Pennaeth Llanfaes ger Aberhonddu (5g), tad i nifer o seintiau. Rhoddodd ei enw i Brycheiniog a sefydlwyd gan ei feibion. From Wikipedia, the free encyclopedia
Pennaeth a thad i nifer o seintiau oedd Brychan (fl. 5g). Ystyrir ef yn sant weithiau gan fod cynifer o'i blant yn seintiau. Rhoes ei enw i Deyrnas Brycheiniog yn ne-ddwyrain canolbarth Cymru. Ei ddygwyl yw 5 Ebrill.
Brychan | |
---|---|
Brychan ar ffenestr yn y Gadeirlan, Aberhonddu. | |
Ganwyd | 400 Talgarth |
Bu farw | 480 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Blodeuodd | 5 g |
Dydd gŵyl | 6 Ebrill |
Tad | Anlach mac Coronac ab Eurbre Wyddel |
Mam | Marchell ferch Tewdrig ap Teithfall ap Teithrin |
Plant | Cynog Ferthyr, Dingad o Landingad, Santes Gwladys, Santes Cain, Santes Dwynwen, Santes Eiluned, Santes Tudful, Santes Tybïe, Cledwyn, Gwen o Dalgarth, Meleri ach Brychan, Belyau ach Brychan, Santes Cynheiddon, Tutglud ach Brychan, Nefyn ach Brychan, Santes Arianwen, Clydai ach Brychan, Santes Gwawr, Tangwystl ach Brychan, Rhiangar ach Brychan, Neithon, Dyfnan, Menfre, Lluan, Cynon, Santes Ceinwen, Cleder, Ilud ach Brychan, Tudwen |
Cyfarfu rhieni Brychan yn Iwerddon ar ôl i'w fam fynd yno er mwyn dianc rhag gaeaf arbennig o oer. Priododd Marchell ach Tewdrig (mam Brychan) a oedd yn bennaeth Llanfaes,[1] ag Anlach ap Coronac, mab i bennaeth Gwyddelig, ar yr amod y byddai eu plant yn cael eu magu ar ei thir hi. Marchell oedd yn berchen Garth Madryn. Ganwyd Brychan, eu hunig plentyn, yng Ngarthmadrun tua'r flwyddyn 500 O.C. Ar ôl i Marchell farw etifeddodd Brychan ei thiroedd i'w trosglwyddo i'w ferched.
Roedd Brychan yn dad i bedwar ar hugain o ferched a tua 11 o feibion yn ôl y Cognatio de Brychan a ysgrifennwyd yn y 10g[1] ond mae wedi'i seilio ar ddogfennau hŷn sydd ymhellach ar goll[1]. Mae'r 'Cognatio' yn enwi ei ferched fel a ganlyn:
Daeth y rhan fwyaf ohonynt yn seintiau gan sefydlu llannau yn ne a dwyrain Cymru'n bennaf. Yn ôl y Cognatio, ei fechgyn oedd:
Enwir nifer o eglwysi, yn y de a'r canolbarth yn bennaf, ar ôl Brychan a'i ddisgynyddion; bu Brycheiniog yn bwysig yn natblygiad Cristnogaeth Geltaidd[3]. Disgrifiodd John Davies de-ddwyrain Cymru fel "meithrinfa'r Eglwys Geltaidd a chroth gweithgarwch a adfywiodd Ewrop." [3]
Ffurfwyd Brycheiniog fel cyngrhair rhwng rhai o feibion Brychan ar ôl ei farwolaeth er mwyn amddiffyn eu hunain rhag llwythau eraill.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.