pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yng nghymuned Cefn, bwrdeisdref sirol Wrecsam, Cymru, yw Cefn Mawr neu Cefn-mawr.[1] Saif y pentref ychydig i'r de o Riwabon, gerllaw glan ogleddol Afon Dyfrdwy, ac ychydig i'r de o'r briffordd A539 ac i'r gogledd o'r A5.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cefn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.973°N 3.076°W |
Cod OS | SJ277423 |
Cod post | LL14 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Ken Skates (Llafur) |
AS/au y DU | Andrew Ranger (Llafur) |
Ar un adeg roedd Cefn Mawr yn bentref diwydiannol pwysig, gyda nifer o weithfeydd haearn a phyllau glo. Yn 1867, sefydlodd Robert Ferdinand Graesser, cemegydd diwydiannol o'r Almaen, waith cemegol ar safle Plas Kynaston, a ddaeth cyn hir yn brif gynhyrchydd phenol y byd. Mae'r gwaith yn awr yn eiddo i gwmni Flexsys.
Gerllaw mae Traphont Pontcysyllte, lle mae'r Camlas Llangollen yn croesi'r dyffryn Afon Dyfrdwy. Cefn Mawr yw'r cartref clwb pêl-droed C.P.D. Derwyddon Cefn NEWI.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Andrew Ranger (Llafur).[2][3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.