pentref yn Sir Fynwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Llandeilo Bertholau[1] (Saesneg: Llantilio Pertholey).[2] Saif i'r gogledd o'r Fenni, heb fod ymhell o'r briffordd A465. Heblaw Llandeilo Bertholau ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentref Llanddewi Ysgyryd. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 3,965.
Eglwys Teilo, Llandeilo Bertholau | |
Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Enwyd ar ôl | Teilo |
Poblogaeth | 3,863 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8414°N 3.0007°W |
Cod SYG | W04001071 |
Cod OS | SO312164 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Catherine Fookes (Llafur) |
Mae'r gymuned yn cynnwys bryn Ysgyryd Fawr, sy'n cyrraedd uchder o 486 medr. Mae Eglwys Sant Mihangel, lle'r arferai Catholigion addoli yn ddirgel yn y 17g, yn awr yn adfail, tra mae Eglwys Sant Teilo yn dyddio o'r 13g. Ymhlith adeiladau nodedig y gymuned, mae Maindiff Court, lle cadwyd Rudolf Hess yn garcharor am gyfnod.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llandeilo Bertholau (pob oed) (3,906) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandeilo Bertholau) (382) | 10.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandeilo Bertholau) (2948) | 75.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llandeilo Bertholau) (678) | 40.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.