bennion
- John Parry Ddall (1710?-1782), telynor Wynnstay
- Will Roberts (1907-2000), arlunydd
- Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig, o Wynnstay
"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.