From Wikipedia, the free encyclopedia
Pennaeth staff Comisiwn Senedd Cymru yw Prif Weithredwr a Chlerc Senedd Cymru (a alwyd cyn 6 Mai 2020 yn Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cymru). Crëwyd y swydd i adlewyrchu pwerau ehangach y Cynulliad yn sgîl Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Cyn hynny roedd yn uwch-swyddog yn y gwasanaeth sifil ac yn bennaeth ar Wasanaeth Seneddol y Cynulliad.[1] Mae'r swydd yn cynnwys tair elfen: Prif Weithredwr Comisiwn y Senedd, Swyddog Cyfrifyddu, a Chlerc Senedd Cymru.[2]
Yn ôl y Senedd, swyddogaethau'r Prif Weithredwr a Chlerc yw:
“ | sicrhau bod gan y Cynulliad yr eiddo, y staff a'r gwasanaethau y mae arno eu hangen, a helpu i ddatblygu Cynulliad sy'n ennyn hyder ac sydd ag enw da yng Nghymru a thu hwnt am ddemocratiaeth gyraeddadwy ac effeithlon.[1] | ” |
O fis Mai 2007, roedd y Prif Weithredwr a'r Clerc yn arwain sefydliad a oedd yn annibynnol o Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn gyfrifol am sicrhau bod y Cynulliad yn cael ei ddarparu gyda'r adeiladau, y staff a'r gwasanaethau sydd eu hangen arno.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.