pentref a chymuned yng Nghonwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a chymuned wledig ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llangwm.[1][2] Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y sir ar lôn fynydd tri-chwarter milltir o'i chyffordd ar yr A5, tair milltir i'r de o Gerrigydrudion. Mae'r pentref tua 250m uwch lefel y môr, ar gyfartaledd.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 470, 483 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 4,112.21 ha |
Gerllaw | Afon Ceirw |
Cyfesurynnau | 52.988°N 3.543°W |
Cod SYG | W04000127 |
Cod OS | SH966446 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Jones (Ceidwadwr) |
Mae Llangwm yn un o gymunedau rhanbarth hanesyddol Uwch Aled. Bu'n rhan o'r hen Sir Ddinbych gynt ac wedyn sir Clwyd. Rhed ffrwd fechan afon Medrad trwy'r pentref i afon Ceirw. I'r gorllewin mae ffordd yn cysylltu Llangwm â phentref bychan Gellioedd. I'r de mae'r tir yn codi i gopa moel Foel Goch (2004 troedfedd). Mae Pigyn Benja (neu Garnedd Benjamin ar fapiau OS) yn 522 metr o uchder ac i'r de-de-ddwyrain o'r pentref.
Ceir hen domen amddiffynnol o'r Oesoedd Canol ger Maesmor, o'r enw Tomen Maesmor, tua milltir i lawr yr A5. Roedd y pentref yn flaenllaw iawn yn Rhyfeloedd y Degwm.
Enw'r ysgol, a leolir ger yr ysgol yng nghanol y pentref, yw St Jerôm, a alwyd ar ôl sant o'r un enw. Sant Jerôm hefyd yw enw'r eglwys yn Llangwm, Sir Benfro. Cysegrwyd hi’n gyntaf i St Gwynog a Noethan, plant Gildas ap Caw.[3]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llangwm, Conwy (pob oed) (470) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangwm, Conwy) (284) | 61.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangwm, Conwy) (307) | 65.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llangwm, Conwy) (58) | 29% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.