![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f2/Llangain_church_-_geograph.org.uk_-_578164.jpg/640px-Llangain_church_-_geograph.org.uk_-_578164.jpg&w=640&q=50)
Llan-gain
pentref yn Sir Gaerfyrddin / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llan-gain[1] (hefyd: Llangain). Saif ar y ffordd B4312 rhwng Caerfyrddin a Llansteffan.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 573 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,104.78 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8167°N 4.35°W ![]() |
Cod SYG | W04000527 ![]() |
Cod OS | SN385155 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au | Simon Hart (Ceidwadwr) |
![]() | |
Cau
- Am y pentref yn Swydd Henffordd, gweler Kentchurch.
Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1871 i gymeryd lle yr hen eglwys ganoloesol. Mae wedi ei chysegru i Santes Cain, un o 24 merch Brychan Brycheiniog. Mae yma safle castell canoloesol cynnar, Hengastell, ac adfail o'r 15g a elwir yn Castell Foel neu Green Castle, oedd mewn gwirionedd yn blasdy yn perthyn i'r teulu Reed.
Pan yn fachgen, arferai'r bardd Dylan Thomas ddod ar ei wyliau i blasdy Fernhill yn y plwyf; yn ddiweddarach ysgrifennodd ei gerdd adnabyddus Fernhill.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]