pentref yn Ynys Môn, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan gwledig a phlwyf eglwysig yng nghymuned Llanddyfnan, Ynys Môn, yw Llangwyllog[1][2] ( ynganiad ). Saif yng nghanol yr ynys 3 milltir i'r gogledd o dref Llangefni a 2 filltir o Lyn Cefni. Cofnodir poblogaeth o 277 yn 1821, ond erbyn 1971 dim ond 75 o bobl oedd yn byw yno.
Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2824°N 4.3453°W |
Cod OS | SH437788 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Mae'r eglwys yn weddol hen gyda rhannau yn dyddio o'r 15g efallai. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu gan y Santes Cwyllog (Cywyllog) yn y 6g ar dir a roddwyd iddi gan y brenin Maelgwn Gwynedd.[3]
Yn yr Oesoedd Canol gorweddai'r plwyf yng nghwmwd Menai. Bu brwydr yn y cyffiniau yn y flwyddyn 1134 rhwng byddin Owain Gwynedd, brenin Teyrnas Gwynedd, a llu o Northmyn a Manawyr a geisiodd oresgyn yr ynys. Enillodd gwŷr Gwynedd y dydd.
Rhoddodd y Tywysog Llywelyn ab Iorwerth Eglwys Gwyllog a'i degwm i Briordy Penmon.[4]
Roedd gan Lein Amlwch (Rheilffordd Canolbarth Môn) orsaf yn Llangwyllog nes i'r lein gau yn 1993. Mae'n dŷ preifat heddiw.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.