From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhyfel y Degwm (Saesneg: Welsh Tithe War) yw'r cyfnod o 1886 hyd 1891 ble'r oedd ymgyrchu a phrotestio yn erbyn talu degwm i'r Eglwys. Yr oedd nifer yn erbyn annhegwch talu degwm i'r eglwys pan yr oeddent yn mynychu capeli. Fe'i lleolir yn ardal Dyffryn Clwyd a Bro Hiraethog - hen Sir Ddinbych, ac yn fwy penodol yn Llanarmon-yn-Iâl, Llangwm, Llanefydd a Dinbych.
Hen arferiad a seiliwyd ar destunau Beiblaidd oedd rhoi un rhan o ddeg o incwm tuag at gynnal yr eglwys - taliad y degwm. Nid oedd llawer o wrthwynebiad i dalu'r degwm tan ar ôl y Diwygiad Protestanaidd. Mewn llawer man, ai cyfartaledd uchel o'r degymau, a delid gynt i'r mynachlogydd, i ddwylo'r boneddigion, neu i goffrau colegau Rhydychen a Chaergrawnt. Yng Nghymru, gwaethygai'r sefyllfa oherwydd tŵf Anghydffurfiaeth, ac yn arbennig oherwydd y Diwygiad Methodistaidd. Fel y deuai mwyafrif y boblogaeth yn Anghydffurfwyr, disgwylid iddynt gyfrannu tuag at gynnal eglwys nas mynychent, yn ychwanegol at gynnal eu capeli eu hunain.
Yn 1836, mewn ymgais i hwyluso'r gwaith o gaslu'r degymau, cyflwynwyd Deddf Cyfnewid Degwm. Hyd yma, rhoi un rhan o ddeg o incwm oedd ei angen, a hyn yn aml cynnwys eiddo amaethyddol megis da byw. Yr oedd y ddeddf yn mynnu trethdal, neu dâl ariannol, yn hytrach na thâl trwy eiddo. Cyfrifid y trethdal ar brisiau cyfartalog o wenith, haidd a cheirch dros y saith mlynedd blaenorol. Pan ddeuai dirwasgiad amaethyddol, byddai ffermwr yn talu trethdal sefydlog, a hwnnw'n llawer uwch nag un rhan o ddeg o werth cyfredol y cnydau.
Cyfuniad o dalu i gynnal eglwys nas mynychid a thalu pris sefydlog, uwch, ar adegau dirwasgaid oedd yn gyfrifol am anfodlonrwydd cynyddol ynghylch y degymau. Cafwyd dirwasgiad amaethyddol cyffredinol yn y 1880au cynnar, a hyn gychwynodd Rhyfel y Degwm 1886-91.
Mewn ymgais i leddfu caledi'r dirwasgiad amaethyddol, cynigiodd ambell i dirfeistr yn Nyffryn Clwyd ostyngiadau yn ardrethi'r ffermwyr. Gofynodd ffermwyr yn Llandyrnog a Llanynys am ostyngiad o 5-10% yn eu hardreth degwm, ac fe'i cawsant. Mewn plwyfi cyfagos, bygythiodd ffermwyr na fyddent yn talu'r ardrethi degwm o gwbl oni bai eu bod yn cael gostyngiadau. Digwyddodd y gwrthdaro cyntaf rhwng amaethwyr a oedd yn ceisio gostyngiad ac offeiriad a wrthodai ei roddi yn Llanarmon yn Iâl.
Os na thelid degwm, hawliai'r gyfriath fod y clerigwr i roddi rhybudd o ddeng niwrnod. Wedi hyn, byddai ganddo hawl i gymryd meddiant o eiddo hyd at werth y degwm dyledus. Anifieliad fyddai'r eiddo arferol, a oedd i'w gosod ar werth i sicrhau ei arian.
