pentref yn Sir Fynwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Llanelli[1][2] (Saesneg: Llanelly). Saif rhwng Bryn-mawr a'r Fenni. Heblaw Llanelli ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Gilwern, Clydach a'r Darren Felen. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 3,810.
Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Poblogaeth | 4,114 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8265°N 3.1158°W |
Cod SYG | W04000786 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Catherine Fookes (Llafur) |
Hyd at 1974, roedd yr ardal yma yn rhan o Sir Frycheiniog. Bu Thomas Price (Carnhuanawc) yn gurad Llanelli o 1816 hyd 1825, a sefydlodd ysgol gynradd Gymraeg yn Nhellifelen, yr unig un yng Nghymru yr adeg honno. Mae Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn mynd trwy'r gymuned.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4]
Syr Thomas Phillips (1801–1867), cyfreithiwr, gwleidydd a dyn busnes a wasanaethodd fel Maer Casnewydd ar adeg Terfysg Casnewydd[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.