pentref yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref mawr yng nghymuned Ynysybŵl a Choed-y-cwm ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Ynys-y-bwl,[1] weithiau Ynysybŵl.[2] Saif tua 20 milltir i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Caerdydd, bedair milltir i'r gogledd o Bontypridd a 10 milltir i'r de o Ferthyr Tudful. Mae Nant Clydach yn llifo heibio iddo.
Math | pentref |
---|---|
Poblogaeth | 4,581 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynysybŵl a Choed-y-cwm |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.64°N 3.37°W |
Cod OS | ST054949 |
Cod post | CF37 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Vikki Howells (Llafur) |
AS/au y DU | Beth Winter (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Beth Winter (Llafur).[4]
Cofnodir yr enw yn y ffurf Seisnigaidd "Ynys y Bool" mewn dogfen Saesneg yn 1738. Gair Cymraeg ydy "bŵl" sy'n golygu "powlen" - sydd mae'n bosib yn cyfeirio at siâp crwn y dyffryn.
Hyd y 1880au, roedd Ynys-y-bŵl yn ardal amaethyddol. Agorwyd Glofa Lady Winsor yn 1886, a dechreuodd y pentref dyfu o'i hamgylch. Caewyd y lofa yma yn 1988.
Ceir côr a chlwb rygbi yma.
Cynhelir Ras Nos Galan yma bob blwyddyn, i goffáu Guto Nyth Brân.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.