Yn y gwrthdaro yn Llanarmon yn Iâl, bu oedi yng ngwerthu eiddo i dalu'r degwm gan nad oedd arwerthwr Cymraeg yn barod i'w gyflawni. Ni ddigwyddodd yr ocsiwn tan gyrhaeddiad arwerthwr o Gaer. Yr oedd yr arwerthwr angen amddiffyniad Prif Gwnstabl Sir Ddinbych, Arolygwr a 60 o'r heddlu. Ail-adroddwyd y patrwm hwn drwy holl Ddyffryn Clwyd ac yng ngogledd-orllewin Sir y Fflint rhwng Awst 1886 a Medi 1887. Mewn un achos yn Chwitffordd ym mis Rhagfyr 1886, yr oedd torf o 1,000 i 1,500 yn bresennol. Daeth Dirprwy Prif Gwnstabl Sir y Fflint yno gyda 80 o'r heddlu i geisio amddiffyn yr arwerthwr a'i swyddogion.
Mis Medi 1887 yn Llangwm, cynhaliodd Diprwywyr Eglwysig ocsiwn i hawlio trethdal degwm, am nad oedd y ffermwyr lleol am ei dalu heb fod ostyngiad yn y swm. Daeth tyrfa fawr gyda choelcyrth i groesawu'r arwerthwr, a oedd gyda Arolygwr a dau ddwsin o'r heddlu. Y bwriad oedd gwerthu dwy fuwch, ond bu twrw a thaflu wyau drwg. Ni chynnigiodd neb ar y ddwy fuwch a gwerthodd yr arwerthwr hwy i gigydd o'r Rhyl a ddaethai gydag ef. Nid oedd yn bosib symud yr anifeiliaid gan fod y dorf yn gosod rhwytrau ar eu ffordd. Bu'n rhaid i barti'r arwerthwr roi'r ffidil yn y to, a gadael yr anifeiliaid.
Ceisiodd yr Arolygwr i symud yr anifeiliaid deuddydd yn ddiweddarach, gan logi gerbyd i'w gludo ef, yr heddlu eraill, y beili a'r arwerthwr yn ôl i Langwm. Cyfarfu tyrfa o ryw 300 a nhwythau eto wedi eu harfogi ag wyau drwg. Yr oedd y twrw mor uchel fel y brawychodd y meirch a mynd o reolaeth. Pan arafwyd hwy o'r diwedd, niweidwyd un mor arw fel y bu'n chaid ei saethu yn y fan a'r lle. Ildiodd yr arwerthwr pan glywodd bod y dorf yn awgrymu ei daflu i'r afon. Cerddwyd ef a'r Arolygwr bob cam i Gorwen a'u gosod ar y trên cyntaf yn ôl.
Yn ôl goglwg yr awdurodau, aeth trigolion Llangwm yn rhy bell. Gwyswyd 31 o ddynion o Langwm - "Merthyron y Degwm" - gydag wyth i sefyll eu prawf yn y Frawdlys yn Rhuthun, Chwefror 1888. Cyhuddwyd yr wyth o ymosod a therfysg. Eglurodd y Barnwr y dylid eu cosbi, ond teimlai y cafodd nhw eu defnyddio gan drefnwyr tu ôl i'r llenni. Oherwydd hynny, rhwymwyd hwy i gadw'r heddwch yn y swm o £20 yr un.
Wedi cyfnod cymharol ddistaw yn ail hanner 1887, aeth yr awdurdodau eglwysig ati o ddifri i hawlio a mynnu eu degwm. Yr oedd llai o helynt y tro hyn, yn bennaf oherwydd i gynghrair gael ei ffurfio i wrthwynebu degymu. Diben y gynghrair oedd ceisio gofalu na cholledid ffermwyr yn ariannol o ganlyniad atafaelu. Pensaer y cynllun newydd hwn oedd Thomas Gee o Ddinbych - newyddiadurwr, gweinidog Calfinaidd a gwleidyddwr. Defnyddiodd yr wythnosolyn Baner ac Amserau Cymru, a olygai ac a gyhoeddai, i rannu ei gredoau Rhyddfrydol ac Anghydffurfiwr.
