Llanfairfechan
Tref fach a chymuned ar arfordir ogleddol Sir Conwy / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref fach a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanfairfechan[1][2] ("Llanfair" ar lafar yn lleol). Saif ar arfordir ogleddol y sir, rhwng Penmaenmawr a Chonwy i'r dwyrain ac Abergwyngregyn a dinas Bangor i'r gorllewin. Mae ffordd ddeuol yr A55 yn rhedeg yn agos i'r dref, rhyngddi a'r traeth, ac mae ganddi orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn ogystal. Mae Caerdydd 204.2 km i ffwrdd o Llanfairfechan ac mae Llundain yn 326.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 11.4 km i ffwrdd.
Math | cymuned, tref |
---|---|
Gefeilldref/i | Pleveleg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.253°N 3.973°W |
Cod SYG | W04000123 |
Cod OS | SH683747 |
Cod post | LL33 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Claire Hughes (Llafur) |
Mae'r traeth yn gymharol eang ac yn ymestyn hyd Glan-môr Elias a gwarchodfa natur Madryn, ar lan Traeth Lafan, i gyfeiriad y dwyrain. Ceir pwll hwylio cychod, caffi, parc sglefrio a chyfleusterau eraill yno, ac mae'n boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Tu ôl i'r dref mae'r tir yn codi i gyfeiriaid Tal-y-Fan, Bwlch-y-Ddeufaen a bryniau cyntaf y Carneddau. Llifa Afon Ddu ("Afon Llanfairfechan") i lawr drwy'r pentref o'i tharddle yn y Carneddau i'w haber.