Tref fach a chymuned ar arfordir ogleddol Sir Conwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref fach a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanfairfechan[1][2] ("Llanfair" ar lafar yn lleol). Saif ar arfordir ogleddol y sir, rhwng Penmaenmawr a Chonwy i'r dwyrain ac Abergwyngregyn a dinas Bangor i'r gorllewin. Mae ffordd ddeuol yr A55 yn rhedeg yn agos i'r dref, rhyngddi a'r traeth, ac mae ganddi orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn ogystal. Mae Caerdydd 204.2 km i ffwrdd o Llanfairfechan ac mae Llundain yn 326.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 11.4 km i ffwrdd.
Math | cymuned, tref |
---|---|
Poblogaeth | 3,544 |
Gefeilldref/i | Pleveleg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.253°N 3.973°W |
Cod SYG | W04000123 |
Cod OS | SH683747 |
Cod post | LL33 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Claire Hughes (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae'r traeth yn gymharol eang ac yn ymestyn hyd Glan-môr Elias a gwarchodfa natur Madryn, ar lan Traeth Lafan, i gyfeiriad y dwyrain. Ceir pwll hwylio cychod, caffi, parc sglefrio a chyfleusterau eraill yno, ac mae'n boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Tu ôl i'r dref mae'r tir yn codi i gyfeiriaid Tal-y-Fan, Bwlch-y-Ddeufaen a bryniau cyntaf y Carneddau. Llifa Afon Ddu ("Afon Llanfairfechan") i lawr drwy'r pentref o'i tharddle yn y Carneddau i'w haber.
Ceir nifer o safleoedd cynhanesyddol ar y bryniau uwchlaw'r pentref. Y pwysicaf ohonynt heddiw yw hen fryngaer Dinas, ond roedd amddiffynfa fawr Braich-y-Dinas, ar gopa'r Penmaen-mawr, ymhlith y fwyaf yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon tan iddi gael ei dinistrio o'r diwedd trwy'r gwaith chwarel ar ddechrau'r 20g.
Fel yn achos Penmaenmawr, tyfodd y dref bresennol fel tref chwarel ithfaen a thref glan môr o ganol y 19g ymlaen. Ar un adeg bu canoedd o ddynion yn gweithio yn chwarel y Penmaen-mawr, ond erbyn heddiw mae'r gwaith chwarel wedi peidio i bob pwrpas ar yr ochr yma i'r mynydd.
Yn ôl cyfrifiad 2001, mae 50.4% o boblogaeth y dref y medru'r Gymraeg. Mae hyn yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o 20.8% ond yn gymharol isel mewn cymhariaeth â lleoedd fel Bethesda, cwta 8 milltir i'r de-orllewin tra'n uwch o gryn dipyn na'r lefel yng ngweddill trefi arfordirol sir Conwy. Ceir y canran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn yr oedran 10-14, gyda 70% yn rhugl yn yr iaith.
Mae gan Llanfairfechan ddwy ysgol ddwyieithog, sef
Gorwedd Ysgol Pant-y-rhedyn yn nhalgylch Ysgol Aberconwy ac Ysgol Y Creuddyn yn sir Conwy ac Ysgol Friars ym Mangor, Gwynedd.
Herbert Luck North (1871-1941), pensaer arloesol
Cafodd arolwg ei wneud yn Awst 2017 gan y Marine Conservation Society i mewn i lefelau sbwriel ar draeth Llanfairfechan.[3] Casgliwyd 760 eitem o sbwriel, gyda chyfartaledd o 7.60 eitem y metr o draeth.
Mae gan Llanfairfechan boblogaeth uchel iawn o goed, ac felly mae'n gartref hefyd i sawl math wahanol o adar.
Ymddangosodd y pentref yn y cyfresi teledu canlynol:
Ceid cyfeiriadau rheolaidd at y dref gan Wali Tomos yn y gyfres gomedi C'mon Midffild oherwydd y tebygrwydd rhwng rhan olaf yr enw ('-fechan') a'r gair "rhechan".
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanfairfechan (pob oed) (3,637) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfairfechan) (1,646) | 46.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfairfechan) (2275) | 62.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfairfechan) (549) | 36% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.