Anfonodd gynghrair gwrthddegwm Gee swyddog i bob atafaeliad ac ocsiwn i sicrhau fod y gyfraith yn cael ei chadw a'r dyrfa o dan reolaeth. Yr oedd pob amaethwr i wrthod talu yn y lle cyntaf, cyn i'r mwyafrif dalu cyn yr atafaeliad i osgoi costau mawr cyfreithiol. Talodd nifer mewn arian mân, gan orfodi'r casglwr i'w gyfrif ag yntau wedi'i amgylchu gan dorf swnllyd. Penodwyd rhai amaethwyr i wrthod talu'n llwyr, gan arwain i'r casglwyr gynnal ocsiwn. Gorfododd hyn i'r awdurdodau i wario mwy o arian wrth gasglu'r degwm nag a fyddent wedi'i dderbyn pe telid y degwm heb ddadlau.
Er na ddigwyddai trais agored bellach, defnyddiai'r bobl leol amrywiaeth o ystrywiau i rwystro'r casglwyr: selio giatiau, gollwng teirw'n rhydd, a chuddio gwarthefg oedd i'w gwerthu. Mewn un engrhaifft, pan ddaeth Charles Vivian Stevens, y goruchwyliwr Dirprwywyr Eglwysig i gymryd meddiant o ddau berchell ym Mwlch y Calch, cafodd y ddau wedi'u gorchuddio â sebon meddal!
Bu'r heddlu wrthi'n gyson yn amddiffyn casglwyr y degwm, ac ym mhedwar mis cyntaf 1888, bu 706 o'r heddlu ar ymweliad â 615 o ffermydd yn Sir Ddinbych yn unig. Yr oedd hi'n bolisi gan y Prif Gwnstabl, Uwchgapten Leadbetter, i anfon cyn lleied o'r heddlu a phosib i gwtogi'r gost i'r trethdalwyr, ac hefyd i atal cyhuddiadau fod gormod yn cael ei anfon yn fwriadol io droi'r bobl leol yn eluniaethus.
Ar y 10fed o Fai 1888, aeth dau heddwas yn unig gyda Stevens (goruchwyliwr Dirprwywyr Eglwysig) a'i gwmni i Lannefydd, ond oherwydd y dorf bu raid iddynt ddychwelyd i Ddinbych wedi galw mewn pedair fferm yn unig. Wythnos yn ddiweddarach, daeth Arolygwr yr Heddlu ac 11 o'i wŷr i'w ganlyn: eilwaith yr oedd y dorf mor ffyrnig fel y bu rhaid cilio wedi ymweld â deg o'r amaethdai. Drannoeth, aeth y Prif Gwnstabl ei hun, yr Arolygwr a 30 o heddweision i Lannefydd. Yn yr ail fferm, ymosodwyd ar yr heddlu. Anafwyd 20-25 o'r dyrfa a tharawyd llawer o'r heddlu. Oherwydd y straen gynyddol ar adnoddau cyfyngedig yr heddlu, gofynnodd y Prif Gwnstabl Leadbetter i'r ynadon am fintai o wŷr meirch yn atgyfnerthiad. Yn ymatebiad i hyn, anfonwyd mintai o'r 9fed Lanserwyr i Ddinbych. Arhosodd y fintai fis gan gynorthwyo'r heddlu i arolygu casgliadau mewn 223 o ffermydd yn Llanfair Talhaearn, Llansannan, Llannefydd a Mochdre, heb ymyriad pellach ar yr heddwch.
Ym Mochdre, Mehefin 1887, yr oedd un o cyffroadau degwm gwaethaf. Y tro hwnnw, anafwyd 84 o bobl gan gynnwys 14 o'r heddlu a bu'n ofynnol darllen Deddf Reiat. Sefydlwyd archwiliad cyhoeddus i'r digwyddiad, dan lywyddiaeth ynad cyflogedig o Lundain, John Bridge.
Penderfynodd Bridge na ddylai'r naill ochr na'r llall ysgwyddo'r bai. Daeth i gasgliad ei fod yn debygol mae yr lôn serth a fu fwyaf cyfrifol am i'r dyrfa droi'n afreolus, er ei fod yn beirniadu'r bobl oedd yn gyfrifol am gymell torfeydd i gasglu mewn arwerthiant. Ymhlith eith gasgliadau eraill gwnaeth Bridge yr awgrym pwysig na fyddai gan y tenant ffermwr ddim achos i gwyno ac na ddylai terfysgoedd ddigwydd mwyach os elai'r meistr tir yn gyfrifol am dalu'r degwm. Ym Mawrth 1891 cafwyd Deddf Degwm i'r perwyl hwn, a'r gwelliant hwn oedd yn bennaf gyfrifol am brinder cythrwfl wedi 1891. Bellach, petai'r meistr tir yn codi'r ardreth i ddigolledu ei hun o daliad y dwgm, prin y gallai'r tenant wrthod talu'r degwm heb wrthod hefyd talu'r ardreth ac felly golli ei fferm.
