pentref a maestref 5 milltir i'r gogledd-orllewin o Gaerdydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Pentre-poeth (Saesneg: Morganstown) yn faestref tua 5 milltir i'r gogledd-orllewin o ganol Caerdydd. Mae'n rhan o gymuned Radur a Phentre-poeth. Dros yr M4 yn ne'r faestref mae Radur.[1]
Math | pentref, maestref |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Radur a Threforgan |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.528°N 3.264°W |
Cod OS | ST1281 |
Gwleidyddiaeth | |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mark Drakeford (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alex Barros-Curtis (Llafur).[2][3]
Defnyddir yr enw 'Treforgan' gan rai sefydliadau, ond ceir tystiolaeth sy'n awgrymu mai "Pentre-poeth" oedd y ffurf lafar gan siaradwyr Cymraeg brodorol yr ardal, ac mae'r cofnod cynharaf hefyd ychydig yn gynharach na'r cofnod cynharaf o 'Dreforgan'.[4] Nodir 'Pentre' yn 1845 a 'Phentre-poeth] yn 1850 ar gofnodion y Capel methodistaidd (gweler isod). Ni ddefnyddiwyd yr enw Treforgan (Morgan’s Town) tan 1855 neu efallai 1859.[5] Pentre-poeth sy'n cael ei ddefnyddio gan Gyngor Caerdydd.[6]
Mae hanes modern yr ardal yn cychwyn tua diwedd y 18g pan adeiladwyd dyrnaid o fythynod ar dir Morgan William (c.1765–1852) o "Fferm Tynyberllan", a chofnodir hynny yng Nghyfrifiad 1801. Ar fap y Degwm a ddyluniwyd yn y 1840au, gwelir rhagor o fythynod ar ochr orllewinol y ffordd a elwir heddiw yn "Ffordd Tŷ Nant", ynghyd â'r enw Tynyberllan. Mae' fwy na thebyg mai gwaith y tyddynwyr hyn oedd y diwydiannau glo a haearn. Gwelir yr un enwau a'r un teuluoedd ar gofrestr eglwys y plwyf rhwng 1840 a a'r 1870au, ond ni ddefnyddir yr enw "Tynyberllan", ond gyda'r enw Pentre yn 1845 a Phentre-poeth erbyn 1850.
Ceir hefyd gofnodion Capel y Methodiastiaid, sy'n dyddio i 1817.[7] Caewyd yr adeilad presennol. Fe'i codwyd yn wreiddiol yn 1842 (gweler y plac ar y wal), a hynny ar dir Morgan William(s); mae bedd Morgan ym mynwent y capel (m. 1852). Ceir dwy garreg fedd arall yno, hefyd, i gofio dau lowr a fu farw yng Nglofa'r Lan (Gwaelod-y-garth) yn 1875; Moses Llewelyn oedd un o'r rhain, bachgen 13 oed a weithiai yn y lofa fel ceidwad y drysau.[8]
Cymraeg oedd iaith y capel a'r ardal gyfan, ond erbyn 1928, gyda thwf yn nifer y tai, newidiwyd hynny a daeth y gwasanaethau Cymraeg i ben yn 1928.[9]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.