pentref ar Ynys Môn From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a phlwyf eglwysig yng nghymuned Llanfair Mathafarn Eithaf, Ynys Môn, yw Llanbedrgoch ( ynganiad ) (hefyd Llanbedr-goch). Saif ar ffordd gefn ychydig i'r gorllewin o'r briffordd A5025 rhwng Pentraeth a Benllech. Mae gwarchodfa natur Gors Goch yn gorwedd ar llyn rhewlifol hynafol.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3°N 4.2°W |
Cod OS | SH509804 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Roedd dau enw amgen ar y pentref a'r plwyf yn y gorffennol, pan fu'n rhan o gwmwd Dindaethwy, sef:
Gwnaed darganfyddiad diddorol yma yn 1994, sef olion sefydliad yn deillio o gyfnod y Llychlynwyr, efallai tua'r 10g. Mae cloddio archaeolegol yma dros y blynyddoedd diwethaf wedi darganfod tystiolaeth yn awgrymu fod Llychlynwyr wedi ymsefydlu yma am gyfnod.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol 1999 gerllaw'r pentref. Ychydig i'r gogledd-orllewin mae gwarchodfa natur Cors Goch.Yn Llanbedrgoch mae yna tŷ o'r enw ty croes. Maer tŷ croes yn un or bythynnod hynnaf yn Ynys Môn.[2] Roedd ysgol gyntaf Llanbedrgoch ar safle'r ganolfan.
Ysgol Gynradd Llanbedrgoch yw ysgol y pentref.
Agorwyd yr ysgol yn y flwyddyn 1901.
Ers talwm roedd yna siop, post a dau ofaint yn y pentref.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.