Parhaodd atafaeliadau wedi 1891, ond ni cheisid bellach atal yr arwerthwr na'r beiliaid. Ym 1894, adroddodd Y Faner am hanes atafaeliad buwch a oedd yn eiddo i James Davies, Nant y Merddyn, Llansannan. Pan daeth y beili i fynd â'r fuwch i Ddinbych i'w gwerthu, cafodd hi wedi'i hardduno â rubanau coch, a chardiau ar ei chyrn; dyma un nodweddiadol yn y ffurf o gerdyn claddu:
Er serchog goffadwriaeth
am
ANNWYL FUWCH
Mr. James Davies, Nant-y-Merddyn Uchaf, Llansannan
yr hon a aeth yn aberth i raib anniwall y
Dirprwywyr Eglwysig,
Ebrill 25ain, 1894.
Aeth torf swnllyd gyda'r beili i Ddinbych, ac yr oedd 2,000 ohonynt erbyn dechrau'r ocsiwn.
Yr oedd y barnwr yn achos 'merthyron y degwm' Llannefydd, adroddiad John Bridge ar y terfysg yn Mochdre a chlreigwyr oll o'r farn bod llaw arweiniol tu cefn i'r digwyddiadau gwrth-ddegwm lleol; Thomas Gee. Defnyddiodd Gee dudalenau'r Faner i hysbysu'r darllenwyr o gynnydd y frwydr yn erbyn y degymau, ac i'w hybu ymlaen â'r gwrthwynebiad. Bob wythnos ceid hanes manwl yr holl ddigwyddiadau perthynol, a chymhellid y ffermwyr yn barhau i efelychu 'ymladdwyr' Dyffryn Clwyd neu Llangwm a gwrthod talu'r degwm.
Gee oedd yr un a orfododd y Cyd-bwyllgor Sefydlog o Ynadon a Chynghorwyr Sirol i drefnu ymchwiliad i ymddygiad yr heddlu yn ystod y digwyddiadau yn Llannefydd. Yn fwy na dim, Gee oedd yr un a drefnodd i'r gwrthwynebiad lleol i daliad y degwm oherwydd dirwasgiad economaidd droi yn fudiad mwy eang o laeer, un agos iawn at ei galon, sef Datgysylltiad llwyr Eglwys Loegr yng Nghymru. Ef a anerchodd y dyrfa yn Ninbych yn 1894 wedi gwerthiant buwch James Davies, a hwyrach ei fod yn arwyddocaol mai gweddill yr hyn a geid ar y 'cerdyn claddu' oedd:
Ni chaiff offeiriad Eglwys plwy'
Ei bum cant ac fe allai fwy,
Am weini i hen wraig neu ddwy
Pan geir y DATGYSYLLTIAD
Er bod rhyfel y degwm yn gyfyngedig yn ddaearyddol i Ddyffryn Clwyd a Bro Hiraethog, yr oedd iddo oblygiadau pellach. Ehangodd y sylw, a oedd yn wreiddiol at anawsterau economaidd ychydig amaethwyr, i broblemau llawer mwy. Yn fuan gwewyd ynghŷd gwynion economaidd a chrefyddol y ffermwyr, ac amlygwyd mater y tir a datgysylltiad i sylw'r wlad ar y raddfa uchaf. Canlyniadau mwyaf arwyddocaol y rhyfel oedd y Comisiwn Brenhinol 1896 ar Dir yng Nghymru. Comisiwn a ddug lawer o gwynion y ffermwr tenant i'r amlwg, gan arwain i berthynas gwell rhwng tenant a meistr tir, a datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru yn 1920. Yr oedd datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru yn gwireddu un o obeithion a dyheadau oes Thomas Gee, a hynny ugain mlynedd wedi ei farw.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.