pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Brymbo[1][2] ( ynganiad ). Saif ar gyrion Wrecsam a ward o'r dref honno.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 4,836, 5,143 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,026.65 ha |
Cyfesurynnau | 53.0761°N 3.0506°W |
Cod SYG | W04000892 |
Cod OS | SJ297537 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Ken Skates (Llafur) |
AS/au y DU | Andrew Ranger (Llafur) |
Mae'r gymuned yn cynnwys y ddau bentref Tanyfron a Bwlchgwyn a sawl pentrefan eraill.
Bu Melin Dur Brymbo yn gyflogwr pwysig yn yr ardal tan iddo gau yn ddiweddar a chafwyd gweithfeydd haearn a glo yno hefyd.
Ceir eglwys yn y pentref, sef Eglwys Fair (1872), a chapel Y Tabernacl Tun (Methodistiaid Saesneg). Trowyd capel gwreiddiol Y Tabernacl yn floc o fflatiau.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Andrew Ranger (Llafur).[3][4]
Yn ei lyfr Yn Ei Elfen, mae'r diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones yn dangos mai llygriad o'r enw Bryn-baw ydyw Brymbo.[5] Does neb yn gwybod pam y cafodd yr enw.
Cofnodir yr enghraifft gynharaf o'r enw "Brynbaw" mewn dogfen a ysgrifennwyd yn 1391 (cofnodir y Seisnigiad Brynbawe), ac mae'r cofnod cynharaf o'r sillafiad cyfoes yn dyddio o 1416. Mae'n bosib mai cyfeirio mae'r enw at domen o wastraff o'r gweithfeydd mwyngloddio gerllaw.[6] Ar y llaw arall, ceir yr enw Brymbo mewn rhannau eraill o Gymru lle nad oes gweithfeydd a mwyngloddio e.e. Brymbo ar gwr Eglwysbach, Sir Conwy. Newidiwyd yr 'n' i 'm' fel a wnaed yn yr enw 'y Bermo'.
Yn 1958 gwnaed darganfyddiad archaeolegol pwysig gan weithwyr yn tyllu clawdd, sef gweddillion dyn o Oes yr Efydd a gafodd ei lysenwi yn "Ddyn Brymbo". Tybir iddo farw tua 1600 C.C..[7]
Tom Price (1852-1909), Prif Weinidog De Awstralia
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10][11]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Brymbo (pob oed) (4,836) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Brymbo) (639) | 14% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Brymbo) (3424) | 70.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Brymbo) (514) | 25.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.