pentref yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref mawr ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw'r Beddau. Mae'n gorwedd 1.5 milltir tu allan i Lantrisant, tua pedwar milltir i’r de-orllewin o Bontypridd a saith milltir i'r gogledd-orllewin o Gaerdydd, ar y briffordd A473.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.556°N 3.358°W |
Cod post | CF38 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mick Antoniw (Llafur) |
AS/au | Alex Davies-Jones (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mick Antoniw (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alex Davies-Jones (Llafur).[1][2]
Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau ydy’r ysgol gynradd Gymraeg. Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn a Ysgol Gynradd Llwycrwn ydy’r ysgolion cyfrwng Saesneg y pentref. Mae’r ddau ohonynt yn porthi i mewn i’r Ysgol Gyfun y pentref, Ysgol Gyfun Bryn Celynnog.
Mae’r Beddau yn nodedig am ei thalent rygbi'r undeb, yn cynnwys Neil Jenkins, Michael Owen a Gethin Jenkins a fynychai Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yn y pentref. Mae gan y pentref dîm rygbi lleol, Beddau RFC, yn ogystal â thîm pêl-droed, Cwm Welfare AFC.
Mae’r pentref yn cael ei wasanaethu gan wasanaethau bws i Lantrisant, Caerdydd a Phontypridd. Bodolai gorsaf, Gorsaf Rheilffyrdd Arhosfan Y Beddau ar y Gyffordd Rheilffordd Llantristant a Dyffryn Taf, tan 1964 i'r de o'r pentref. Ymestynodd cilffordd rheilffordd breifat o'r gangen Treferig y Cyffordd Rheilffordd Llantrisant a Dyffryn Taf i gweithfeydd glo i'r pentref yn bodoli ers amser. Cilffyrdd helaeth a thraffig rheilffyrdd a wasanaethir Glofa Cwm a gwaith golosg tan 1984 pan cafodd y llinell i Pontyclun ei chau. Mae ymdrechion yn cael eu gwneud i ailagor y llinell hon i draffig teithwyr.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.