pentref yn Rhondda Cynon Taf From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Penrhys. Fe'i lleolir 1,100 troedfedd i fyny ar fryn, rhwng cymoedd Rhondda Fawr a Rhondda Fach. Mae'n rhan o gymuned Pendyrus. Hyd at y Diwygiad Protestannaidd ar ddiwedd yr 16g, roedd Penrhys yn ganolfan pererindod amlwg, fel mae John Leland yn ei nodi.[1]
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.646°N 3.441°W |
Cod OS | ST004951 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Elizabeth (Buffy) Williams (Llafur) |
AS/au | Chris Bryant (Llafur) |
Ychydig iawn o olion o'r Oesoedd Canol a geir yno heddiw fodd bynnag. Ond mae'r ffynnon wedi goroesi. Yn ystod y Diwygiad Protestannaidd symudodd llawer o'r ardal a dinistriwyd hen abaty ac allor lleol.
Gyda dyfodiad y Chwyldro Diwydiannol, cynyddodd y diddordeb yn y ffynnon a'r nodweddion crefyddol eraill yn yr ardal' cafwyd cloddfa archaeolegol yn 1912 a chodwyd ffynnon newydd yma yn 1953.
Ychydig islaw copa Mynydd Penrhys ceir cwt syml a adnabyddir fel Ffynnon Fair lle ceir dŵr a ystyriwyd ers talwm yn llawn rhinweddau ac yn iachau cleifion. Roedd yma gapel i weddio hefyd a chofnodir llawer o 'wyrthiau' ar y safle. Mae tarddiad y ffynnon yn un Celtaidd ac felly credai'r hen bobl bod bodau arallfydol yn trigo yno a bod gnddyn nhw bwerau cyfrin. Dros y blynyddoedd Cristnogeiddiwyd hyn, a newidiwyd enw'r ffynnon. Ymhlith yr afiechydon a wellwyd roedd: cryd y cymalau a phroblemau gyda'r llygaid a'r golwg.
Fel llawer o ffynhonau eraill drwy Gymru, roedd yr arferiad o ddefnyddio pinnau'n un cryf. Byddai'r claf, wedi iddo ymdrochi yn y dŵr, yn taflu pin i'r ffynnon. Os newidiai lliw'r pin, yna byddai'r claf yn gwella. Hyd yn oed yn yr 20g roedd llawer o binau i'w gweld yn y ffynnon.
Defnyddiwyd y dŵr 'bendithiol' hwn ar gyfer bedyddio yn yr eglwys leol.
Erbyn 1904 roedd poblogaeth y Rhondda yn 110,000, ac yn cynyddu'n sydyn. Yn 1906 codwyd ysbyty yma ar dair erw o dir a brynnwyd gan y Gymdeithas Iechyd. Dewisiwyd Penrhys gan ei fod yn y canol rhwng dau o gymoedd y Rhondda. Ymdriniai gan mwyaf gyda'r frech wen ac agorwyd yr ysbyty yn 1907. Yn 1971 llosgwyd yr adeilad gan y Frigad Dân, gan nad oedd yn cael ei ddefnyddio.
Yn 1927 dewisiwyd Penrhys fel man cychwyn 'Gorymdaith Newyd Dydd Sul Coch y Rhondda'. Trefnwyd yr orymdaith gan Ffederasiwn Chwarelwyr De Cymru, ond trodd y TUC yn ei herbyn a chollodd ei nerth; roedd y Comiwnyddion, fodd bynnag, o blaid gorymdeithio a cherddodd 270 o orymdeithwyr.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.