Santes o'r 5g oedd Cain, neu Ceindrych a alwyd Cain Wyry gan fynaich yr Oesoedd Canol. Roedd hi'n un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.[1]
Santes Cain | |
---|---|
Ganwyd | 425 Teyrnas Brycheiniog |
Man preswyl | Morgannwg |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Blodeuodd | 450 |
Dydd gŵyl | 8 Hydref |
Tad | Brychan |
Ymhlith ei chwiorydd roedd Ceinwen a Cynheiddon enwau sydd hefyd yn cael ei talfyrru i Cain neu Geinor neu Ciwa (a'r Saesneg Keyne) Bu hefyd santes a elwid Canna ac mae'r pedair yn cael eu cymysgu yn aml.
Bu cynifer o ddynion yn dymuno priodi Cain fel iddi geisio dianc rhagddynt at lan yr Hafren. Gofynnodd am ganiatâd pennaeth yr ardal i ymgartrefu mewn coedwig. Rhoddodd ei ganiatâd ond esboniodd nad oedd yn bosibl i unrhyw un drigo yn yr ardal oherwydd y pla o nadroedd oedd yno. Gweddïodd Cain, gan ofyn am i'r nadroedd gael eu gwaredu o'r ardal. Ni chafodd unrhyw un eu trafferthu fyth eto, ond mae llawer o ffosilau tebyg i nadroedd yn yr ardal. Tyfodd traddodiad bod ganddi'r gallu i droi'r diafol (ar ffurf neidr) yn gylch o gerrig.[2] Mae ffenestr liw yng Nghapel Cain yng Nghadeirlan Aberhonddu sy'n ei dangos yn sefyll ar ffosilau nadroedd.
Aeth Cain (neu un o'i chwiorydd) i Gernyw ac adeiladodd gell yn ymyl ffynnon tua haner milltir o bentref Sant Keyne. Yn ôl cred leol, y person cyntaf o gwpl sydd newydd briodi i yfed o'r ffynnon fydd yn rheoli'r aelwyd am oes.[3] Adroddir hanes am un pâr priod lle rhedodd y gŵr at y ffynnon yn syth ar ôl y gwasanaeth tra'r yfodd y wraig botel o ddŵr y ffynnon yr oedd wedi cuddio yn ei gwisg priodas.
Dywedir bod ei nai Cadog wedi ei hannog i ddychwelyd i Gymru o Gernyw. Symudodd yn ôl i Langenni ac arhosodd yno i weddïo. Yn y fan ble bu hi'n penlinio, tarddodd ffynnon, a sefydlodd lan yn agos at y man. Rhybuddiwyd Cadog gan Cain y buasai ei llan yn syrthio i feddiant pobl ddrygionus ond buasai eraill yn eu disodli. Buasai rhain yn dod o hyd i'w bedd trwy nerth ei gweddïau hi ac a buasai y fan yn gysegredig ar gyfer addoliad am byth.[3] Dinistriwyd capel Llangenni yn 1790 ond mae'r ffynnon yno o hyd.
Mae nifer o lefydd ac eglwysi ar draws de Cymru sy'n cael eu cysylltu, naill gyda Cain neu un o'i chwiorydd
Maent yn cynnwys Llangenni, ger Crughywel a Llangeinon, Gwent ac efallai Treganna a Pontcanna yng Nghaerdydd (er mae rhai yn cysylltu rhain efo Canna)
Gweler hefyd
- Rhestr Seintiau Cymru
- Ceinwen
- Cynheiddon
- Canna
- Santesau Celtaidd 388-680
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.