Am leoedd eraill o'r enw "Llannerch", gweler Llannerch.
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 1,380 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Tref Alaw |
Cyfesurynnau | 53.327248°N 4.387343°W |
Cod SYG | W04000028 |
Cod OS | SH4110483805 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Pentref a chymuned yn Ynys Môn yw Llannerch-y-medd ( ynganiad ) (hefyd Llanerchymedd). Fe'i lleolir ger Llyn Alaw yng nghanol yr ynys. Am ganrifoedd bu'n adnabyddus am ei ffair a ddenai gwerthwyr a phrynwyr o bob rhan o'r ynys.[1]
Ceir yma ysgol gynradd, siop gyffredin, siop flodau a siop sglodion yn Llannerch-y-medd yn ogystal â chlwb ieuenctid a pharc.
Tarddiad yr enw
Mae dwy ran i'r enw: llannerch sy'n golygu "lle agored wedi ei glirio" a medd, sef diod alcoholaidd wedi'i gwneud o fêl); mae'n bosib fod yn yr ardal, felly, ddigon o wenynwyr yn y gorffennol.[2]
Capeli
Clorach
- Prif: Clorach
Tua milltir a hanner i'r dwyrain o'r pentref ceir hen blasty Clorach (fferm heddiw), a fu'n gartref i Gwilym ap Tudur a chyrchfa i'r beirdd yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Yn ôl traddodiad llên gwerin a ysbrydolodd gerdd gan Syr John Morris-Jones, arferai'r seintiau cynnar 'Seiriol Wyn' a 'Chybi Felyn' gyfarfod bob wythnos yng Nghlorach am ei fod yng nghanol yr ynys. Lewis Morris yw'r cyntaf i sôn am hynny, yn y 18g. Gan fod Seiriol yn cerdded â'r haul ar ei gefn yno ac yn ôl arhosodd ei wyneb yn wyn, ond y gwrthwyneb yn achos Cybi gan droi ei wyneb yn felyn.
Adeiladau a chofadeiladau
Tafarndai o'r oes a fu
Roedd 15 o dafarndai yn Llannerch-y-medd ar un adeg a'r rheini oedd:
- Blue Bell-Elizabeth Edmonds
- Bell Inn (Hefyd y swyddfa tollau)-Edward Collier
- Cross Keys-David Aubrey
- Crown and Anchor-John Hughes
- Druid-Richard Parry
- George & Dragon-Walter Jones
- King's Head-Evan Williams
- Liver-Richard Price
- Llwydiarth Arms-William Jones
- Lord Nelson-William Aubrey
- Red Lion-John Jones
- Ship-Elizabeth Morris
- Ty Coch-Owen Owens
- Wheat Sheaf-Owen Jones
- White Horse-David Burgess [3]
Busnesau
Roedd un banc, The National Provincial ar agor ar ddydd Mercher. Y rheolwr oedd Samuel Greathead.
Dyma rhestr o fusnesau oedd yn bodoli ym 1850: 6 crydd, 4 cigydd, 4 negeswyr, 10 groser, 10 tafarn, 5 saer, 2 gwneuthurwr hewinedd, 2 cyfrwywr, 2 seiri maen, 2 llawfeddygon, 4 teiliwr, 2 gwneuthurwyr oriawr a chlociau ac 18 busnes teuluol aralll [4]
Côr Meibion y Foel
Cryddion
Yn 1832 oedd yna 250 o gryddion yn gweithio yn Llannerchymedd ond erbyn 1893 dim ond 10 o gryddion yn gweithio yno. Nid oedd y cryddion yn gweithio ar ddydd Sul nac ar ddydd Llun.
Pobl o Lannerch-y-medd
- Gwilym ap Tudur (fl. 1380 - 1413), un o gefnogwyr Owain Glyndŵr
- Richard Parry (Gwalchmai) (1803-1897), bardd, llenor a gweinidog
- William Milton Aubrey (Anarawd) (1861-1889), bardd a hynafiaethydd
Damwain Rheilffordd
Rheilffordd canolbarth Môn - trên cyntaf ar 1 Gorffennaf 1866. Digwyddodd y ddamwain ar y 29ain o Dachwedd, 1877. Digwyddodd law trwm, dychrynllyd, a gorlifodd Llyn y Pandy dros yr argae. Rhuthrodd y trên yn ôl i stesion y Llan ac ail gychwynodd am Rosgoch gyda 3 person arni, y gyrrwr, taniwr a arolygydd y rheilffordd. Ond, roedd y glaw dal i fynd a syrthiodd y trên i mewn i'r afon a'i thrwyn i fyny. Ail adeiladwyd pont newydd o gerrig ac roedd y bont yn cael ei gydnabod fel 'Pont y ddamwain.' Ac mae'r pont dal i sefyll yno rwan.
India Roc 'nymbar 8 Llan'achmedd'
Yn y 1800au, cafodd yr 'India roc' ei chyflwyno i Lannerch-y-medd. Redd ganddo rif 8 arno oherwydd roedd pobl yn dylunio ffurf 'neidr' i greu rhif 8. Roedd yna fasiwn beth a 'pin' 8 pwynt, ond doedd neb yn gwybod pam. Ar ôl i'r dyn cyntaf i gyflwyno India roc farw, cymerodd ei fab Huw y busnes drosodd. Roedd yr India roc yma'n cael ei werthu ym marchnadoedd Llangefni ac roedd yr India roc yn cael ei chadw a'i bacio mewn bocsys bananas.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llannerch-y-medd (pob oed) (1,360) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llannerch-y-medd) (952) | 73.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llannerch-y-medd) (999) | 73.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llannerch-y-medd) (207) | 36.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.