Gwladwriaeth Islamaidd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfundrefn ymbarél derfysgol yw'r Wladwriaeth Islamaidd[9] (Arabeg: الدولة الإسلامية ad-Dawlah l-ʾIslāmiyyah) (Saesneg: Islamic State (IS)) a adnabyddir cynt fel Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant (Arabeg: الدولة الاسلامية في العراق والشام اختصاراً: داعش Dawlat al-ʾIslāmiyya fi al-'Iraq wa-l-Sham), ISIS neu ISIL. Yn 2014 roedd ei haelodau'n weithgar yn Irac a Syria. Bwriad y grŵp a'i gynghreiriad yw sefydlu gwladwriaeth Islamaidd Sunni ffwndamentalaidd a fyddai'n ymestyn o'r Lefant i Gwlff Persia a gweddill y byd. Galwant eu hunain yn galiffad, ac maent yn hawlio awdurdod crefyddol dros pob Mwslim dros hyd a lled y byd[10] a cheisiant reoli'n wleidyddol gwledydd Mwslemaidd y byd,[11] gan gychwyn gydag Irac, Syria a thiriogaethau'r Lefant (yr Iorddonen, Israel, Palesteina, Libanus, Cyprus a rhan o dde Twrci.[12][13]
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
Y Wladwriaeth Islamaidd الدولة الإسلامية (Arabeg) ad-Dawlah l-ʾIslāmiyyah |
|||
---|---|---|---|
Motto: باقية وتتمدد (Arabeg) "Bāqiyah wa-Tatamaddad" (trawslythreniad) "Y gweddill sy'n cynyddu"[1][2] |
|||
Prifddinas | Ar-Raqqah, Syria[3][4] 35°57′N 39°1′E | ||
Llywodraeth | Califfiaeth | ||
- | Caliph | Ibrahim[5][6] | |
Sefydliad | |||
- | Cyhoeddi sefydlu Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant | 3 Ionawr 2014[7][8] | |
- | Cyhoeddi Califfiaeth | 29 Mehefin 2014 | |
Rhanbarth amser | Amser Safonol Arabia Amser +3) | ||
Côd deialu | +963 (Syria) +964 (Iraq) |